Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Josie a Jake a'r Camgymeriad Mawr

Ystyried beth yw’r peth iawn i’w wneud pan fyddwch chi’n anufudd ac yn gwneud camgymeriadau.

gan Janice Ross

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 1

Nodau / Amcanion

Ystyried beth yw’r peth iawn i’w wneud pan fyddwch chi’n anufudd ac yn gwneud camgymeriadau.

Paratoad a Deunyddiau

  • Dim angen paratoi deunyddiau, dim ond ymgyfarwyddo â’r stori.

Gwasanaeth

  1. Roedd Josie a Jake yn ffrindiau mawr. Roedden nhw wedi bod yn mynd i’r Cylch Meithrin gyda’i gilydd pan oedden nhw’n ddwy oed. Yna, roedden nhw wedi bod yn mynd gyda’i gilydd i’r Dosbarth Meithrin yn yr ysgol. Roedden nhw wedi bod yn y Dosbarth Derbyn wedyn, ac yn awr roedden nhw wedi dechrau yn Blwyddyn 1, ac yn dal i fod yn ffrindiau da.

  2. Adroddwch y stori ganlynol.

    (‘Josie and Jake and the Big Mistake’ yw enw’r stori wreiddiol yn Saesneg, ond dyma fersiwn Gymraeg - Josie a Jake a’r Camgymeriad Mawr’.)

    Bore dydd Llun oedd hi , ac roedd Josie a Jake wedi sylwi bod llawer o daclau ysgrifennu ar fwrdd yr athro. Roedd yno greonau tew, pinnau ffelt tew, pinnau ffelt tenau, sialciau pastel, a siarcol hyd yn oed. Y siarcol oedd hoff gyfrwng Jake. Roedd Jake o ddifrif yn hoffi rhwbio’r siarcol dros y papur a gwneud lluniau llanast gyda’r siarcol a rhwbio’i fys drostyn nhw wedyn i smwtsio’r cyfan!

    ‘Nawr, blant,’ meddai  Mr Donaldson yr athro, ‘rydych chi wedi bod yn dysgu gwneud marciau ar eich papur gyda phob math o wahanol bethau. Rydych chi wedi bod yn gwneud llinellau tew a llinellau tenau, llinellau trwm tywyll a llinellau ysgafn golau, llinellau syth a llinellau crwm. Rydych chi i gyd wedi dod yn dda iawn am ddefnyddio’r gwahanol offer yma yn y ffordd iawn, ac felly rydw i’n meddwl eich bod yn ddigon clyfar erbyn hyn i allu defnyddio pensil newydd bob un i wneud eich gwaith heddiw.’

    Gyda hynny, fe roddodd Mr Donaldson yr holl daclau ysgrifennu i gadw yn y cwpwrdd ac fe ddaeth â bocs o bensiliau newydd sbon i’r plant. Roedd Josie’n teimlo’n gyffrous. Fe ddewisodd hi bensil newydd o’r bocs, lliw coch oedd y tu allan i’r bensil a blaen pigog iddi. Ac ar ei phen yr oedd rhwbiwr gwyn glân . Roedd Jake wrth ei fodd hefyd, ac fe ddewisodd ef bensil las. Roedd gan honno flaen pigog hefyd a rhwbiwr gwyn glân ar y pen arall.

    ‘Nawr,’ meddai Mr Donaldson, ‘fe allwch chi i gyd geisio ysgrifennu eich enw. Llenwch y dudalen gyda’ch enw os ydych chi eisiau, er mwyn i chi gael digon o ymarfer. Os byddwch chi’n gwneud camgymeriad, peidiwch â phoeni. Rhowch linell drwy’r camgymeriad gyda’ch pensil a rhowch gynnig arall arni. Er bod gan bob un ohonoch chi rwbiwr gwyn glân ar ben eich pensil, dydw i ddim eisiau i unrhyw un ohonoch chi ddefnyddio’r rhwbiwr heddiw.’

    Roedd Josie ar frys i gael dechrau ar y gwaith. Fe ganolbwyntiodd hi’n ddyfal iawn. Doedd y llythyren ‘J’ ddim yn anodd iddi hi, ac roedd yr ‘o’ yn hawdd. Ond roedd hi bob amser yn cael ychydig o drafferth i ysgrifennu’r llythyren ‘s’. Fe geisiodd ei gorau, ond, o diar, roedd ei llythyren ‘s’ yn gam ac yn llawer rhy fawr yn ymyl yr ‘o’ fach daclus yr oedd hi wedi ei gwneud cyn hynny. Ond doedd hi ddim eisiau difetha ei gwaith trwy roi llinell trwy ei chamgymeriad, fel roedd Mr Donaldson wedi dweud wrthyn nhw am ei wneud. Fe fyddai pawb yn gallu gweld ei bod wedi gwneud camgymeriad wedyn!

    Beth ydych chi’n ei feddwl wnaeth Josie?

    Ie, dyna chi, fe ddefnyddiodd hi’r rhwbiwr i rwbio’r llythyren ‘s’ flêr. Doedd rhwbio ddim yn hawdd iawn. Roedd hi’n dal i allu gweld ôl y llythyren ar y papur, ond doedd o ddim yn rhy ddrwg. Fe ysgrifennodd lythyren ‘s’ arall ar ben yr un gyntaf ac roedd honno’n well yr ail dro. Y llythyren nesaf oedd ‘i’, ac roedd honno’n ddigon hawdd. Fe wnaeth Josie lythyren ‘i’ daclus iawn, ond pan geisiodd hi ysgrifennu’r llythyren olaf, ‘e’, fe wnaeth ei hysgrifennu y tu ôl ymlaen, ac roedd yn llawer rhy fawr. Unwaith eto, fe drodd Josie ei phensil a dechrau rhwbio’r llythyren ‘e’ roedd hi newydd ei gwneud, i gael gwared â’i chamgymeriad.

    Roedd hi wedi bod yn canolbwyntio’n ddyfal iawn wrth ysgrifennu ac wedi pwyso’n eithaf trwm ar ei phensil hefyd, ac oherwydd hynny roedd hi’n anodd rhwbio’r ‘e’ anghywir, roedd hi’n dal i allu gweld yr ‘e’. Fe geisiodd ysgrifennu ‘e’ arall ar ben yr un gyntaf. O, na! Roedd hon hefyd y tu ôl ymlaen ganddi, ac yn llawer rhy ddu. Erbyn hyn roedd y rhwbiwr yn ddu hefyd, ac wrth i Josie druan geisio rhwbio’r ail ‘e’ fe aeth yn farc du hyll ar ei phapur, ac fe grychodd y papur hefyd. Yn wir, erbyn hyn roedd tipyn o olwg ar ei phapur, ac roedd Josie’n teimlo fel crio. Ond pan edrychodd hi ar Jake, roedd mwy o olwg ar ei bapur o! Roedd Jake wedi defnyddio ei rwbiwr ef hefyd ac roedd Jake wedi rhwbio cymaint nes ei fod wedi gwneud twll yn ei bapur! Wel, wel! Fe welson nhw Mr Donaldson yn dod atyn nhw, ond doedd dim golwg flin ar ei wyneb. Roedd Mr Donaldson yn gwenu. Roedden nhw’n falch o hynny.

    ‘Dewch yma blant, a dewch â ‘ch papur gyda chi,’ meddai Mr Donaldson. ‘Rydw i’n meddwl bod rhai ohonoch chi wedi dysgu gwers heddiw, gyda help ein pensiliau.’

  3. Eglurodd Mr Donaldson i blant y dosbarth bod rhwbiwr, ar ôl arfer ei ddefnyddio’n iawn, yn gyfrwng da i gael gwared â chamgymeriadau sydd wedi eu gwneud wrth ysgrifennu â phensil, ond mae’n anodd gwneud hynny’n iawn. Rhaid i ni ddysgu rhwbio’n ddigon caled i gael gwared â’r marc pensil, ond ddim mor galed fel eich bod yn gwneud llanast, neu hyd yn oed wneud twll yn y papur fel y gwnaeth Jake. Ond, ydych chi’n cofio? Roedd Mr Donaldson wedi gofyn i’r plant beidio â defnyddio’r rhwbiwr ar y diwrnod hwnnw, oherwydd roedd yn gwybod beth fyddai’n digwydd. Roedd rhai o’r plant heb ufuddhau i’r athro, ac fe wnaethon nhw lanast ar eu papur. Ac yn fwy na hynny roedd rhai’n teimlo’n ddrwg am y peth hefyd ar y dechrau.

  4. Pam rydych chi’n meddwl bod Josie’n anfodlon dim ond tynnu llinell trwy ei chamgymeriadau?

    Fe fydd y plant o bosib yn ateb, ‘Roedd hi eisiau cuddio ei chamgymeriadau,’ neu ‘Doedd arni hi ddim eisiau i neb weld y camgymeriad.’

    Mae camgymeriadau pensil yn debyg i’r pethau anghywir y gall pob un ohonom eu gwneud yn ein bywyd, a gwneud llanast o bethau. Pechod mae’r Beibl yn galw’r camgymeriadau hyn. Dydyn ni ddim yn hoffi i bobl weld y camgymeriadau neu’r pethau anghywir hyn. Fe fydden ni’n hoffi gallu eu rhwbio oddi yno a’u cuddio. Ambell dro, os mai dim ond pechod bach ydyw, mae’n bosib i ni allu ei guddio am beth amser. Ond mae tuedd i bechodau bach fynd yn bechodau mwy, ac mae pechodau mwy yn dod yn amlwg iawn i’r rhai sy’n ein hadnabod.

  5. Pan fyddwn ni’n gwneud camgymeriadau o dro i dro fel bydd aelodau ein teulu a’n ffrindiau yn eu gwneud hefyd, fe allwn ni’n syml ddweud, ‘Sori’ neu ‘Mae’n ddrwg gen i’ wrth Dduw, ac fe gawn ni faddeuant. Roedd Mr Donaldson yn gwybod hynny. Fe ddywedodd Josie a Jake, ‘Sori’, ac yn fuan iawn wedyn roedden nhw’n teimlo’n well. Erbyn diwedd yr wythnos roedd Josie wedi dysgu ysgrifennu’r llythyren ‘s’ a’r llythyren ‘e’ yn iawn, a doedd dim rhaid iddi ddefnyddio rhwbiwr wedyn wrth iddi ysgrifennu ei henw.

Amser i feddwl

Treuliwch foment neu ddwy yn meddwl am y pethau rydych chi’n eu gwneud sydd ddim yn iawn . . .

Nawr, ar ôl meddwl hynny, meddyliwch wrth bwy y dylech chi ddweud ‘Sori’ neu ‘Mae’n ddrwg gen i’.

Gweddi
Annwyl Arglwydd Dduw,
Mae pawb yn gwneud camgymeriadau o dro i dro.
Fe fyddwn ni i gyd yn gwneud rhywbeth sydd ddim yn iawn o dro i dro
Helpa ni i fod yn ddigon dewr i gyfaddef, ac i ddweud, ‘Sori,’ neu ‘Mae’n ddrwg gen i’.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Tachwedd 2013    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon