Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Bwlio

gan Annabel Humphries

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 2

Nodau / Amcanion

Rhoi ar ddeall i’r plant, os ydyn nhw’n ymwybodol o achos o fwlio, bod yn rhaid iddyn nhw ddweud wrth oedolyn.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen paratoi Storïwr a thri phlentyn i berfformio’r ddrama. Gallwch roi rhan i fwy o’r plant hefyd, fel aelodau’r ‘gang’.
  • Fe fydd angen i chi drefnu hefyd fod gennych chi fwrdd a chadeiriau wedi eu gosod ar un ochr yn y tu blaen, er mwyn i bedwar plentyn eistedd yno’n arddangos cardiau yn eu tro, gyda’r dewisiadau canlynol wedi eu hysgrifennu ar y cardiau:
    – Anwybyddu bygythiadau Cathy, a gwneud dim byd.
    – Dweud wrth Cathy na fyddwch chi’n gwneud ei gwaith cartref iddi.
    – Dweud wrth oedolyn am y peth.
    – Gwneud beth mae Cathy’n ei ddweud.

Gwasanaeth

  1. Gofynnwch i’r plant awgrymu mathau o fwlio a allai ddigwydd. Fe allai’r agweddau hyn gynnwys: galw enwau, brifo rhywun yn gorfforol neu’n emosiynol, mynnu arian gan rywun trwy eu bygwth, ac ati. Fe allwch chi sylwi ar bethau fel hyn yn digwydd, ond rhaid i’r pwyslais fod ar yr achlysuron pan fydd pethau fel hyn yn digwydd drosodd a throsodd.

  2. Gwahoddwch y tri phlentyn sy’n actio’r ddrama i ddod ymlaen, a’r plant eraill sy’n ffurfio’r panel i eistedd wrth fwrdd ar un ochr lle bydd pawb yn gallu eu gweld. Os ydych chi wedi trefnu rhan i’r ‘gang’, gwahoddwch y plant hynny ymlaen hefyd ar y pwynt hwn.

    Y Bwli

    Golygfa 1

    Storïwr 
    Yn Ysgol Gynradd Sant Steffan, roedd merch o’r enw Cathy Jones yn gas bob amser wrth fachgen o’r enw Owain Jenkins. Roedd hi bob amser yn gwneud hwyl am ei ben. Roedd Cathy’n arweinydd gang, ac roedd hi’n gwneud i’r gang chwerthin am ben Owain. Roedd Owain yn pryderu cymaint am hyn fel bod ei waith ysgol yn dioddef.

    Roedd Owain yn llai o lawer na Cathy, ac roedd yn gwisgo sbectol. Roedd Cathy’n ferch fawr ac yn hy. Doedd arni hi ddim ofn unrhyw beth.

    Cathy Helo Specsi! Wyt ti’n iawn?
    Owain (yn nerfus) Ym  . . .  ym  . . .
    Cathy  Beth sy’n bod. Ydi’r gath wedi dwyn dy dafod di?
    Owain (yn pledio arni.) Gad lonydd i mi, Cathy.
    Cathy  Gwranda, Owain, dydw i ddim wedi gwneud unrhyw waith cartref ers wythnosau, felly dy waith di fydd gwneud hwnnw i mi, deall?
    Owain (yn edrych wedi dychryn ac yn chwilio o gwmpas yr ystafell am help.)
    Cathy
    Os na wnei di hynny  . . .  yna fe fydd y gang yma ar dy ôl di. Os byddi di’n agor dy hen geg ac yn dweud wrth rywun am hyn, fyddi di’n hen sinach bach ac fe fydd dy gosb di’n llawer gwaeth wedyn. Deall eto?

    Ar y pwynt hwn, trowch eich sylw at y plant sydd ar y panel, ac sy’n dal i fyny’r cardiau gyda’r pedwar opsiwn arnyn nhw. Bydd y plant yn y gynulleidfa’n cael penderfynu ac wedyn yn pleidleisio ynghylch yr hyn y maen nhw’n ei gredu y dylai Owain ei wneud..

    Golygfa 2

    Storïwr
     Ar ôl meddwl am y peth am sbel, mae Owain wedi penderfynu dweud wrth rywun am fygythiadau Cathy. Mae Owain yn bryderus iawn, ond mae’n gwybod na ddylai Cathy fod yn ei drin fel hyn.
    Owain Miss Huws, ga i siarad efo chi am funud bach, os gwelwch yn dda?
    Miss Huws Wrth gwrs, Owain. Beth alla i ei wneud i dy helpu?
    Owain Ydi o’n iawn fod rhyw rai yn eich gorfodi chi i wneud eu gwaith cartref iddyn nhw?
    Miss Huws Na, dim o gwbl, Owain. Os oes rhywun wedi gofyn i ti wneud rhywbeth felly, fe ddylet ti ddweud wrth rywun, yn wir. Wyt ti eisiau dweud rhywbeth wrtha i, Owain?
    Owain (gydag ochenaid o ryddhad) Oes, Miss Huws. Mae Cathy Jones wedi bod yn gofyn i mi wneud ei gwaith cartref hi, ac rydw i’n gwybod y bydda i mewn trwbl mawr os na wna i’r gwaith iddi. Plîs, peidiwch â dweud dim wrthi. Fe fydda i mewn gwaeth trwbl os daw hi i wybod fy mod i wedi dweud wrthych chi.
    Miss Huws  Rydw i mor falch dy fod ti wedi dweud wrtha i am hyn, Owain. Paid ti â phoeni. Nawr fy mod i’n gwybod am y peth, fe alla i wneud rhywbeth ynghylch hyn, a dy helpu di. Wyt ti’n teimlo’n well, nawr dy fod ti wedi cael dweud hyn wrtha i?
    Owain Ydw, yn wir, Miss Huws!

    Gofynnwch i’r plant, ‘Wnaeth Owain y peth iawn?’ Dywedwch mai dau ddewis sydd gan eich cynulleidfa i ateb eich cwestiwn, ‘Do’ neu ‘Naddo’, a gofynnwch iddyn nhw bleidleisio.

    Golygfa 3

    Storïwr
     Roedd Miss Huws yn digwydd bod ar ddyletswydd ar yr iard y diwrnod canlynol pan welodd hi Cathy’n mynd at Owain. Roedd golwg ddig ar Cathy.
    Cathy  Ble mae ‘ngwaith cartref i, y trychfilyn bach salw? Tyrd â fo i mi - ar unwaith!
    Storïwr  Gwelodd Miss Huws Cathy’n codi ei dwrn ar Owain, felly fe aeth hi atyn nhw’n syth er mwyn rhoi stop ar hyn.
    Miss Huws (yn dawel) Cathy, gaf i air tawel, os gwelwch yn dda?

    Fel troednodyn i’r stori hon, eglurwch i’r plant bod yr athrawes wedi sgwrsio’n helaeth â Cathy a’i rhieni. Fe ddaeth i’r amlwg bod Cathy mewn gwirionedd yn cael trafferth i wneud ei gwaith cartref hi, ac roedd yn genfigennus o Owain, a dyna a arweiniodd at yr achos hwn o fwlio.

  3. Gofynnwch i’r plant ydyn nhw’n gwybod at bwy y dylen nhw fynd i ddweud os bydden nhw’n cael eu bwlio. Fe ddylid enwi’r rhan fwyaf o oedolion sydd â chyswllt rheolaidd â’r ysgol. Mae angen pwysleisio mai’r person gorau i siarad ag ef yw’r person y byddai’r plant yn teimlo’n fwyaf cyfforddus yn ei gwmni, neu yn ei chwmni, a’r unigolyn hwnnw’n rhywun y gallen nhw ei drystio.

  4. Atgoffwch y plant os ydyn nhw’n teimlo’n bryderus o gwbl ynghylch achos o fwlio, mae’n bwysig eu bod yn dweud.

Amser i feddwl

Gofynnwch i’r plant feddwl am y ddrama maen nhw newydd ei gweld, a meddwl am rai o’r teimladau y gwnaeth y ddrama eu hysgogi ynddyn nhw.

Gweddi
Annwyl Arglwydd Dduw,
Helpa ni i dderbyn gwahaniaethau ein gilydd.
Dysga ni i fod yn oddefgar o’n gilydd ac i ddysgu adeiladu ar gyfeillgarwch.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Chwefror 2014    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon