Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Democratiaeth greadigol!

gan Gordon Lamont

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 2

Nodau / Amcanion

Cyflwyno cyfleoedd i ymwneud yn greadigol â democratiaeth.

Paratoad a Deunyddiau

Gwasanaeth

  1. Gofynnwch i’r plant beth maen nhw’n ei feddwl yw ystyr y gair ‘democratiaeth’.

    Gwerthfawrogwch eu holl awgrymiadau, a denwch y syniad mai rhywbeth i’w wneud â rhannu penderfyniadau ydyw, ac mae’n cynnwys derbyn safbwyntiau’r mwyafrif (hynny yw, safbwynt y rhan fwyaf o’r bobl yn y grwp).

  2. Gofynnwch i’r plant godi eu dwylo i ddangos a yw’r penderfyniadau canlynol wedi cael eu llunio’n ddemocrataidd ai peidio:

    –mae rheolwr wedi cyhoeddi y dylai pawb wisgo hosanau gwyrdd bob dydd Mercher;
    – mae dosbarth yn pleidleisio er mwyn penderfynu pwy ddylai ofalu am y mochyn cwta yn ystod y gwyliau;
    –mae Samina eisiau mynd i chwarae i’r parc, ac mae’n sgrechian nes bydd ei rhieni’n mynd â hi;
    –mae etholiadau’n cael eu cynnal er mwyn dewis aelodau newydd i’r cyngor ysgol.

    Pwysleisiwch mai’r cliwiau ar gyfer y penderfyniad democrataidd yw’r geiriau ‘etholiad’ a ‘pleidleisio’.

  3. Eglurwch fod dau gyfle cyffrous yn ystod mis Ionawr i fod yn ymwneud â democratiaeth mewn ffordd ddeinamig ac uniongyrchol - y naill a'r llall yn cael eu cyflwyno gan ein Senedd ni yn Llundain. Cyflwynwch yn fyr Wobrwyon y Llefarydd ar gyfer Cynghorau Ysgol, gan egluro bod prosiectau cynghorau ysgol, sydd wedi gwneud gwahaniaeth mewn ysgolion neu gymunedau, yn gymwys i ymgeisio. Boed yn fach neu’n fawr - nid yw o bwys; y cyfan sy'n ofynnol yw eu bod yn arwain at newid cadarnhaol. Bydd yr enillwyr yn cael mynd o amgylch y Senedd a chyfarfod â'r Llefarydd.

  4. Soniwch hefyd am, ‘Goleuadau, Camera, Senedd!’ (Lights, Camera, Parliament!), sydd â’r ffocws ar gynhyrchu ffilmiau.  Gofynnir i blant gynhyrchu (neu gynllunio) ffilm fer yn ymwneud â deddf newydd yr hoffen nhw ei chyflwyno.

    Ar y pwynt hwn, dangoswch un o'r ffilmiau llwyddiannus oddi ar y linc sydd wedi ei nodi yn yr adran ‘Paratoad a deunyddiau’ uchod, os ydych chi’n awyddus i’w defnyddio.

  5. Gadewch i’r plant wybod at bwy yn yr ysgol y mae angen iddyn nhw fynd i siarad os ydyn nhw eisiau gwybodaeth am y naill ddigwyddiad neu’r llall, ac eglurwch y byddan nhw’n cael clywed yn fuan am rai o’r syniadau y maen nhw wedi meddwl amdanyn nhw yn y gwasanaeth.

Amser i feddwl

Gofynnwch i’r plant a ydyn nhw’n gallu meddwl am syniad i lunio ffilm ynghylch deddf newydd y bydden nhw hoffi ei gweld yn cael ei gwireddu. Mae’n bosib i hyn fod yn ymwneud ag unrhyw beth mae’r plant yn teimlo’n gryf yn ei gylch, rhywbeth a fydd yn gwneud gwahaniaeth o ddifri iddyn nhw neu i bobl eraill.

Gofynnwch, hefyd, a ydyn nhw’n gwybod am brosiect cyngor ysgol y maen nhw’n meddwl sy’n haeddu ennill gwobr. Oes ganddyn nhw syniad ar gyfer rhywbeth yr hoffen nhw i’r cyngor ysgol ei wneud?

Dyddiad cyhoeddi: Ionawr 2014    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon