Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Fe Ddechreuodd Gyda Gwen

gan Kirk Hayles

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Helpu plant i feddwl sut mae’r gweithredoedd lleiaf yn gallu cael effaith o ddifrif.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen cael chwech o blant i ddechrau gêm o ‘Sibrwd Stori’ (Chinese whispers). Paratowch rai brawddegau gwirion  y gallwch chi eu defnyddio, fel er enghraifft, ‘Mae gen ti draed blewog ond rwy’n gwybod dy fod yn hoffi chwarae pêl fasged!’

Gwasanaeth

  1. Gofynnwch i’r plant ydyn nhw wedi bod yn chwarae Sibrwd Stori ryw dro? Beth yw hynny? Chinese whispers yw’r enw Saesneg.

  2. Gosodwch chwech neu fwy o blant mewn rhes, gan egluro iddyn nhw eich bod yn mynd i sibrwd rhywbeth wrth y plentyn cyntaf, ac mae yntau’n mynd i sibrwd yr un stori wrth yr ail blentyn, ac felly ymlaen ar hyd y rhes nes bydd y stori wedi cyrraedd y plentyn olaf. Dydyn nhw ddim i fod i newid y geiriau o gwbl, rhaid iddyn nhw adrodd y stori wrth y nesaf yn union fel maen nhw wedi ei chlywed.

  3. Gofynnwch i’r plentyn olaf beth oedd y stori a glywodd ef neu hi.

  4. Wedyn, dywedwch chi wrth y plant a’r gynulleidfa beth oedd y stori wreiddiol a wnaethoch chi ei sibrwd wrth y plentyn cyntaf.

  5. Chwaraewch y gêm unwaith eto, gyda stori wahanol y tro hwn.

  6. Nodwch pa mor wahanol oedd y fersiwn derfynol i’r stori wreiddiol, gan egluro na allwn ni byth wybod o ddifrif beth ddywedwyd gyntaf gydag unrhyw stori unwaith y mae wedi cael ei throsglwyddo o’r naill berson i’r llall. Allwn ni, er enghraifft, wybod i sicrwydd bod rhywun wedi dweud y peth a’r peth o ddifrif oni bai ein bod wedi clywed hynny’n uniongyrchol gan yr unigolyn hwnnw?

  7. Eglurwch i’r plant bod yr hyn rydyn ni’n ei ddweud, a’i wneud, yn cael effaith mewn rhyw ffordd bob amser, ac yna adroddwch y stori ganlynol wrthyn nhw.

    Un diwrnod, roedd merch fach yn cerdded yn y parc gyda’i theulu pan ddaeth dyn i’w cyfarfod a golwg trist ar ei wyneb. Roedd y ferch fach yn meddwl tybed pam roedd y dyn y drist. Felly, fe wenodd yn garedig arno wrth iddo eu pasio. Fe wnaeth gwên y ferch fach i’r dyn deimlo’n well.

    Roedd gwên garedig y ferch fach wedi ei atgoffa o ba mor garedig yr oedd ffrind wedi bod wrtho ychydig ynghynt ac fe benderfynodd ysgrifennu llythyr y noson honno i’w ffrind i ddiolch iddo am ei garedigrwydd.

Pan gafodd y ffrind ei lythyr roedd y ffrind yn teimlo’n hapus iawn. Fe fyddai wrth ei fodd bob amser yn derbyn llythyr yn diolch am rywbeth. Roedd mor hapus, ac yn teimlo mor dda, fe adawodd ychydig bach o arian ychwanegol i’r un oedd yn gweini arno yn y caffi wrth iddo dalu am ei ginio y diwrnod hwnnw.

Ar ôl i’r dyn oedd yn gweini yn y caffi orffen ei waith, roedd yn cerdded adref ar hyd y stryd. Ac am fod ganddo arian ychwanegol yn ei boced fe roddodd ychydig o ddarnau arian i’r dyn oedd yn eistedd ar y palmant.

Roedd y dyn hwnnw’n falch iawn oherwydd roedd arno eisiau bwyd yn ofnadwy, ac yn awr roedd ganddo ddigon o arian i fynd i rywle i brynu pryd iawn o fwyd. Wedi iddo fwynhau ei bryd bwyd, roedd hi’n oeri a thywyllu erbyn hyn, ac yn dechrau bwrw glaw, a chychwynnodd gerdded yn ôl i’r llety, lle’r oedd yn aros.

Ar ei ffordd i’w lety, yn yr oerni a’r glaw, fe welodd gi bach oedd ar goll. Roedd yn crynu yn yr oerfel, ac roedd yn ymddangos fel petai ei berchennog wedi ei adael. Felly, fe benderfynodd y dyn fynd â’r ci bach gydag ef i’w lety dros nos fel y gallai fynd ag ef i’r lloches anifeiliaid y bore wedyn.

Y noson honno, fe aeth y ty lle’r oedd y dyn yn aros ar dân. Dechreuodd y ci bach gyfarth a chyfarth, gan ddeffro pawb oedd yn y ty. Galwyd ar y gwasanaeth tân ac fe arbedwyd pawb oedd yn y ty.  

A dyna i chi stori. Fe ddigwyddodd hyn i gyd oherwydd un wên fach syml oedd wedi costio dim i neb!

  1. Ailadroddwch y stori eto’n fyr gyda’r plant, gan ddweud pe na bai’r ci bach wedi cyfarth, fe allai pawb oedd yn y llety hwnnw fod wedi llosgi neu ddioddef effeithiau mwg. Pe na bai’r dyn wedi mynd â’r ci bach i’r llety fyddai’r ci bach ddim wedi bod yno i gyfarth. Pe na bai’r dyn oedd yn gweini yn y caffi wedi rhoi ychydig o ddarnau arian i’r dyn ar y stryd, fyddai hwnnw ddim wedi mynd am bryd o fwyd ac wedi gweld y ci bach ar ei ffordd adref. Pe na bai’r dyn oedd wedi cael y llythyr diolch wedi rhoi arian ychwanegol i’r dyn oedd yn gweini yn y caffi wrth dalu am ei ginio fyddai hwnnw ddim wedi rhoi ychydig o ddarnau arian i’r dyn ar y stryd. Pe na bai’r dyn oedd wedi anfon y llythyr wedi codi calon y dyn aeth i’r caffi i gael cinio, trwy ddiolch iddo, fyddai hwnnw ddim wedi bod mewn cystal hwyliau ac efallai na fyddai wedi gadael arian ychwanegol i’r un a oedd yn gweini arno yn y caffi. Ac efallai na fyddai’n dyn oedd wedi anfon y llythyr diolch yn y lle cyntaf wedi cofio gwneud hynny oni bai bod y ferch fach wedi gwenu’n garedig arno yn y parc.  Felly, oherwydd un wên fach garedig, fe arbedwyd bywyd pawb oedd yn y llety y noson honno.

    Eglurwch fod pethau y byddwn ni’n eu gwneud a’u dweud yn gallu cael effaith heb i ni wybod. Fyddwn ni byth yn gwybod pwy fydd yn cael eu heffeithio, nac ym mha ffordd. Ond efallai y dylem bob amser feddwl os yw’r pethau y byddwn yn eu dweud a’u gwneud yn gadarnhaol mae’n debyg y bydd yr effaith yn gadarnhaol hefyd yn y pen draw.

Amser i feddwl

Gweddi

Annwyl Dduw,
Helpa fi i feddwl am yr hyn y byddaf yn ei ddweud a’i wneud.
Helpa fi i sylweddoli bod hyd yn oed rhywbeth mor fach â gwên yn gallu cael effaith fawr.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Hydref 2013    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon