Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Dyma fi!

gan Janice Ross

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 1

Nodau / Amcanion

Annog y plant i nodi agweddau ar eu personoliaethau unigol eu hunain a gwerthfawrogi bod pobl eraill yn gydradd ac yn wahanol.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen llyfr ryseitiau mawr. Dewiswch rysáit, unrhyw saig syml, i’w darllen yn ystod y gwasanaeth.
  • Dyfeisiwch ddwy ‘rysáit’ ar gyfer llunio cymeriadau ysgol, ac ysgrifennwch y rhain ar fwrdd gwyn. Dewiswch ddau gymeriad hawdd eu nodi sy’n aelodau o gymuned yr ysgol ar gyfer y pwrpas hwn, fel gofalwr yr ysgol efallai a chynorthwyydd, neu un a fydd yn rhoi cymorth cyntaf (gwelwch enghreifftiau yn dilyn).
  • Holwch faint o blant ac oedolion sydd yn eich ysgol.

Gwasanaeth

  1. Smaliwch eich bod yn darllen trwy’r llyfr ryseitiau a dywedwch wrth y plant eich bod yn ceisio meddwl am rywbeth ychydig yn wahanol i’w goginio i de heno.

    Darllenwch rysáit syml rywbeth sy’n hawdd i’w wneud - y cynhwysion a’r dull. Beth mae’r plant yn ei feddwl?

    Gofynnwch am awgrymiadau beth allech chi ei wneud er mwyn paratoi pryd hyfryd. Gofynnwch i’r plant godi eu dwylo i ddangos pa awgrymiad y bydden nhw’n ei ddewis.

    Nodwch fod rhai ohonom yn hoffi’r un math o fwyd, eraill yn hoffi pethau gwahanol, ond mae pawb ohonom yn mwynhau pryd o fwyd da.
  2. Eglurwch fod gennych chi rysáit anghyffredin yr hoffech chi ei rannu â’r plant - rysáit ar gyfer unigolyn. Yna dangoswch y disgrifiad cyntaf ar y bwrdd gwyn.

    Cynhwysion
    50 g egni
    50 g chwerthin
    25 g hwyl
    1 llond llwy fwrdd o ddifrifoldeb
    Tipyn bach o ddyfalbarhad

    Dull
    Rhowch nifer o offer iddo ef neu iddi hi, a phroblem i’w datrys.
    Galwch arno ef neu hi pan fyddwch chi mewn trafferth.
    Cofiwch ei fod ef neu hi yn hoffi i chi wenu a dweud ‘Ta ta’ ar ddiwedd y pnawn.

    Gofynnwch i’r plant ddyfalu pwy yw’r unigolyn, (e.e. gofalwr /gofalwraig yr ysgol).

  3. Dangoswch yr ail ddisgrifiad ar y bwrdd gwyn.

    Cynhwysion
    150 g gofal
    50 g cydymdeimlad
    25 g gwrando’n dda
    3 llond llwy fwrdd o anogaeth
    Tipyn bach o ddewrder

    Dull
    Rhowch y cyfan mewn lle cynnes diogel.
    Rhowch ddigon o amser i wrando a gofalu am rywun sy’n teimlo’n sâl neu wedi brifo.

    Gofynnwch i’r plant ddyfalu pwy yw’r unigolyn, (e.e. swyddog cymorth cyntaf yr ysgol).

  4. Dywedwch wrth y plant mai ryseitiau yw’r rhain am bobl yn yr ysgol. Gofynnwch  ydyn nhw’n gwybod faint o bobl a phlant sydd yng nghymuned yr ysgol.

    Fe fyddai’r rysáit ar gyfer pob un o’r bobl a’r plant sydd yng nghymuned yr ysgol i gyd yn wahanol. Fe fyddai rhai yn cynnwys llwyaid o ystyfnigrwydd, efallai, neu ddogn da o synnwyr cyffredin, neu dipyn bach o brysurdeb neu ychydig o gefnogaeth, neu barodrwydd i helpu. Fe allai rhai fod â’r un faint o’r un math o gynhwysion, ac fe allai rhai eraill fod â chynhwysion hollol wahanol.

    Ond yr hyn sydd mor ardderchog yw ein bod i gyd yr un mor bwysig â’n gilydd. Rydyn ni i gyd yn dod â blas gwahanol i gymuned yr ysgol. Rydyn ni’n datblygu  i fod yn gymeriadau unigryw ac arbennig. Gwaith yr ysgol yw meithrin pawb gyda gofal a chariad fel y byddwn ni i gyd yn cyrraedd ein potensial llawn.

Amser i feddwl

Gofynnwch i’r plant feddwl tybed beth fyddai’r rysáit am bob un ohonyn nhw yn ei gynnwys.

Wedi i’r plant fynd yn ôl i’w dosbarthiadau, efallai y gallen nhw ysgrifennu ryseitiau penodol ar eu cyfer nhw eu hunain ac eraill, ac fe allen nhw ddyfalu at bwy mae pob un o’r ryseitiau’n cyfeirio wrth wrando ar rai o ryseitiau’r plant eraill. O bosib, fe allai’r athro neu’r athrawes lunio rysáit ar ei gyfer ef neu hi ei hun hefyd.

Gweddi
Annwyl Arglwydd Dduw,
Diolch dy fod ti wedi gwneud pob un ohonom, a diolch dy fod ti wedi gwneud pob un ohonom yn wahanol.
Diolch i ti hefyd ein bod ni’n gydradd yn dy olwg di, ac yn yr ysgol, ac yr un mor bwysig â’n gilydd.
Helpa ni i werthfawrogi ein gilydd
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Ionawr 2014    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon