Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Gadewch i ni beidio a gwneud llanast!

Meiddiwch fod yn ofalgar ynghylch sbwriel

gan Helen Redfern

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Annog brwdfrydedd ymysg y plant ynghylch eu hardal leol er mwyn eu herio ynglyn ag andwyo’r ardal trwy ollwng sbwriel ar lawr.

Paratoad a Deunyddiau

  • Dewch â bag yn cynnwys gwahanol eitemau o sbwriel gyda chi i’r gwasanaeth (yn cynnwys o leiaf un enghraifft o’r pethau canlynol, sbwriel sy’n ymwneud ag ysmygu, sbwriel sy’n ymwneud ag yfed, papurau melysion, sbwriel bwydydd cyflym) a gwm cnoi.
  • Fe fydd arnoch chi angen paratoi pum darllenydd.

Gwasanaeth

  1. Arweinydd: Cymerwch amser i ganmol yr ardal leol sydd o gwmpas yr ysgol - er enghraifft:

    Onid yw'r ardal hon yn rhyfeddol? Mae'r mwyafrif ohonoch yn byw yn y gymuned hon, mae’n debyg. Rwy'n dyfalu eich bod chi'n mwynhau chwarae allan ar y stryd neu yn y parc yn ystod misoedd yr haf. Mae cymaint o leoedd i chi reidio beic ac mae'r meysydd chwarae yn wych ar gyfer chwarae pêl-droed. Mae'n ddymunol fod gennym barc mor hyfryd mor agos, ac mae’n dda gallu sylwi ar y coed yn newid gyda phob tymor. Rwy'n hoffi edrych ar yr adar, y gwiwerod ac elfennau eraill o fywyd gwyllt. Pan fyddwch chi'n mynd o gwmpas, fe fyddwch chi'n cyfarfod â chymaint o bobl sydd, fel chi, allan yn mwynhau'r awyr iach, yn mynd â'u cwn am dro neu'n syml yn cadw'n heini. Yna, mae gennym y siopau a'r eglwysi, y llyfrgell a'r ganolfan gymunedol, y man chwarae a'r ganolfan iechyd. Rydym yn ffodus iawn, yn wir?

  2. Arweinydd:  Yn awr siaradwch am y gwm cnoi.

    Fel mae'n digwydd, mae fy ngwddw i'n sych braidd heddiw, ac mae gen i ryw flas rhyfedd yn fy ngheg.  Rwy'n gobeithio nad oes ots gennych chi os gwna'i gnoi ychydig o gwm. Mae gen i beth yn rhywle ...

    Edrychwch am eich gwm cnoi yn y bag sbwriel sydd wedi ei greu gennych, a dechreuwch daflu'r sbwriel o'r bag dros y llawr i gyd wrth i chi chwilio amdano. Rhowch ddarn o'r gwm yn eich ceg a'i gnoi trwy gydol y sesiwn nesaf.

    Onid yw gwm cnoi'n rhyfeddol? Oeddech chi'n gwybod:

    - bod y darn hynaf o gwm cnoi sydd wedi ei ddarganfod hyd yn hyn o gwmpas 9,000 mlwydd oed;
    - mai bodau dynol yw'r unig anifeiliaid ar y Ddaear sy'n gallu cnoi gwm;
    - bod cnoi gwm tra byddwch yn plicio nionyn yn gallu eich atal rhag crïo;
    - bod dros 1000 o fathau gwahanol o gwm cnoi yn cael eu cynhyrchu a'u gwerthu yn yr Unol Daleithiau?

  3. Arweinydd: Yn nesaf, siaradwch am y ffaith bod pobl sy’n taflu gwm cnoi ar lawr yn achosi sbwriel problemus.

    Iawn, rwy'n teimlo'n well rwan, Ond mae siarad a chnoi gwm yr un pryd yn dipyn o gamp. Rwy'n credu y dylwn i gael gwared â'r gwm cnoi 'ma rwan, ond ble fedra' i ei roi?

    A ddylwn ei boeri allan a’i adael ar y llawr fel y gwnes i gyda'r gweddill o'r sbwriel 'ma? A ddylwn ei roi o dan gadair? Fedra' i ddim gweld bin sbwriel i'w roi yn unman. Na, rwy’n meddwl y gwna i’r peth iawn a'i roi mewn papur a mynd ag ef adref i'w roi yn y bin sbwriel sydd gen i yn nes ymlaen.

    Efallai y byddwch chi’n gweld y syniad fy mod i'n meddwl taflu’r gwm cnoi ar y llawr fan hyn yn wrthun, ond cymerwch olwg ar ein strydoedd. Edrychwch ar yr ardal sydd o flaen y siop felysion neu ar lawr man aros y bws. Mae poeri gwm cnoi ar y llawr yn broblem enfawr. Mae ei gael yn sownd yn rhychau sydd o dan eich esgid yn aflwydd. Gall lympiau o gwm cnoi ar stryd wneud i ardal ymddangos yn fudr iawn.

    Wyddoch chi:

    - ar gyfartaledd, mae darn o gwm cnoi'n costio tua 3 ceiniog, ond y gost o gael gwared ar ddarn ohono oddi ar y llawr yn costio tua 10 ceiniog;
    - mae'n cymryd hyd at bum mlynedd i gwm cnoi fioddiraddio, felly ni fydd darn o gwm cnoi yn diflannu neu’n cael ei olchi i ffwrdd am o leiaf bum mlynedd os na chaiff ei godi
    - rhaid i'r Cyngor dreulio llawer o amser a gwario llawer o arian yn                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                      codi’r gwm cnoi oddi ar ein strydoedd - gymaint fel bo rhai gwledydd yn ystyried codi pris darn o gwm cnoi er mwyn helpu tuag at y gost o lanhau;
    - yn Singapore, mae gwm cnoi wedi ei wahardd yn gyfan gwbl.

  4. Arweinydd: Soniwch am y testun sbwriel yn gyffredinol.

    Nid gwm cnoi yn unig sy'n gwneud llanast ar ein strydoedd. Pa fath arall o sbwriel y byddwn yn ei weld ar ein strydoedd?

    Gwahoddwch y plant i roi eu hatebion.

    Y prif fathau o sbwriel yw sbwriel sy'n ymwneud ag ysmygu, sbwriel sy'n ymwneud â diodydd, papurau lapio melysion a sbwriel bwydydd sydyn.

    Mae sbwriel yn edrych yn ddychrynllyd. Mae arogl drwg yn gallu bod ar sbwriel. Mae sbwriel yn denu llygod mawr a phryfed, ac mae’r rheini’n gallu lledaenu afiechydon. Mae sbwriel yn beryglus i anifeiliaid lleol. Felly, pam yn y byd mae pobl yn taflu sbwriel? Pam ydych chi'n taflu sbwriel?

    Darllenydd 1 Fedra i ddim mynd i’r drafferth o ddod o hyd i fin sbwriel.

    Darllenydd 2 Mae pawb yn taflu sbwriel, felly pam na chaf fi?

    Darllenydd 3 Mae'n iawn taflu sbwriel os nad oes neb yn eich gweld chi a phan nad ydych yn cael eich dal.

    Darllenydd 4 Does dim bin sbwriel ar gael byth pan ydych chi angen un.

Amser i feddwl

Arweinydd Dim ond esgusion yw’r rhain. Efallai eich bod chi’n gollwng sbwriel ar lawr ambell dro – efallai eich bod wedi defnyddio rhai o’r esgusion hyn – ond does dim rheswm da byth dros ollwng sbwriel ar lawr.

Gadewch i ni feddwl am ein hardal hyfryd, a meddwl am yr effaith andwyol y mae sbwriel yn ei gallu ei achosi, wrth i ni wrando’n dawel ar y geiriau canlynol.

Efallai yr hoffech chi newid y geiriau rywfaint er mwyn iddyn nhw gyd-fynd yn fwy manwl â nodweddion eich ardal benodol chi.

Darllenydd 5
Rydw i’n caru fy ysgol.
Rydw i wrth fy modd gyda’r cae chwarae a’r iard a gardd yr ysgol.
Gadewch i ni beidio â gwneud llanast yno.

Rydw i’n caru ein stryd.
Rydw i wrth fy modd gyda’r gerddi a’r glaswellt a’r blodau.
Gadewch i ni beidio â gwneud llanast yno.

Rydw i’n caru ein parc.
Rydw i wrth fy modd gyda’r mannau chwarae a’r pwll a’r coed.
Gadewch i ni beidio â gwneud llanast yno.

Rydw i’n caru ein cymuned.
Rydw i wrth fy modd gyda’r siopau a’r eglwys a’r ganolfan gymunedol.
Gadewch i ni beidio â gwneud llanast yno.

Gadewch i ni fod yn falch o’n hamgylchfyd.
Gadewch i ni beidio â gwneud llanast yno.
Gadewch i ni beidio â gollwng sbwriel ar lawr.

Dyddiad cyhoeddi: Ionawr 2014    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon