Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Pe bai'r fforest yn gallu siarad.....

Mentrwch ofalu am fforestydd glaw

gan Helen Redfern

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 2

Nodau / Amcanion

Ystyried yr effeithiau andwyol datgoedwigo, gan annog y plant i siarad o blaid y fforest law.

Paratoad a Deunyddiau

  • Bydd angen Arweinydd a thri Darllenydd arnoch.
  • Chwiliwch am recordiau o synau o'r fforest law, a cherddoriaeth ‘Fragile’ gan Sting, a sicrhewch fod gennych offer i'w chwarae yn ystod y gwasanaeth.
  • Hefyd, chwiliwch am ddelweddau o goeden yn y fforest law, llyffant/broga'r fforest law a phlanhigyn o'r fforest law, a sicrhewch fod gennych fodd i arddangos y rhain yn ystod y gwasanaeth.
  • Mae'r wybodaeth a roddir yn y gwasanaeth hwn ar gael ar:www.rain-tree.com/facts.htm– ymwelwch â'r safle i ddarganfod mwy o wybodaeth.

Gwasanaeth

  1. Arweinydd: Chwaraewch y recordiad o synau'r fforest law. Gwrandewch ar y synau rhyfeddol hyn.
    Ymhle y tybiwch chi yr ydym?

    Caewch eich llygaid a dychmygwch eich hun mewn fforest. Mae'n hyfryd, onid yw? Beth allwch chi weld? Beth allwch chi glywed?

    Mae fforestydd glaw yn llawn o goed tal ac, fel y byddech yn disgwyl, gyda lefelau uchel o law. Mae modd cael hyd iddyn nhw ar draws y byd, ond yr enwocaf yw fforest law'r Amazon ym Mrasil, De America. Mae fforestydd glaw trofannol wedi cael eu galw yn ‘dlysau'r Ddaear’ oherwydd yr harddwch a'r cyfoeth sydd i'w cael ynddyn nhw.

    Rydym wedi clywed synau'r fforest law, ond beth pe byddai'r fforest law yn gallu siarad mewn gwirionedd? Beth pe byddai gan y coed a'r anifeiliaid leisiau y gallem ni eu deall? Beth feddyliwch chi y bydden nhw'n ei ddweud wrthym ni?

  2. Darllenydd 1: Dangoswch ddelwedd o goeden o'r fforest law Rydw i'n goeden. Nid unrhyw goeden - Fi yw'r goeden dalaf yn y fforest law. Cyn belled ag y gall y llygad ei weld, nid oes unrhyw goeden arall yn ymestyn yn uwch na'r fforest i'r awyr na fi. Rwyf yn awr ychydig dros 60 metr o uchder, ond rwy'n bwriadu tyfu hyd at 80 metr o uchder.

    Os caf y cyfle, hynny yw. Rwyf wedi gweld coed fel fi yn disgyn ymhell yn y pellter. Rwyf wedi clywed cri’r eryrod, yr ystlumod a'r mwncïod a gollodd eu cartrefi. Rwyf wedi clywed rhincian a chrensian dychrynllyd yr angenfilod metel - y peiriannau yr ydych chi'r bodau dynol yn eu galw'n llifiau cadwyn a theirw dur. Rwyf wedi tagu ar y mwg o'r tanau ofnadwy sy'n deifio ac yn lladd popeth ar eu llwybr.

    Rwy'n gwybod eu bod yn dod yn nes ac yn nes. Rwy'n gwybod na fydd hi'n hir. Rwyf wedi sefyll yn dalsyth yn y gwyntoedd cryfaf a'r tymheredd poethaf am gannoedd o flynyddoedd, ond ni allaf i hyd yn oed ymladd yn erbyn hyn.

    Dydych chi'r bodau dynol ddim yn gwybod beth ydych chi’n ei wneud. Ni yw ‘ysgyfaint y blaned’. Rydych chi ein hangen ni. Nid wedi ein torri i lawr fel coed ar gyfer tai, dodrefn a phapur, ond yn fyw. Rydych chi ein hangen yn fyw. Rydych chi ein hangen yn anadlu. Rydyn ni'n gyfrifol am fwy na chwarter o drosiant ocsigen y byd. Rydym yn ailgylchu carbon deuocsid yn ocsigen.

    Dydych chi'r bodau dynol ddim yn gwybod beth ydych chi’n ei wneud. O ddifri, dydych chi ddim yn gwybod beth ydych chi’n ei wneud.

  3. Darllenydd 2: Dangoswch ddelwedd o lyffant/ broga.Llyffant/ Broga ydw i – un o'r llyffantod/ brogaod harddaf yn fforest law'r Amazon, er mai fi sy'n dweud hynny. Dim ond 5 y cant o oleuni'r haul sy'n tywynnu ar ganopi'r fforest law sy'n cyrraedd yr islawr lle'r ydyn ni i gyd yn byw, ond rwy'n siwr y cytunwch, rydym yn gwneud yn fwy nag iawn am hynny!

    Fyddech chi ddim yn credu yr amrywiaeth o greaduriaid sy'n byw yn ddwfn yn y fforest law. Y lliwiau, y siapiau, y meintiau, y synau . . . allech chi ddim dechrau dychmygu. Mae sawl miliwn o rywogaethau o blanhigion, pryfed a ffurfiau eraill o fywyd sydd heb eu darganfod yn ein fforestydd glaw. Mae sawl miliwn o greaduriaid byw dydych chi'n gwybod dim amdanyn nhw.

    Mae'n bosib na fyddwch chi fyth yn gwybod. Rydyn ni wedi clywed y newyddion. Rydyn ni'n gwybod beth sydd ar droed. Rydych chi'n clirio ymaith ein cartrefi ni er mwyn gwneud mwy o gartrefi i chi eich hunain. Mae ein dinasoedd fforestydd glaw hardd yn cael eu disodli i wneud lle i'ch jynglau concrid hyll.

    Allwch chi ddim dychmygu faint o rywogaethau sydd wedi eu gyrru i ddifancoll. Creaduriaid rhyfeddol sydd yn syml ddim yn bodoli yn unlle ar y blaned bellach. Allwch chi ddim dychmygu faint mwy sydd bron â diflannu am byth. Mae eich arbenigwyr chi, fodau dynol, yn amcangyfrif ein bod yn colli 137 o rywogaethau planhigion, anifeiliaid a phryfed bob diwrnod o ganlyniad o ddifforestu'r fforest law.

    Dydych chi'r bodau dynol ddim yn gwybod beth ydych chi’n ei wneud. O ddifri, dydych chi ddim yn gwybod beth ydych chi’n ei wneud.

    4. Darllenydd 3: Dangos delwedd o blanhigyn
    Planhigyn hardd y fforest law ydw i, yr harddaf ohonyn nhw i gyd yn fy marn ostyngedig i – ac mae yna lawer o gystadleuaeth am y teitl hwnnw, coeliwch chi fi. Mae tua 50% o'r holl rywogaethau planhigfaol y byd i'w cael yn y fforestydd glaw.

    A oeddech chi'n gwybod bod o leiaf 80% o'ch diet yn dod yn wreiddiol o'r fforest law drofannol? Sbeisiau, cnau, coffi, siocled, fanila, siwgr, sawl math ar lysiau a ffrwythau i gyd yn dod o'r fan hyn. Mae o leiaf 3,000 o ffrwythau i'w cael yn y fforestydd glaw. Mae pobl y fforest yn defnyddio dros 2,000 ohonyn nhw. Tua 200 yn unig ydych chi'n gwybod amdanyn nhw, fel afocados, cnau coco, ffigys, orenau, lemwn, grawnffrwyth, bananas, guafas, pinafalau, mangos a thomatos.

    Yn ôl ataf fi, nid yn unig rwyf yn hynod o hardd. O na. Rwy'n rhan o ‘fferyllfa fwyaf y byd’. Cafwyd hyd i tua chwarter o feddyginiaethau naturiol yn y fforestydd glaw, ac rwyf i'n un ohonyn nhw. Caiff y meddyginiaethau sy'n deillio o'r fforest law eu defnyddio'n gyffredinol ar gyfer twymyn, heintiau, llosgiadau, problemau gyda'r stumog, poen, a phroblemau anadlu. Dyna ni, rydym yn eich gwella; gallwn eich iacháu.

    Efallai na chawn ni'r cyfle byth i ddangos yr hyn fedrwn ni ei wneud, serch hynny. Rydym yn gwybod eich bod chi'n ein dinistrio i gyd er mwyn tyfu cnydau a datblygu tir pori ar gyfer eich gwartheg. Fel y bydd y fforest law'n diflannu, felly hefyd llawer iachâd posib oddi wrth afiechydon sy'n peryglu bywyd.

    Dydych chi'r bodau dynol ddim yn gwybod beth ydych chi’n ei wneud. O ddifri, dydych chi ddim yn gwybod beth ydych chi’n ei wneud.

Amser i feddwl

Arweinydd:Mae sawl gwlad – Brasil yn benodol – wedi datgan bod eu rhaglen o ddifforestu yn argyfwng cenedlaethol.

Mae'r dinistr sy'n digwydd i'r fforestydd glaw yn cael effaith difrodus. Does gan y coed, yr anifeiliaid a'r planhigion ddim llais. Pwy all roi llais iddyn nhw? A wnewch chi?

A wnewch chi ddarganfod mwy am yr hyn sy'n digwydd i fforestydd glaw y byd?

A wnewch chi siarad ar ran y coed, yr anifeiliaid a'r planhigion?

Gadewch i ni wrando unwaith yn rhagor ar synau'r fforest law. Beth mae'r fforest law yn ei ddweud wrthych chi?

Cân/cerddoriaeth

Fragile’ gan Sting

Dyddiad cyhoeddi: Chwefror 2014    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon