Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

'Helo Sgryffi!' Y Baban Iesu

Y Baban Iesu’n cael ei gyflwyno yn y Deml - gwasanaeth ar gyfer Gwyl Fair y Canhwyllau ( y Sul agosaf at 2 Chwefror )

gan the Revd Sylvia Burgoyne

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 1
  • Ysgolion Eglwys

Nodau / Amcanion

Dathlu pa mor arbennig ydyn ni yng ngolwg Duw, ein Tad.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen pyped llaw (hosan neu faneg) yn cymeriadu’r mul bach, o’r enw Sgryffi.
  • Wrth i’r gwasanaeth ddechrau, gofalwch bod Sgryffi’r pyped wedi ei roi’n barod am eich llaw.

Gwasanaeth

  1. Mae Sgryffi’r pyped yn cyfarch y plant. Anogwch y plant i godi eu llaw a dweud, ‘Helo, Sgryffi!’

    Os mai dyma’r tro cyntaf i’r plant weld Sgryffi, fe fydd angen i chi ddefnyddio’r cyflwyniad canlynol.

    Mae Liwsi Jên yn byw ar fferm gyda’i mam, Mrs Bryn, a’i thad Mr Bryn y ffermwr, a’i brawd bach, Tomos. Mae Liwsi Jên wrth ei bodd efo Sgryffi. Mae hi’n gofalu amdano. Mae hi’n mwynhau ei gwmni, ac mae’n siarad gyda Sgryffi’n aml iawn – pan fydd hi’n hapus, a phan fydd hi’n teimlo’n drist hefyd. Sgryffi yw ei ffrind gorau!

  2. Gwyliodd Sgryffi Liwsi Jên, a’i mam a’i thad, a’r babi bach, Tomos, yn mynd yn y car o’r buarth. Roedden nhw i gyd yn edrych yn smart iawn yn eu dillad gorau. Ac roedd Tomos bach wedi cael ei wisgo mewn gwisg wen laes. Cododd Liwsi Jên ei llaw ar Sgryffi trwy ffenestr y car gan ddweud, ‘Fe ddyweda i’r hanes i gyd wrthyt ti pan ddown ni adre, Sgryffi!’

    Gofynnwch i’r plant, ‘I ble rydych chi’n meddwl oedden nhw’n mynd, wedi eu gwisgo yn eu dillad gorau?’

    Roedd Sgryffi’n teimlo eu bod yn hir iawn yn dod yn ôl adre. Ond o’r diwedd, fe glywodd swn y car yn dod yn ôl, ac roedd ceir eraill yn dilyn hefyd. Daeth dau daid a dwy nain Liwsi Jên a Tomos, yncls ac antis, cefndryd a chyfnitherod hefyd o’r ceir, a phawb yn sgwrsio’n hapus ac yn gwneud sylw mawr o Tomos bach - ‘Dydi o’n annwyl?’, ‘Fuodd o’n fachgen da, 'ndo!’ ‘O mae o’n giwt. Tebyg i’w dad ydi o’ ‘Rydw i’n ei weld yn debyg i’w fam hefyd.’ ‘Wel mae’n eithaf tebyg i Liwsi Jên hefyd, pan oedd hi’n fabi bach!’

    Gofynnwch i’r plant, ‘Tebyg i bwy ydych chi?’

    Gwelodd Liwsi Jên Sgryffi’n eu gwylio o ddrws y stabl, ac fe redodd ato. ‘Rydyn ni wedi bod yn yr eglwys, Sgryffi. Fe wnaeth y ficer arllwys dwr ar ben Tomos. Doedd Tomos ddim yn hoffi cael y dwr oer ar ei dalcen, ac fe ddechreuodd grio ychydig bach. Ond fe stopiodd o’n syth cafodd o gwtsh gan Mam. Roedd o’n gwenu wedyn. Roedd y ficer yn dweud ei enw llawn, Tomos Arthur Bryn - ac roedd yn dweud bod pob plentyn yn arbennig yng ngolwg Duw, ac yn perthyn i deulu Duw. Mae hynny’n golygu fy mod i’n arbennig hefyd felly, Sgryffi. Rydyn ni’n mynd i gael parti mawr i’r teulu yn y ty. Mae Mam wedi gwneud teisen fawr arbennig!’

    Gofynnwch i’r plant, ‘Pa bryd byddwch chi’n cael parti mawr i’r teulu?’

    Tynnwch y pyped oddi am eich llaw.



  3. Aeth Mair a Joseff i’r eglwys fawr yn Jerwsalem. Y Deml oedd enw’r adeilad. Roedden nhw eisiau dweud diolch wrth Dduw am y rhodd roedden nhw wedi ei chael, sef eu baban bach. Roedden nhw wedi galw’r baban yn Iesu, sef yr enw yr oedd negesydd Duw, neu’r angel, wedi ei roi i Mair pan ddywedodd wrthi ei bod yn mynd i gael baban bach.

    Hen wr oedd Simeon, a oedd yn mynd i’r Deml yn aml. Roedd Simeon yn ddyn da iawn. Roedd Simeon wedi aros yn hir i Dduw gadw ei addewid, sef y byddai’n anfon brenin newydd i’r bobl. 

    Pan welodd Simeon y baban Iesu, roedd yn hapus dros ben, ac fe ofynnodd i Mair a allai ddal ei baban bach yn ei freichiau. Fe ddywedodd Simeon wrth Mair fod ei baban bach yn faban arbennig iawn. Fe fyddai’r baban bach hwn, ryw ddiwrnod, yn dangos i bawb faint yr oedd Duw’n eu caru. Yna, fe ddaeth gwraig oedrannus o’r enw Anna yno, ac roedd hithau hefyd yn meddwl fod y baban Iesu’n rhyfeddod!

    Roedd Mair a Joseff wedi synnu wrth iddyn nhw wrando ar yr hen wr a’r hen wraig yn sgwrsio gyda nhw. Yna fe aethon nhw o’r Deml ac yn ôl i’w cartref yn Nasareth.

    Rhowch Sgryffi yn ôl am eich llaw a gofynnwch i’r plant, ‘Mae Sgryffi eisiau gwybod ydych chi’n meddwl fod Mair a’r baban Iesu wedi teithio ar gefn asyn neu ful bach?’

Amser i feddwl

Treuliwch foment neu ddwy yn meddwl am y cwestiynau canlynol.

– Pwy sy’n arbennig yn eich golwg chi?
– Pwy sy’n meddwl eich bod chi’n arbennig?

Gweddi
Dduw, Dad,
Diolch ein bod ni i gyd yn blant arbennig i ti.
Amen.

Cân/cerddoriaeth

Dyddiad cyhoeddi: Ionawr 2014

Dyddiad cyhoeddi: Ionawr 2014    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon