Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Ubuntu

Meiddiwch ofalu am eich cymydog

gan Helen Redfern

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Dangos fod pob un yn gymydog i ni, a chyflwyno’r cysyniad Ubuntu o Dde Affrica.

Paratoad a Deunyddiau

  • Byddwch angen pedwar plentyn i actio'r ddrama yng Ngham 2.  Bydd un yn chwarae cefnogwr Newcastle neu dîm lleol a'r lleill yn actio'r stori fel y caiff ei hadrodd yn y gwasanaeth. Gwnewch yn siwr bod y plant yn ymgyfarwyddo â'r stori ymlaen llaw.
  • Byddwch angen y props canlynol hefyd: dau sgarff ar gyfer y ddau dîm, Newcastle a Sunderland sy'n gwrthwynebu ei gilydd neu dau dîm lleol, ffôn symudol a waled, het plismon a stethosgop neu fag meddyg.
  • Er mwyn deall y cysyniad o ubuntu, edrychwch ar y clip o Nelson Mandela yn sôn amdano ar:www.youtube.com/watch?gl=GB&hl=en-GB&v=l-RUPwl5edA

  • Nodwch fod y cyflwyniad a'r ddrama yn seiliedig i raddau ar Luc 10.25–37.

Gwasanaeth

  1. Cyflwyniad

    Un diwrnod, pan oedd Iesu'n addysgu torf o bobl - yn debyg iawn i'r hyn rwyf yn ei wneud wrth sefyll yn siarad gyda chi nawr - safodd dyn ifanc galluog yn y cefn i ofyn cwestiwn. Roedd eisiau gweld a allai dwyllo Iesu a gwneud iddo ymddangos yn ffwl. Fe ddywedodd:

    ‘Athro, beth a wnaf i etifeddu bywyd tragwyddol?’ Mewn geiriau eraill, ‘Beth sydd raid i mi ei wneud i allu byw am byth?
    Fel pob athro da, fe atebodd Iesu'r cwestiwn â chwestiwn:

    ‘Rwyt yn gwybod yr ateb i'r cwestiwn yna yn barod. Mae o wedi ei ysgrifennu yn y Llyfr Sanctaidd. Beth mae'n ei ddweud?’

    Roedd y dyn ifanc yn gwybod yr ateb. Fe ddywedodd:

    ‘“Câr yr Arglwydd dy Dduw â'th holl galon ac â'th holl enaid ac â'th holl nerth ac â'th holl feddwl, a châr dy gymydog fel ti dy hun.”’

    ‘Ateb da, ddyn ifanc’, atebodd Iesu. ‘Dos felly, a gwna hynny.’

    Ond nid oedd y dyn ifanc galluog wedi gorffen.

    ‘Wel, felly pwy yw fy nghymydog?’ dywedodd.

    Fel yr oedd yn gwneud yn aml, atebodd Iesu'r cwestiwn hwn trwy adrodd stori. Fe ddigwyddodd y stori hon dros 2,000 o flynyddoedd yn ôl, felly gadewch i ni ddod â hi i'r cyfnod presennol er mwyn ei gwneud hi'n hawdd i bob un ohonom ei deall.

  2. Gwahoddwch y pedwar plentyn sydd yn mynd i actio yn y ddrama i ddod ymlaen ac eistedd ar un ochr yn y ffrynt. Rhowch sgarff Newcastle neu sgarff o dîm lleol (os ydych yn defnyddio timau lleol yn y ddrama, amnewidiwch eu henwau), y ffôn symudol a'r waled i'r plentyn sydd yn mynd i chwarae cefnogwr Newcastle neu dîm lleol a phrop yr un i'r tri chymeriad arall.

    Drama

    Mae'r stori hon am gefnogwr tîm Newcastle. Mae'n cerdded trwy'r dref ar ei ffordd adref ar ôl gêm, ac mae ar ben ei ddigon, yn hapus dros ben. Mae Newcastle wedi trechu Sunderland 3-0! Am gêm!

    Trechu Sunderland yw'r teimlad gorau yn y byd. Allai ein cefnogwr o dîm Newcastle ddim bod yn hapusach. Mae ganddo'i ffôn yn ei law ac mae'n anfon neges destun at ei ffrindiau i gyd i rannu'r newyddion da gyda nhw. Mae ei waled ganddo yn ei law arall yn barod i dynnu allan arian ar gyfer y bws pan fydd ei angen. Mae'n dewis mynd ar hyd llwybr i lawr stryd gefn heb bobl ynddi er mwyn osgoi'r tyrfaoedd fel ei fod yn gallu cyrraedd yr arosfa i'w fws yn gynt.

    Yn sydyn, o unman, mae gang yn ymosod arno. Dydy o ddim yn gallu gweld eu hwynebau. All o ddim amddiffyn ei hun. Mae yna ormod ohonyn nhw. Maen nhw'n cymryd ei waled a'i ffôn symudol a'i adael yn gorwedd ar y stryd fudr. Prin ei fod yn ymwybodol. Mae'n methu gweiddi am help. Does yna neb o gwmpas i'w helpu beth bynnag.

    Ymhen amser, mae'n clywed swn traed. Dyna ryddhad. O'r diwedd bydd rhywun yn ei helpu. Meddyg sydd yna, ar ei ffordd adref ar ôl gweithio shifft brysur yn yr ysbyty lleol. Mae'n flinedig ac eisiau bwyd. Y cyfan y mae eisiau ei wneud yw mynd adref at ei wraig a'i blant. Mae'n gweld y dyn yn gorwedd yn y stryd ac yn tybio ei fod wedi meddwi. Roedd e'n gwybod y dylai stopio i'w helpu, ond, yn lle hynny, mae'n cerdded heibio ar ochr arall y ffordd. Ni fydd neb yn gwybod ei fod wedi bod heibio. Does ganddo fo ddim amser i'w wastraffu ar y pwdryn hwn, meddyliodd.

    Mae mwy o amser yn mynd heibio. Mae'n teimlo fel oriau i'r dyn sydd wedi ei anafu. Yna mae'n clywed swn traed rhywun arall yn dod. Help o'r diwedd. Y tro hwn, plismon sydd yna, o'r diwedd wedi gorffen ei waith caled drwy'r dydd yn atal cefnogwyr y ddau dîm pêl-droed rhag ymladd yn erbyn ei gilydd. Ac, o ie, edrychwch, dyma un arall ohonyn nhw. Wel, mae o wedi cael llond bol arnyn nhw i gyd. Fe gafodd y dyn hwn o bosib yr hyn roedd yn ei haeddu. Nid yw'r plismon hwn ar alw yn awr. Mae'n mynd adref. Mae'n cerdded heibio ac yn gadael y dyn ar y stryd.

    Mae ein cefnogwr i dîm Newcastle wedi rhoi heibio pob gobaith erbyn hyn. Mae'n credu o ddifrif ei fod yn mynd i farw ar y stryd honno. Dydy o ddim hyd yn oed yn sylwi ar y swn traed nesaf sy'n nesáu ato.  Y tro hwn, cefnogwr tîm Sunderland sydd newydd gael ei adael allan o'r maes pêl-droed sydd yna ac mae ar ei ffordd i'r orsaf reilffordd. Mae'n debygol y bydd yn rhoi cic dda arall i'n cefnogwr o dîm  Newcastle wrth iddo fynd heibio.

    Ddim o gwbl! Edrychwch! Mae'n stopio ac yn gwyro dros y dyn sydd wedi ei anafu. Mae'n ei helpu i godi ac mae'n mynd ag ef i gael y cymorth y mae ei angen. Mae gwaed y dyn arall drosto i gyd, ond nid yw'n ymddangos ei fod yn sylwi. Nid yw chwaith yn sylwi ar sgarff tîm Newcastle.

    Tair bloedd i’n cefnogwr o Sunderland. Hip, hip, hwre! Hip, hip, hwre! Hip, hip, hwre!

  3. Ubuntu

    Ar ôl i Iesu ddweud y stori hon, fe drodd at y dyn ifanc a dweud, ‘Dos di'n awr a gwna di'r un modd. Bydd fel y cefnogwr hwnnw o dîm Sunderland. Dos a rho gymorth i bwy bynnag sydd ei angen.’

    Dyma beth mae 'ubuntu' yn ei olygu.

    Gair yw 'ubuntu' am syniad rhyfeddol.

    Ymarferwch gyda'ch gilydd i ddweud y gair - u-boon-too. Mae swn yr ‘u’ fel yr un ar ddechrau'r gair ‘uwd’,a'r ‘boo’ fel yn ‘bwndel’.

    Gair o Dde Affrica yw ubuntu am agwedd gyffredinol o garedigrwydd tuag at bawb arall. Mae ubuntu yn golygu byth edrych y ffordd arall. Nid yw ubuntu byth yn golygu cerdded ymaith.

    Mae ubuntu yn clymu pawb yn y gymdeithas ynghyd, mewn cymuned, heb ystyried lliw eu croen, eu crefydd na'r tîm pêl-droed y maen nhw'n ei gefnogi.

    Mae ubuntu yn ymwneud â dathlu'r ffyrdd sy'n ein gwneud yn debyg i'n gilydd a ddim yn sylwi ar yr hyn sy'n ein gwneud yn wahanol.

    Mae ubuntu yn ymwneud â chysylltu pawb ynghyd, a sicrhau bod popeth yn cael ei rannu, fel nad oes neb yn cael ei adael heb ddim.

    Mae pobl De Affrica yn credu mai hyn sy'n ein gwneud yn fodau dynol cyflawn. Y ffordd yr ydym yn ymateb i anghenion pawb o'n cwmpas sy'n ein gwneud yr hyn ydym. Mae ubuntu yn golygu croesawu dieithryn â breichiau agored.

    Mae ubuntu yn ymwneud â bod yn gynnes a haelionus, yn ofalgar ac yn dosturiol.

Amser i feddwl

Gadewch i ni eistedd yn llonydd am ychydig funudau a myfyrio ar y ddrama a welsom ni a'r gair - ubuntu - rydym wedi ei ddysgu heddiw.

‘Dwyt ti ddim fel fi.’
‘Dwyt ti ddim yn siarad yr un fath â fi.’
‘Dwyt ti ddim yn edrych yr un fath â fi.’
‘Rwyt ti'n ddieithr.’

Nid ffordd ubuntu o fodoli yw hyn.

‘Rwyt ti mor ddiddorol.’
‘Rwy'n caru clywed am dy fywyd.’
‘Mae dy brofiadau mor wahanol, mae'n hudol.’
‘Rwyt ti'n rhyfeddol.’

Dyma ffordd ubuntu o fodoli.

‘Cadw draw oddi wrthyf.’
‘Aros fan acw.’
‘Dwi ddim eisiau unrhyw beth i'w wneud â thi.’
‘Dwyt ti ddim yn ffrind i mi.’

Nid ffordd ubuntu o fodoli yw hyn.

‘Tyrd yma.’
‘Tyrd ac eistedd gyda mi.’
‘Tyrd i chwarae gyda mi.’
‘Wnei di fod yn ffrind i mi?’

Dyma ffordd ubuntu o fodoli.

Heddiw, rydych wedi clywed beth yw caru eich cymydog. Fel y dywedodd Iesu wrth y dyn ifanc, ‘Dos yn awr a gwna'r un modd.’

Dyddiad cyhoeddi: Chwefror 2014    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon