Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Gweddiau dosbarth?

Rhoi i’r plant berchenogaeth y gweddïau y byddan nhw’n eu hadrodd yn yr ysgol.

gan Jude Scrutton

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Rhoi i’r plant berchenogaeth y gweddïau y byddan nhw’n eu hadrodd yn yr ysgol.

Paratoad a Deunyddiau

  • Casglwch rai delweddau, rhydd o hawlfraint, o bobl yn gweddïo a threfnwch fodd o arddangos y rhain yn y gwasanaeth i bawb eu gweld.
  • Casglwch enghreifftiau o weddïau sy’n gyfarwydd i’r plant.
  • Mae’n bwysig bod athrawon y dosbarthiadau eraill yn bresennol yn y gwasanaeth, a’u bod yn ymwybodol o’r gwaith pellach fydd angen ei wneud wedyn (gwelwch Cam 7 isod).

Gwasanaeth

  1. Holwch y plant pa weddïau maen nhw’n eu gwybod.

  2. Trafodwch y rhesymau pam mae pobl yn gweddïo, a pha beth o bethau sy’n cael eu dweud mewn gweddi.

  3. Gofynnwch i’r plant, ‘Pwy sy’n ysgrifennu gweddïau?’

  4. Trafodwch y ffaith y gall unrhyw un ysgrifennu gweddi a, thra mae nifer o weddïau rydyn ni’n eu defnyddio fel rhan o’n crefydd yn weddïau cyffredinol, mae gweddi’n gallu bod yn beth personol yn achos yr un sy’n gweddïo, fel pe byddech chi’n sgwrsio â Duw, a chi sy’n penderfynu beth rydych chi eisiau ei ddweud wrth Dduw.

  5. Soniwch fod y rhan fwyaf o weddïau’n cynnwys un neu fwy o’r agweddau canlynol:

    – addoliad – canmol a moli Duw am yr hyn ydyw
    – cyffes – gofyn i Dduw ein glanhau o bechod
    – diolchgarwch – credu yn Nuw a chydnabod ei ras
    – ymbil – nodi ein dymuniadau penodol yn ein gweddi
    – diwedd – datgan ein diolch a dweud ‘Amen’.

  6. Gofynnwch a oes rhai o’r plant yn awyddus i rannu rhai gweddïau maen nhw’n eu gwybod â gweddill y gynulleidfa. Ceisiwch nodi rhai o’r pum agwedd uchod sydd i’w canfod yn y gweddïau hyn. Os nad oes unrhyw un o’r gynulleidfa’n gwirfoddoli i gynnig enghreifftiau o weddïau, defnyddiwch yr enghreifftiau rydych chi wedi eu casglu eich hunan yn eich gwaith paratoi ar gyfer y gwasanaeth hwn, a dangos i’r plant yr agweddau hyn yn y gweddïau hynny.

  7. Dywedwch wrth y plant y byddan nhw, yn eu gwers addysg grefyddol yn ystod yr wythnos sydd i ddod, yn cael cyfle i ysgrifennu gweddi ddosbarth. Fe fydd y gweddïau hyn wedyn yn cael eu darllen yn y gwasanaeth yr wythnos ddilynol. Ac yna, fe fyddai’n bosib arddangos y gweddïau ym mhob dosbarth, neu gyda’i gilydd mewn un man canolog yn yr ysgol.

Amser i feddwl

Gofynnwch i’r plant feddwl am yr holl bethau y bydden nhw’n gallu diolch i Dduw amdanyn nhw, ac am beth y gallen nhw ofyn i Dduw eu helpu.

Gweddi
(Adroddwch weddi’r Arglwydd gyda’ch gilydd.)
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Tachwedd 2013    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon