Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

A Yw Hyn O Ddifrif Yn Amhosibl?

gan Kirk Hayles

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Helpu i ailfeddwl am heriau, o fod yn  achos o ‘alla i ddim’, i fod yn achos o ‘alla i ddim ar hyn o bryd.

Paratoad a Deunyddiau

  • Mae’r gweithgaredd yn y gwasanaeth hwn yn cynnwys defnyddio siswrn, felly dewiswch eich gwirfoddolwyr yn briodol.
  • Fe fydd arnoch chi angen pedwar neu wyth gwirfoddolwr, pedair tudalen A3 o bapur, pum tudalen A4 o bapur, a phedwar siswrn.
  • Edrychwch ar y lluniau sydd wedi eu cynnwys yn nhestun y gwasanaeth hwn i’ch helpu chi gyda thorri’r papur i wneud y ‘tric’ yng ngham 3 isod. Mae’n syniad da ymarfer hyn o flaen llaw cyn y gwasanaeth.

Gwasanaeth

  1. Dywedwch wrth y plant bod gennych chi her iddyn nhw. Gwahoddwch bedwar o’r gwirfoddolwyr i ddod atoch chi a rhowch daflen A3 o bapur bob un iddyn nhw, a siswrn.

    Dywedwch eich bod eisiau iddyn nhw dorri’r papur yn y fath fodd fel y byddan nhw’n gallu dringo trwyddo heb rwygo’r papur. Rhowch funud neu ddau iddyn nhw gyflawni’r dasg..

    Yna, rhowch gyfle i’r plant, fesul un, wthio’u hunain trwy’r twll maen nhw wedi ei wneud yn y papur. Mae’n debyg y bydd y rhan fwyaf wedi gallu gwneud hyn a rhowch gymeradwyaeth i bob un yn ei dro, wrth iddo ef neu hi gyflawni’r her.

  2. Nawr, dangoswch daflen bapur maint A4 iddyn nhw gan ofyn i’r un plant, neu bedwar gwirfoddolwr arall, geisio gwneud yr un fath gyda’r papur hwn – sy’n llai. Rhowch daflen i bob un a dymunwch yn dda iddyn nhw gyda’r her hon sydd yn amlwg yn anoddach. Efallai y byddai plentyn sydd ddim yn fawr iawn yn gallu mynd trwy dwll wedi ei dorri yn y papur, ond mae’n debyg y bydd mwy o rwygo y tro hwn.

  3. Pan fydd y plant wedi gorffen eu hymdrechion, dangoswch y daflen A4 sydd ar ôl gennych chi, a holwch y plant ydyn nhw’n meddwl y gallwch chi dorri’r papur a dringo trwyddo. Dywedwch eich bod yn ffyddiog y byddwch chi’n gallu gwneud hyn ac, yn wir, eich bod yn meddwl y gallech chi gael dau neu fwy ohonoch chi hyd yn oed trwy’r papur ar yr un pryd. Gofynnwch i’r plant ‘Ydych chi’n meddwl bod hynny’n bosib?’

    Dilynwch y cyfarwyddiadau isod a chyfeiriwch at y ffotograffau sydd wedi eu darparu gyda’r gwasanaeth hwn, gan dorri’r papur yng ngwydd y plant.

    (a) Plygwch y papur yn ei hanner, yr ochrau byr gyda’i gilydd, fel ei fod yn edrych fel llyfr. Rhowch y papur ar arwyneb gyda’r ochr wedi ei phlygu agosaf atoch chi (efallai y byddwch chi’n gallu gwneud hyn, ar ôl ymarfer rhywfaint, heb yr arwyneb i roi’r papur arno - fe fyddai’r plant yn gallu gweld yn well wedyn beth fyddwch chi’n ei wneud).

    (b) Torrwch ar draws yr ochr sydd wedi ei phlygu, tua 1cm o’r ymyl chwith, gan dorri mewn llinell syth tuag at yr ymyl agored sydd gyferbyn â’r plygiad. Stopiwch dorri tua 1cm cyn cyrraedd yr ymyl gyferbyn, fel na fyddwch chi’n torri ar hyd y ffordd ar draws (neu fe fyddwch chi’n cael dim ond stribed cul o bapur wedi torri).

    (c) Trowch y papur yn llorweddol trwy 180 gradd, fel bod yr ymyl sydd wedi ei phlygu nawr draw oddi wrthych chi, a’r ymyl agored yn eich wynebu. Torrwch ar draws dwy ymyl y papur yn gyfochrog â’r toriad cyntaf, a thua 1cm o’r dde oddi wrtho. Fel o’r blaen, stopiwch dorri tua 1cm o’r ymyl sydd wedi ei phlygu.

    (d) Ail adroddwch y ddau gam hwn ((b) a (c)), gan dorri bob yn ail, o’r ymyl blygedig at yr ymyl agored, ac o’r ymyl agored i’r ymyl blygedig, nes byddwch chi wedi gwneud toriadau ar draws y papur. Bob tro, cofiwch stopio tua 1cm o’r pen draw. Pan fyddwch wedi gorffen, fe ddylai fod gennych chi stribed igam ogam o bapur.

    (e) Edrychwch ar yr ymyl oedd wedi ei phlygu. Fe ddylai fod gennych chi gyfres o ddolenni papur. Torrwch ar hyd plygiad pob dolen - AR WAHÂN i’r ddolen GYNTAF a’r OLAF - mae'n bwysig eich bod yn gadael y rhain heb eu torri, neu fydd y tric ddim yn gweithio.

    (f) Yn ofalus, agorwch y stripiau sydd yng nghanol y papur gan ofalu peidio â’ u rhwygo.

    Yn awr, fe ddylai fod gennych chi un ddolen sy’n ddigon mawr i chi ac o bosib rywun arall hefyd, ddringo trwy’r cylch papur gyda’ch gilydd.
    1787 - papercut 11787 - papercut 21787 - papercut 3




  4. Pwysleisiwch neges allweddol y ‘tric’ hwn, sef bod yr hyn sy’n ymddangos yn amhosib YN bosib ambell waith - dim ond i chi fod yn gwybod sut. Dywedwch wrth y plant fod rhai pethau’n amlwg na fedrwch eu gwneud - fel neidio i’r awyr a hedfan heb help i ben coeden - ond, yn achos rhai pethau eraill sy’n anodd ac efallai’n ymddangos yn amhosib, yn lle dweud ‘Alla i ddim gwneud hyn,’ fe allwch chi ddweud, ’Alla i ddim gwneud hyn nawr, ond efallai, ryw dro ....’ 

    Rhowch enghreifftiau o bethau mae pobl wedi llwyddo i’w gwneud, fel glanio ar y lleuad - rai blynyddoedd yn ôl roedd pobl yn meddwl y byddai hynny’n amhosib. Enghraifft arall fyddai tynnu sefydlyddion (stabilizers) oddi ar feic plentyn am y tro cyntaf iddo - mae’n anodd ar y dechrau, ond ddim yn amhosib i blentyn reidio’r beic heb y rhain.  Ac fe fyddai’n hawdd i’r plentyn ddweud ‘Alla i ddim.’ 

    Efallai y byddai’n well dweud ‘Alla i ddim ar hyn o bryd’. Mae hyn yn wir hefyd am bethau fel gweithgareddau mathemateg, rydych chi’n gweld y gwaith yn anodd ar hyn o bryd efallai, ond mwy na thebyg y byddwch chi’n gallu ei wneud yn ddidrafferth cyn hir.

  5. Os oes amser, fe allech chi ofyn i’r plant awgrymu rhai enghreifftiau o bethau allan nhw ddim eu gwneud ar hyn o bryd, ond y byddan nhw’n meddwl neu’n gwybod y byddan nhw’n gallu eu gwneud ryw ddiwrnod.

Amser i feddwl

Gofynnwch i’r plant feddwl am un peth maen nhw’n methu ei wneud. Yna gofynnwch iddyn nhw, ‘Sut byddech chi’n llwyddo i wneud hynny heddiw?’

Gweddi

Annwyl Dduw,
Helpa fi i feddwl am yr holl bethau rydw i’n eu cael yn anodd eu gwneud.
Helpa fi i feddwl yn gadarnhaol am y pethau hyn gan gofio efallai y byddaf, ryw ddiwrnod – fory, efallai, neu’r wythnos nesaf, mewn mis, neu mewn blwyddyn – yn gallu gwneud y pethau hynny.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Awst 2013    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon