Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Her y Tri Chopa

Helpu Plant Mewn Angen

gan Janice Ross

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Ystyried yr heriau mae pobl yn eu gosod iddyn nhw’u hunain er mwyn helpu’r elusen Plant Mewn Angen.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen map o Brydain.
  • Hefyd, soffa lle i ddau, gyda thedi Pudsey yn eistedd arni.
  • Fe fydd angen pedwar oedolyn i godi’r soffa.
  • Casglwch ddelweddau o’r DFS Three Peaks Sofa Challenge for BBC Children in Need, oddi ar y wefan:www.bbc.co.uk/programmes/galleries/p01dn6kl
  • Gwiriwch gyfanswm terfynol yr arian sydd wedi ei gasglu trwy’r ymdrech hon gan gwmni DFS er mwyn Plant Mewn Angen, ar ôl 30 Hydref, i sôn amdano yng Ngham 4.

Gwasanaeth

  • Mis Tachwedd yw’r mis pan fydd llawer o waith da yn cael ei wneud i godi arian at yr elusen Plant Mewn Angen. Mae Pudsey yma gyda ni i’n hatgoffa ni o hynny.
    Yn fyr, ceisiwch annog y plant i sôn am ffyrdd o godi arian sydd wedi cael ei defnyddio yn y gorffennol, yn yr ysgol efallai neu yn y gymuned leol.
    Mae ambell ymdrech yn syml ac yn hawdd, fel gwisgo gwisg ffansi am y diwrnod neu brynu teisennau y mae rhywun wedi eu coginio gartref.
    Ond fe all rhai ymdrechion eraill fod yn llawer mwy heriol. Rydyn ni’n mynd i sôn am un her felly heddiw.

  • Dangoswch y map o Brydain.
    Enw’r her honno yw’r National Three Peaks Challenge - Her y Tri Chopa. Mae’r her yn golygu dringo i gopa tri mynydd uchaf gwledydd Prydain, mynydd uchaf yr Alban, Lloegr a Chymru.

Dangoswch ar y map ble mae  Ben Nevis yn yr Alban, 1344 m, Scafell Pike yn Ardal y Llynnoedd yn Lloegr, 978 m, a’r Wyddfa yng Nghymru, 1085 m.
Mae’r her hon, Her y Tri Chopa yn cael ei chynnal bob blwyddyn. Mae’n golygu dringo i gopa pob un o’r mynyddoedd hyn o fewn 24 awr. Mae’r pellter sy’n rhaid ei gerdded ar y tri mynydd gyda’i gilydd yn 26 milltir. Y mwyafswm o amser y gall y cerddwyr ei roi i gerdded pob mynydd yw tua phedair awr a hanner ar bob un. Mae cyfanswm pellter y ffordd rhwng y tri mynydd yn 462 milltir, ac fel arfer mae’n cymryd tua 10 awr i deithio’r pellteroedd hyn, a chaniatáu bod y drafnidiaeth yn rhwydd.
Mae’r cerddwyr yn wynebu teithiau mewn tywydd gwlyb gyda niwl a chymylau isel, gyda llwybrau creigiog dan draed, sy’n mynd â’u hegni a does dim amser i orffwyso. Ym mhob pen i’r 24 awr maen nhw’n gorfod cerdded a dringo yn y tywyllwch, gan wisgo lampau ar eu pen. Mae’n amlwg bod angen i’r cerddwyr fod yn ffit iawn, ond mae llawer yn cael eu trechu gan flinder ac amodau anodd.
Ar y pwynt hwn fe allech chi ymollwng ar y soffa gan gymryd arnoch eich bod wedi blino’n llwyr.
Mae’n debyg y byddai’r cerddwyr yn falch iawn o allu gorffwys ar soffa fel hon ar ddiwedd y cyfnod 24 awr llafurus a blinedig.

  • Fe benderfynodd rhai o weithwyr cwmni DFS (y cwmni dodrefn) osod sialens iddyn nhw’u hunain i ddringo’r tri mynydd er mwyn codi arian at yr elusen Plant Mewn Angen. Fe wnaethon nhw rannu’n dri grwp o 12, ac fe benderfynwyd bod pob grwp yn dringo i ben un mynydd - fe fyddai hynny’n bendant yn dipyn haws na dringo’r tri mynydd mewn 24 awr.
    Daw’r pedwar oedolyn sydd gennych yn eich helpu i mewn a’ch gwthio oddi ar y soffa. Yna, maen nhw’n codi’r soffa ac yn aros yno gan ddal y soffa i fyny.
    Ond roedd yr her ychydig yn fwy anodd na dim ond cerdded i gopa un mynydd. Roedd pob un o’r 12 aelod oedd ym mhob tîm yn cario soffa lle i ddau, fel hon, i fyny i ben y  mynydd gyda nhw. Dros sgri creigiog, llac, drwy dir corsiog, mewn niwl, a’r gwynt a’r glaw yn gyrru, yng ngolau dydd ac yn nhywyllwch y nos, gan dynnu a gwthio yr holl ffordd i’r copa - a’r holl ffordd i lawr wedyn. Fe lwyddodd pob tîm i wneud hynny o fewn 24 awr ar 30 Gorffennaf.
    Dangoswch y delweddau o’r DFS Three Peaks Sofa Challenge. Dywedwch wrth y pedwar oedolyn (sydd â golwg wedi blino arnyn nhw erbyn hyn) y gallan nhw roi’r soffa i lawr eto, nawr.

  • Nod y timau oedd codi £5,000 ar gyfer Plant Mewn Angen. Roedden nhw’n dal i dderbyn rhoddion hyd 30 Hydref 2013 a chyfanswm terfynol yr arian maen nhw wedi ei gasglu yw . . . (gwiriwch gyfanswm terfynol yr arian a godwyd – gwelwch yr adran ‘Paratoad a deunyddiau’).

    Roedd yr her yn golygu ymdrech fawr i’r rhai a oedd yn cymryd rhan, roedd angen dyfalbarhad ac roedd gofyn cydweithio’n dda fel tîm. Ond fe gafodd pob un fudd mawr o’r ymdrech ac maen nhw’n gwybod y bydd yr arian yn cael ei ddefnyddio i helpu plant sy’n mynd trwy gyfnod anodd.

Amser i feddwl

Pa her y gallech chi ei gosod i chi eich hunan i helpu’r ymgyrch Plant Mewn Angen eleni?
Efallai yr hoffech chi ddewis gwneud rhywbeth a fydd yn golygu rhywfaint o ymdrech.

Gweddi

Annwyl Dduw,
Rydyn ni’n ymwybodol iawn bod llawer o blant mewn angen,
llawer o blant sy’n llai ffodus na ni ein hunain,
yn ein gwlad ni ac mewn gwledydd eraill ledled y byd.
Diolch ein bod i gyd yn gallu helpu ychydig bach drwy ryw ddull neu’i gilydd.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Tachwedd 2013    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon