Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Bwydydd araf

Fe all tyfu eich bwydydd eich hunan wneud i chi ailfeddwl

gan Helen Redfern

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 2

Nodau / Amcanion

Dangos y gall bwydydd araf fod yr un mor flasus â bwydydd cyflym.

Paratoad a Deunyddiau

  • Casglwch rai llysiau diddorol, yn cynnwys moron, courgettes a thomatos.
  • Casglwch wybodaeth am dyfu eich llysiau eich hunan oddi ar y wefan https://tinyurl.com/kf3qp7v
  • Fe fydd arnoch chi angen paratoi darllenydd hefyd (fe fyddai un o fechgyn Blwyddyn 6 yn ddelfrydol).
  • Dewiswch emyn neu gân am y cynhaeaf i’w chanu ar ddiwedd y gwasanaeth.

Gwasanaeth

  1. Gofynnwch i’ch darllenydd ddarllen y gerdd ganlynol.

    Bwydydd Cyflym

    Byrger a sglodion. Mmm.
    Selsig a sglodion. Mmm.
    Chicken nuggets a sglodion. Mmm.
    Dim ond rhoi archeb.
    Barod mewn munud.
    Pryd bwyd mewn bag, i fynd.

    Prydau bwyd i’n gwneud ni’n hapus.
    Bwyd parod handi.
    Pryd bwyd sydyn i wneud i ni wenu.

    Pitsa pepperoni. Mmm.
    Porc sur a melys. Mmm
    Korma cyw iâr a reis. Mmm
    Dim ond ffonio’r archeb.
    Cloch y drws yn canu.
    Pryd bwyd yn barod ichi.

    Prydau bwyd i’n gwneud ni’n hapus.
    Bwyd parod handi.
    Bwyd sydyn i wneud i ni wenu.

    Nwdls mewn potyn. Mmm.
    Pryd bwyd o’r rhewgell. Mmm.
    Ffa pob mewn tun. Mmm.
    Dim ond berwi’r tegell.
    Nau danio’r popty ping.
    Pryd bwyd yn barod mewn dim.

    Prydau bwyd i’n gwneud ni’n hapus.
    Bwyd parod handi.
    Bwyd sydyn i wneud i ni wenu.

  2. Arweinydd:Fe fyddai’r rhan fwyaf ohonom yn cytuno fod bwydydd cyflym yn grêt. Mae bwydydd ‘take away’ yn flasus, ac mae prydau parod mor hawdd i’w paratoi yn sydyn. Nid yw’r bachgen yn ein stori heddiw yn wahanol o gwbl i’r rhan fwyaf ohonom ni yma heddiw. Gadewch i mi ddweud ei stori wrthych chi.

  3. Arweinydd: Darllenwch y stori ganlynol. Newidiwch yr enwau i gyd-fynd â demograffeg yr ysgol, os dymunwch chi.

Bwydydd araf

Bachgen digon cyffredin fel chi a minnau oedd Jac. Roedd wrth ei fodd yn chwarae pêl-droed. Doedd o ddim yn hoff iawn o wneud gwaith cartref. Roedd wrth ei fodd gyda bwydydd cyflym. Doedd o ddim yn hoff iawn o fwyta llysiau.

‘Tyrd, Jac,’ byddai ei fam yn ei ddweud wrtho, gan geisio ei berswadio i fwyta ei lysiau. ‘ Bwyta dy lysiau. Rwyt ti’n gwybod eu bod yn dda i ti. Fe fyddan nhw’n dy wneud di’n fawr ac yn gryf.’

‘Na! Dwi ddim yn eu hoffi!’ byddai Jac yn ei ddweud mewn ffordd ystyfnig. ‘Wna i byth fwyta llysiau. Dydw i ddim yn hoffi llysiau. Hen bethau diflas ydyn nhw. Mae’r rhan fwyaf ohonyn nhw’n wyrdd. Ych! Dydw i ddim yn hoffi bwyta pethau gwyrdd. Mae’n well gen i fwyta byrgers a sglodion a phitsas. Pam na chawn ni rywbeth rydw i’n ei hoffi i’w fwyta?’

Fe fyddai Jac a’i fam yn cynnal sgwrs fel hon bron bob dydd. Ambell dro, fe fyddai Jac yn cael pysgodyn a sglodion fel pryd achlysurol arbennig, ac fe fyddai wrth ei fodd. Fe fyddai’n cael bwydydd cyflym mewn partïon pen-blwydd. Ond fel arfer, o ddydd i ddydd, gartref, fe fyddai ei fam yn mynnu rhoi llysiau ar ei blât.  Ond, fel arfer, fe fyddai Jac yn mynnu eu gadael yn bentwr heb eu cyffwrdd ar ochr ei blât.

Un diwrnod, fe ddywedodd yr athro, Mr Roberts, ar ddiwedd y gwasanaeth ei fod eisiau gwahodd y plant oedd â diddordeb, i ymuno â chlwb garddio yr oedd yn bwriadu ei sefydlu yn yr ysgol.  Roedd gan Jac ddiddordeb. Roedd wrth ei fodd yng nghwmni Mr Roberts. Fe fyddai wrth ei fodd yn cael bod allan yn yr awyr agored, ac roedd yn hoffi’r syniad o gael baeddu ei ddwylo. Doedd ganddo ddim syniad beth fydden nhw’n ei wneud yn y clwb garddio, ond roedd yn awyddus i gael gwybod. Felly fe ymunodd Jac â’r clwb.

Ychydig o fisoedd yn ddiweddarach, fe redodd Jac allan o’r ysgol ar ddiwedd y pnawn, at ei fam, gyda moronen enfawr yn ei law, Hyd yr adeg honno roedd wedi bod yn ddigon tawel ynghylch yr hyn roedden nhw’n ei wneud yn y clwb garddio. A nawr, roedd eisiau cael dweud wrth y byd i gyd!

‘Mam! Mam! Edrychwch beth rydw i wedi ei godi o’r pridd heddiw. Fe wnaethon ni blannu hadau yn y gwanwyn gyda Mr Roberts, ac rydyn ni wedi bod yn gofalu am y planhigion ac yn eu gwylio’n tyfu. Rydyn ni wedi bod yn tynnu’r chwyn oedd yn tyfu o’u cwmpas ac yn gwarchod y planhigyn rhag unrhyw bla a   . . . ’ Oedodd Jac i gael ei anadl, ac ychwanegu, ‘A DYMA FY MORONEN!’

Roedd mam Jac wrth ei bodd. ‘Wel ardderchog Jac!’ meddai. ‘Mae’r foronen yn oren, yn un hir iawn, a braidd yn fudr ar hyn o bryd. Beth wyt ti am ei wneud â hi?’

Edrychodd Jac ar ei fam wedi synnu ei bod yn gofyn cwestiwn mor wirion, ac fe’i hatebodd fel hyn, ‘Wel, ei bwyta, wrth gwrs!’

Edrychodd ei fam arno mewn penbleth wedyn, gan ddweud, ‘Ond llysieuyn yw’r foronen. A dwyt ti ddim yn hoffi bwyta llysiau.’

Ceisiodd Jac egluro. ‘Nid dim ond unrhyw lysieuyn yw’r foronen,’ meddai. ‘Dyma fy llysieuyn i. Fy moronen i yw hon, ac rydw i’n mynd i fwyta hon.’

Ar ôl iddo fwyta’r foronen honno, fe newidiodd bywyd Jac.

Fe ddechreuodd fynd gyda’i daid i’r rhandir lle’r oedd yn tyfu llysiau. Fe ddechreuodd Jac fesur y planhigion wrth iddyn nhw dyfu. Fe ddechreuodd gadw dyddiadur, gan nodi gwahanol bethau roedd o’n sylwi arnyn nhw wrth i’r tymhorau newid. Fe wnaeth fwgan brain allan o ddarnau o bren a chortyn, a’i wisgo â hen ddillad. Pan oedd ganddyn nhw fwy o gourgettes nag roedden nhw’n gwybod beth i’w wneud â nhw, fe chwiliodd am wahanol ffydd o’u coginio, a rhannu rhai â’i gymdogion a’i ffrindiau.

Fe anogodd ei fam i dyfu tomatos mewn bagiau tyfu yn yr ardd gefn.

Fe ddaeth o hyd i wybodaeth am gynllun sy’n cael ei redeg gan Age UK, cynllun o’r enw ‘Adopt a Garden’. Nawr, mae Jac a’i dad yn gofalu am ardd cwpl oedrannus sy’n byw yn eu hymyl, ond sydd wedi mynd i ormod o oed i ofalu am yr ardd eu hunain.

Erbyn hyn mae Jac yn caru llysiau. Mae’n deall faint o foddhad sydd i’w gael wrth dyfu llysiau eich hunan. Mae wrth ei fodd gyda’r gwahanol siapiau a’r gwahanol liwiau, a’r teimlad gwahanol sy’n perthyn i bob llysieuyn. Ac mae wrth ei fodd gyda blas ffres y llysiau erbyn hyn. Mae wedi darganfod nad yw llysiau’n bethau diflas o gwbl.

Amser i feddwl

Arweinydd:Bachgen digon cyffredin fel chi a minnau yw Jac. Mae gan lawer o ysgolion ardd, ac mae llawer o blant yn cael cyfle i brofi’r llawenydd sydd i’w gael wrth dyfu eich blodau a’ch llysiau eich hunan. Mae gan y rhan fwyaf ohonom ninnau bwt bach o ardd, neu iard gefn, neu falconi ble gallwn ninnau hefyd dyfu rhywbeth.

Gadewch i ni dreulio moment neu ddwy yn meddwl am stori Jac wrth i ni wrando ar y myfyrdod canlynol sydd wedi cael ei ysgrifennu gan Jac ei hunan.

Gall y darllenydd ddarllen y myfyrdod canlynol, a’r arweinydd ddarllen y weddi sy’n dilyn.

Bwydydd cyflym, bwydydd araf

Pan fydda i’n mynd i gaffis bwydydd cyflym, fe fydda i’n gwybod yn union beth fydda i’n debygol o’i gael.
Does dim syrpreis. Fe fyddai rhai’n dweud bod hynny’n anniddorol.

Ond, nawr, rydw i’n gwybod  bod cymaint mwy o fwydydd newydd a diddorol i’w darganfod.
Bwydydd o siapiau diddorol sy’n gwneud i mi wenu.
Lliwiau amrywiol, a gwahanol flasau hyfryd.
Dyma’r bwydydd araf. Dyma’r bwydydd diddorol.

Pan gefais i fwyd ‘take-away’ o’r bwyty Indiaidd, wnes i ddim meddwl sut roedd y bwyd wedi ei baratoi.
Wnes i ddim meddwl beth oedd y cynhwysion a oedd yn y pryd bwyd. Doedd gen i ddim diddordeb yn y resipi.

Ond, nawr, rydw i’n sylweddoli bod yr arogleuon a’r blas sydd mewn cyrri wedi ei wneud gartref yn cael eu creu trwy gyfuniad o berlysiau a sbeisys.
Mae’r perlysiau a’r sbeisys hyn wedi eu tyfu’n ofalus, wedi eu dewis yn benodol, ac wedi eu malu’n amyneddgar, a’u cyfuno’n feddylgar.
Mae gwybodaeth leol a thraddodiadol yn cael ei phasio o’r naill genhedlaeth i’r llall er mwyn creu’r cyrri perffaith.
Dyma’r bwydydd araf. Dyma’r bwydydd diddorol.

Pan gefais i bryd parod o’r rhewgell i’w fwyta o flaen y teledu, wnes i ddim sylwi ar beth roeddwn i’n ei fwyta.
Alla i ddim dweud llawer wrthych chi am flas y bwyd. Doedd ei fwyta ddim yn brofiad cyffrous a phleserus.

Ond, nawr, rydw i’n gwybod fod pleser i’w gael wrth faeddu eich dwylo wrth blannu pethau yn y pridd.
Dyna bleser sy’n dod o’r gwaith caled sy’n ymwneud â thyfu eich llysiau eich hunan.
A, nawr, rydw i’n gwybod am y pleser sydd i’w gael wrth helpu i goginio eich prydau bwyd eich hunan.
Dyna’r pleser a gawn ni wrth bilio’r llysiau a’r ffrwythau, eu torri, eu gratio, a throi’r gymysgedd.
Dyma’r bwydydd araf. Dyma’r bwydydd diddorol.

Gweddi
Annwyl Arglwydd Dduw,
Diolch i ti am yr holl bethau da rwyt ti’n eu rhoi i ni.
Diolch i ti am y llysiau a’r ffrwythau hyfryd rwyt ti wedi eu creu.
Diolch i ti am yr haul a’r glaw, ac am y tir ffrwythlon, sy’n helpu’r llysiau a’r ffrwythau i dyfu.
Diolch ei bod hi’n bosib i ni allu tyfu bwydydd blasus yn ein gerddi ac yng ngardd yr ysgol.
Helpa ni i werthfawrogi bwydydd araf.
Amen.

Cân/cerddoriaeth

Emyn neu gân yn diolch am y cynhaeaf.

Dyddiad cyhoeddi: Rhagfyr 2013    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon