Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Pa hwyl, pa bryd

gan Gordon Lamont

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 2

Nodau / Amcanion

Meddwl am sut mae pa hwyl fydd arnom ni, a sut mae ein cyfnod o allu canolbwyntio ar bethau, yn newid o dro i dro yn ystod y dydd, ac ystyried sut y gallwn ni reoli hynny.

Paratoad a Deunyddiau

  • Mae Together, y Rhaglen Radio i Ysgolion gan y BBC, wedi cynhyrchu cyfres ar gyfer gwasanaethau addoliad sy’n cynnwys storïau, cerddoriaeth a myfyrdodau ar y thema cylchoedd bywyd, gan gynnwys pynciau sy’n berthnasol i’r gwasanaeth hwn. Fe fydd y rhaglenni hyn yn cael eu darlledu trwy gydol mis Ionawr, ac fe allwch chi ddod o hyd iddyn nhw ar y wefan: www.bbc.co.uk/programmes/b03g64pp
  • Paratowch ddarnau o dost neu ddysglaid o uwd neu rawnfwyd i’w cario i mewn gyda chi ar ddechrau’r gwasanaeth.
  • Dewiswch gerddoriaeth dawel, orffwysol, a threfnwch fodd i’w chwarae wrth i’r plant ymadael ar ddiwedd y gwasanaeth.

Gwasanaeth

  1. Dewch i mewn i’r gwasanaeth gan actio fel petai eich meddwl yn rhywle arall, gan gario’r tost neu’r ddysglaid uwd neu rawnfwyd. Daliwch ati i fwyta, ac yna edrychwch ar eich cynulleidfa fel pe byddech chi’n sylweddoli eich camgymeriad ac ymddiheurwch am fod mor anghwrtais. Dywedwch y byddwch yn sicrhau na fydd hyn yn digwydd eto, ond ychwanegwch, ‘Rydw i’n ei chael hi’n anodd iawn i godi yn y bore y dyddiau yma.’

  2. Rhowch eich brecwast o’r neilltu a gofynnwch i’r plant, ‘Pwy arall sy’n ei chael hi’n anodd codi yn y bore?’ Gofynnwch am rai enghreifftiau o sut mae’r plant yn deffro yn y bore – oes ganddyn nhw gloc larwm, neu larwm ar eu ffonau symudol? Ydyn nhw’n cysgu trwy’r cyfan? Oes rhywun yn galw arnyn nhw, ‘Amser codi!’ neu ‘Tyrd yn dy flaen!’ ac ati – a hynny fwy nag unwaith, efallai?

    Holwch hefyd y rhai hynny sydd ddim yn cael trafferth o gwbl i godi yn y bore.
  3. Gwrandewch yn ofalus, mewn ffordd gl ên, ar ymateb y plant. Ac yna newidiwch eich hwyliau’n gyfan gwbl ac ymddangos yn ddiamynedd a dweud rhywbeth fel, ‘Ie, ie! Dyna fo! Diddorol iawn, ond rhaid i ni fynd ymlaen â’r gwasanaeth. Mae gennym ni lawer iawn o bethau eraill i feddwl amdanyn nhw.’ Cofiwch newid eich hwyliau mewn ffordd ddigon dramatig fel bod y plant yn deall mai actio rydych chi, rhag iddyn nhw feddwl eich bod chi o ddifri, a dychryn. Ymddiheurwch wedyn am fod â hwyliau mor ddrwg arnoch chi, ac eglurwch eich bod yn meddwl mai oherwydd eich bod yn dal yn llwglyd oherwydd eich bod heb fwyta brecwast iawn yr ydych chi’n ddrwg eich hwyl. Holwch oes rhywun arall wedi sylwi bod eu hwyliau a’r ffordd maen nhw’n teimlo’n gallu newid yn ystod y dydd – efallai cyn cinio neu’n gynharach os nad ydyn nhw wedi bwyta llawer o frecwast.
    Nodwch y gallech chi roi sylw byr yma i’r clwb brecwast yn yr ysgol, os oes un yn cael ei drefnu yn eich ysgol chi.

  4. Ehangwch y drafodaeth am ychydig i ystyried ein gwahanol hwyliau yn ystod y dydd, fel blinder neu deimlo’n swrth ar ôl cinio, teimlo’n bryderus ynghylch gwaith cartref neilltuol, efallai, neu deimlo’n llawn hwyl ac yn fywiog amser gwely pan ddylech chi fod yn paratoi i fynd i gysgu!
    Pwysleisiwch fod pawb yn wahanol pan mae’n dod i lefelau o egni a pha fath o hwyliau sydd arnom ni, mae pawb yn wahanol – mae pob un ohonom yn ymateb yn wahanol ar wahanol adegau trwy gydol y dydd. Eglurwch eich bod yn mynd i roi cyngor neu ddau yn awr ynghylch sut i reoli’ch hwyliau, gofynnwch i bawb wrando’n ofalus (a chau eu llygaid wrth wrando, os hoffen nhw, os mai dyna yw eich arferiad).

Amser i feddwl

Meddyliwch am ychydig am eich hwyliau o ddydd i ddydd. Pa mor egnïol ydych chi’n teimlo yn y bore, tua chanol dydd, yn y pnawn, a chyda’r nos?

Ydych chi’n teimlo’n fwy anhapus, neu ddim awydd helpu ar rai adegau o’r dydd?

Nawr eich bod wedi dechrau meddwl ynghylch pa mor wahanol yw pob un ohonom, a sylweddoli ein bod yn ymateb mewn gwahanol ffyrdd ar wahanol adegau o’r dydd, efallai ei bod hi’n haws deall adegau pan fydd pobl eraill yn ymddangos yn llai parod i helpu nag y byddech chi’n disgwyl iddyn nhw fod . . .

. . . ac fe allwch chi ddechrau meddwl am eich hwyliau chi eich hun a sut y mae gwahanol adegau o’r dydd yn gallu effeithio ar eich hwyliau? Efallai, pan fyddwch chi’n teimlo’n ddrwg eich tymer, y gallech chi ddweud wrthych eich hunan, ‘Rydw i’n teimlo fel hyn am fy mod i eisiau bwyd.’ Neu, os byddwch chi’n teimlo’n bryderus, efallai y bydd yn eich helpu os gallwch chi ddweud wrthych chi eich hunan, ‘Fe fydda i’n bryderus yn aml tua’r adeg yma o’r dydd, ond rydw i’n gwybod y bydda i’n teimlo’n well yn ddiweddarach.’

Cân/cerddoriaeth

Chwaraewch y gerddoriaeth dawel rydych chi wedi ei dewis.

Dyddiad cyhoeddi: Ionawr 2014    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon