Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Pe Bawn I'n Gallu Llunio Deddf...

Dathlu ac ystyried llwyddiant pobl ifanc sy’n gwneud ffilmiau ac sydd â rhywbeth i’w ddweud.

gan Gordon Lamont

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 2

Nodau / Amcanion

Dathlu ac ystyried llwyddiant pobl ifanc sy’n gwneud ffilmiau ac sydd â rhywbeth i’w ddweud.

Paratoad a Deunyddiau

Gwasanaeth

  1. Dangoswch y ffilm rydych chi wedi ei dewis, a gofynnwch y cwestiynau canlynol i’r plant.

    – Beth ydych chi’n feddwl o’r ddeddf sy’n cael ei hawgrymu yma – a yw’n syniad da?
    – Pam rydych chi’n ei hoffi?
    – Allwch chi weld unrhyw broblemau gyda’r ddeddf hon?
    – Beth oeddech chi’n ei feddwl o’r ffilm ei hun? Oedd hi wedi ei chynhyrchu’n dda, a pha mor glir roedd hi’n cael y neges drosodd i chi?
    – Oedd rhywbeth roeddech chi’n benodol yn ei hoffi, neu ddim yn ei hoffi, ynghylch y ffilm?

  2. Eglurwch fod y ffilmiau wedi cael eu cynhyrchu ar gyfer cystadleuaeth flynyddol sy’n cael ei rhedeg gan y Senedd a’r  mudiad Makewaves. Mae’r gystadleuaeth yn rhoi cyfle i bobl ifanc ddweud wrth y Senedd am ddeddf y bydden nhw’n hoffi ei llunio, a hynny trwy gyfrwng ffilm sy’n para tri munud.

  3. Awgrymwch fod deddf dda yn anodd ei llunio! Mae hynny oherwydd y ffaith y dylai fod yn glir, yn hawdd ei deall, ac yn newid rhywbeth er gwell. Fe ddylai hefyd fod yn deg â phawb, nid dim ond yn gweddu i un grwp neilltuol yn unig. 

Amser i feddwl

Oes un ddeddf yr hoffech chi ei llunio?

Treuliwch foment yn meddwl am eich deddf - cofiwch fod rhaid iddi fod yn glir, yn hawdd ei deall, ac yn newid rhywbeth er gwell.

Fe ddylai hefyd fod yn deg â phawb, nid dim ond yn gweddu i un grwp neilltuol yn unig.

Ar ôl ysbaid, gofynnwch am unrhyw awgrymiadau, os yw’r amser yn caniatáu. Fel arall, awgrymwch y gallai’r plant feddwl am hyn wedi iddyn nhw fynd yn ôl i’r dosbarth ac/neu fe ddowch chi’n ôl at y pwnc mewn gwasanaeth arall.

 

Dyddiad cyhoeddi: Hydref 2013    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon