Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Pethau cuddiedig

gan Janice Ross

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 2

Nodau / Amcanion

Ystyried pam fod pobl yn cuddio pethau, a bod pethau cuddiedig yn siwr o ddod i’r golwg yn y diwedd.

Paratoad a Deunyddiau

  • Casglwch wybodaeth am gasgliad darluniau Munich oddi ar wefannau newyddion.
  • Chwiliwch am rai delweddau o baentiadau gan Picasso, Matisse, Renoir, Chagall, Nolde (dewisol), a threfnwch fodd o’u dangos yn ystod y gwasanaeth.

Gwasanaeth

  1. Gofynnwch i'r plant a oes ganddyn nhw leoedd cuddio arbennig. Pa bryd, ac am ba reswm y maen nhw'n mynd yno?

    Gofynnwch a ydyn nhw byth yn cuddio unrhyw beth. Pa fath o bethau y gallan nhw fod yn eu cuddio, ac oddi wrth bwy?

    Mae'n wybyddus fod hyd yn oed oedolion wedi cuddio siocled oddi wrth weddill y teulu!

  2. Eglurwch wrth y plant eu bod heddiw'n cael clywed stori am ddyn a oedd wedi cuddio rhai pethau dros amser hir. Ei enw yw Cornelius Gurlitt ac mae'n byw yn yr Almaen. Gwrandewch ar y stori.

  3. Lawer o flynyddoedd yn ôl yn yr Almaen, fe ddaeth arweinydd dieflig o'r enw Hitler i rym. Roedd yn casáu'r Iddewon, ac fe ddechreuodd eu herlid. Ar y cychwyn roedd yn gwneud hwyl am eu pen, a throi Almaenwyr eraill yn eu herbyn, ond yna fe ddechreuodd roi'r bai arnyn nhw am y cyfan o'r pethau a oedd yn mynd o'u lle yn y wlad.

    Fe ddaeth bywyd yn anodd iawn i'r Iddewon, ac roedd ganddyn nhw ofn beth fyddai’n gallu digwydd gyda'r dyn nerthol hwn fel arweinydd. Roedd rhai o'r Iddewon hyn yn bobl busnes a bancwyr cyfoethog, athrawon prifysgol a gwyddonwyr. Fel yr oedd pethau'n gwaethygu, fe ddechreuodd llawer ohonyn nhw feddwl bod eu bywydau mewn perygl ac felly fe wnaeth y rhai oedd yn gallu eisio ffoi o'r wlad.

    Er mwyn gwneud hyn, bu raid iddyn nhw dalu llwgrwobrwyon hael er mwyn cael pasbortau i leoedd diogel fel America ac Israel. Roedd rhai o'r Iddewon yn gyfoethog iawn ac yn berchen ar beintiadau hardd gan rai o'r arlunwyr enwocaf fel Picasso, Renoir, Matisse. Fe wnaethon nhw eu gwerthu am brisiau isel dros ben i werthwyr lluniau yn newid am ffordd o ddianc gyda'u teuluoedd i ddiogelwch.

    Un o'r gwerthwyr lluniau a brynodd y peintiadau hyn oedd dyn o'r enw Hildebrandt Gurlitt. Fe wyddai ef beth oedd eu gwir werth, ac fe gadwodd lawer ohonyn nhw yn ei gartref yn ninas Dresden. Ar ôl y rhyfel, fe ddywedodd bod yr holl beintiadau wedi cael eu dinistrio yn y tân pan gafodd dinas Dresden ei bomio. Roedd llawer o bobl yn amau a oedd hyn yn wir, ond bu farw Hildebrandt Gurlitt mewn damwain car felly nid oedd modd profi'r peth.

    Ddwy flynedd yn ôl, roedd swyddogion tollau yn gwneud archwiliad tollau arferol ar drên oedd yn teithio o'r Swistir i'r Almaen. Roedden nhw'n gwirio pasbortau ac yn sicrhau nad oedd gan y teithwyr fwy o arian yn eu meddiant na'r hyn oedd yn cael ei ganiatáu. Fe ddaethon nhw ar draws dyn gyda gwallt gwyn, a oedd yn ymddangos yn nerfus iawn. Fe ddywedodd ei fod wedi bod yn y Swistir ar fusnes. Roedd y swyddogion braidd yn amheus, ond, gan nad oedd yn ymddangos ei fod yn gwneud dim o'i le, cafodd fynd yn ei flaen adref. Roedden nhw'n parhau i fod yn amheus, fodd bynnag, felly dyma nhw'n penderfynu gweld yn union pwy oedd. Ymhellach ymlaen, fe ddarganfu'r ymchwilwyr ei fod wedi dweud anwiredd am y lle yr oedd yn byw. Nid oedd erioed wedi gweithio ac nid oedd yn ymddangos fod ganddo ddim ffynhonnell incwm. Nid oedd ychwaith wedi cofrestru gyda'r heddlu, rhywbeth sy'n anghyfreithlon yn yr Almaen. Roedd hi'n ymddangos mai ‘dyn nad oedd yn bodoli’ ydoedd.

    Fe ddarganfu'r ymchwilwyr fflat bach yr oedd yn ei rentu yn ninas Munich. ‘Fe aethom i mewn i'r fflat gan ddisgwyl cael hyd i ychydig filoedd o euros nad oedd wedi cael eu datgan ganddo, efallai cyfrif banc y farchnad ddu. Ond cawsom ein brawychu'n enfawr gyda'r hyn y daethom o hyd iddo. O'r llawr hyd at y nenfwd, o'r ystafell wely i'r ystafell ymolchi, roedd tyrau ar ben tyrau o hen duniau bwyd a hen botiau nwdls, llawer ohono yn dyddio o'r 1980au. A thu ôl i'r cyfan . . .  ’

    Y tu ôl i'r wal hon o hen fwyd, roedd dros 1,500 o ddarnau o gelf gan arlunwyr enwog, fel Picasso, Renoir, Nolde, Matisse a llawer mwy, rhai nad oedd erioed wedi eu gweld o'r blaen gan y byd celf.  Gwerth y trysor-cuddiedig cyfrinachol hwn o beintiadau yw oddeutu £1 biliwn o bunnoedd.

  4. Cuddiodd Cornelius Gurlitt, a'i dad o'i flaen, y gweithiau celf hyn am yn agos i 70 mlynedd. Dychmygwch gadw rhywbeth fel yna yn guddiedig, yn gyfrinachol, am yr holl amser?

    Gofynnwch i'r plant, ‘Ydych chi'n credu fod Cornelius wedi mwynhau ei gyfrinach?’

    Gofynnwch iddyn nhw feddwl am y man lle y cawson nhw'u cuddio, a ydyn nhw'n credu fod Cornelius yn eu gwerthfawrogi, sut oedd yn ofynnol iddo ef fyw o ganlyniad, a meddwl am y bygythiad cyson o gael ei ddarganfod, a’r euogrwydd posib.

  5. Weithiau, rydym yn ceisio cuddio pethau nad ydyn ni am i eraill wybod amdanyn nhw. Fel arfer pethau drwg yr ydym wedi eu gwneud yw'r rhain, pethau a all achosi loes i ni. Gall cuddio'r pethau anghywir yn aml achosi straen ac ofn. Yn aml, hefyd, mae gan y pethau yr ydym yn ceisio'u cadw ynghudd ryw ffordd o ddod i'r amlwg beth bynnag!                                 

Amser i feddwl

Meddyliwch am rywbeth yr ydych yn ei guddio'r foment hon - oddi wrth rieni, oddi wrth ffrindiau, oddi wrth athrawon?

Efallai y byddai'n well i chi ddod ag ef i'r goleuni na'i gadw'n guddiedig am flynyddoedd, fel y gwnaeth Cornelius, yn cuddio pethau tu ôl i hen duniau bwyd!

Gweddi
Annwyl Dduw,
Rydyn ni’n falch dy fod ti’n gweld popeth.
Gweddïwn y byddwn ni’n byw ein bywydau mewn gwirionedd a goleuni.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Chwefror 2014    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon