Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

'Helo Sgryffi!' 'Mae arna i ofn'

gan The Revd Sylvia Burgoyne

Addas ar gyfer

  • Dosbarth Derbyn / Cyfnod Allweddol 1
  • Ysgolion Eglwys

Nodau / Amcanion

Annog y plant i siarad am eu hofnau.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen pyped llaw (hosan neu faneg) yn cymeriadu’r mul bach, o’r enw Sgryffi.
  • Wrth i’r gwasanaeth ddechrau, gofalwch bod Sgryffi’r pyped wedi ei roi’n barod am eich llaw.

Gwasanaeth

  1. Mae Sgryffi’r pyped yn cyfarch y plant. Anogwch y plant i godi eu llaw a dweud, ‘Helo, Sgryffi!’

    Os mai dyma’r tro cyntaf i’r plant weld Sgryffi, fe fydd angen i chi ddefnyddio’r cyflwyniad canlynol.

    Mae Liwsi Jên yn byw ar fferm gyda’i mam, Mrs Bryn, a’i thad Mr Bryn y ffermwr, a’i brawd bach, Tomos. Mae Liwsi Jên wrth ei bodd efo Sgryffi. Mae hi’n gofalu amdano. Mae hi’n mwynhau ei gwmni, ac mae’n siarad gyda Sgryffi’n aml iawn – pan fydd hi’n hapus, a phan fydd hi’n teimlo’n drist hefyd. Sgryffi yw ei ffrind gorau!
  2. Roedd ar Sgryffi ofn mawr neithiwr. Roedd hi’n storm fawr, ac roedd swn y taranau a’r gwynt a’r glaw mawr yn ei ddychryn.

    Roedd Sgryffi’n gallu gweld golau’r mellt trwy ffenest y stabl. Roedd swn mawr y taranau’n dilyn y mellt, ac roedd gwynt cryf yn chwythu o gwmpas yr adeilad. Roedd yn clywed swn y glaw yn taro ar y to sinc oedd ar y stabl, ac fe ddechreuodd dafnau glaw ddiferu trwy’r to ar wely gwellt sych Sgryffi. Roedd Sgryffi’n ofni y byddai’r gwynt yn chwythu to’r stabl i ffwrdd, ac roedd yn dychmygu beth fyddai’n digwydd wedyn. Roedd arno ofn o ddifri!

    Yna, fe agorodd drws y stabl. Mr Bryn y ffermwr oedd yno, diolch byth, â lamp yn ei law. ‘Helo, Sgryffi bach!’ meddai Mr Bryn, ‘Mae’r gwynt mor gryf, rydw i ofn iddo chwythu to’r stabl. Gad i ni dy symud di i le arall, rhag ofn.’

    Brwydrodd Mr Bryn a Sgryffi i gerdded trwy’r gwynt a’r glaw i’r ysgubor newydd. Wedi iddo sychu Sgryffi gyda hen dywel, dywedodd Mr Bryn yn garedig, ‘Dyna ti, Sgryffi, fe fydd Liwsi Jên yn hapus nawr dy fod ti’n ddiogel a chlyd. Efallai y cawn ni i gyd ychydig o gwsg nawr! Nos da, Sgryffi.’

    ‘Hi-ho!’ nodiodd Sgryffi, wrth iddo setlo i gysgu ar y gwellt sych, glân, yn yr ysgubor. Yn fuan wedyn, fe beidiodd y storm ac roedd pob man yn dawel unwaith eto.

    Tynnwch y pyped oddi am eich llaw.

  3. Roedd Iesu a’i ffrindiau’n croesi Môr Galilea yng nghwch pysgota Seimon Pedr. Roedd Iesu’n dysgu’r bobl am Dduw, ac yn iachau pobl oedd yn sâl. Roedd wedi bod yn brysur iawn ac wedi blino’n lân. Fe aeth i gefn y cwch i orwedd ac fe gysgodd yn drwm.

    Ond yn fuan fe gododd storm, gan daflu’r cwch bach i fyny ac i lawr ar y tonnau mawr. Roedd ar ffrindiau Iesu ofn y bydden nhw’n cael eu taflu i’r môr, ac y bydden nhw’n boddi.

    Ond roedd Iesu’n cysgu trwy’r cyfan. Holodd ei ffrindiau, ‘Ydi Iesu ddim yn poeni ein bod ni i gyd mewn perygl mawr? Fe aethon nhw ato a’i ysgwyd er mwyn ei ddeffro, ac fe welodd Iesu’r braw oedd ar wyneb ei ffrindiau. Fe safodd yn y cwch ac estyn ei law.

    ‘Bydd yn dawel!’ gwaeddodd Iesu i ganol y gwynt a’r storm. Ac ar unwaith, fe ostegodd y gwynt ac roedd y môr yn dawel unwaith eto. Roedd ei ffrindiau wedi synnu’n fawr wrth weld beth oedd wedi digwydd, ac wrth glywed Iesu’n dweud wrthyn nhw, ‘Pam rydych chi â chymaint o ofn? Ddylech chi ddim bod ag ofn pan fydda i gyda chi?’

Amser i feddwl

Meddyliwch am y pethau sy’n codi ofn arnoch chi. Beth yw’r pethau hynny?

Sut gallwn ni fod yn ddewr pan fydd ofn arnom ni?

Gweddi
Annwyl Iesu,
Pan fyddwn ni ofn . . . (cynhwyswch yma rai o’r pethau mae’r plant wedi sôn amdanyn nhw wrthych chi), helpa ni i gofio dy fod ti bob amser gyda ni.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Chwefror 2014    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon