Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Daear Well

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 2

Fideo

(Edrychwch ar y wefan  www.youtube.com/watch?v=QI29D4tamKs)

Daear well 
(4 munud 14 eiliad)

Mae’r gwasanaeth hwn yn dilyn llwybr cyflawn, gyda deunydd myfyriol tua’r diwedd. 


Mae’n bosib, wrth gwrs, y byddech yn dymuno ymestyn hyn wedi i’r fideo ddod i ben. Gwelwch syniadau’n dilyn.

Rydym yn argymell eich bod yn gwylio’r fideo cyn ei ddefnyddio gyda’ch cynulleidfa.

Fe all ansawdd rhywfaint o’r deunydd ymddangos yn wael – mae hyn oherwydd oedran y delweddau sydd wedi cael eu defnyddio.

Crynodeb

Mae’r gwasanaeth hwn yn dechrau gyda hanes cryno o sut y datblygodd seryddiaeth fel gwyddor, ac yna mae’n symud ymlaen at eiriau gofodwr yr Apollo 11, a’r un a gerddodd ar y lleuad, sef Buzz Aldrin, sy’n ein hannog i barhau i archwilio’r gofod. Mae’n ychwanegu’r datganiad: os gallwn ni archwilio’r gofod, fe allwn ni ddatrys y broblem bod plant yn newynu yn ein byd.

Themâu

Cyfathrebu’n effeithiol.

Anelu at nod
Dal ati i ddysgu/ symbyliad

Cân/cerddoriaeth

The Planets gan Holst

Unrhyw gerddoriaeth electronig, fel ‘Oxygene’ gan Jean-Michel Jarre

Emynau’n ymwneud â’r byd a’r greadigaeth, neu gariad Duw.

Amser i feddwl

(Goleuwch gannwyll a gadewch i’r myfyrwyr feddwl am yr yn y maen nhw newydd ei weld a’i glywed.)

Buzz Aldrin oedd peilot y llong ofod a anfonwyd i lanio’r bod dynol cyntaf ar y lleuad. Dychmygwch pa mor anhygoel oedd y profiad hwnnw.

Meddyliwch pa mor rhyfeddol oedd cael bod yn rhan o’r tîm hwnnw o bobl a oedd yn cydweithio i gael Buzz a Neil Armstrong i lanio ar y lleuad. Mae

Buzz yn dweud, os gallwn ni wneud hynny, fe allwn ni hefyd ddatrys problem newyn yn ein byd.

Tybed sut y gallai pob un ohonom gyfrannu tuag at y nod hwnnw.

Gweddi

Rydyn ni’n diolch am y meddyliau rhyfeddol sydd gennym,
a’r ffaith y gallwn ni, wrth weithio gyda’n gilydd, gyflawni cymaint.
Helpa ni i weithio tuag at adeg pan na fydd newyn yn y byd,
adeg pan fydd gan bawb ddigon i’w fwyta,
a’r Ddaear yn well lle, yn wir, i bawb sy’n byw arni.

Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Medi 2012    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon