Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Sul y Fam: meddyliwch o ddifri!

gan Gordon Lamont

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 2

Nodau / Amcanion

Dathlu Sul y Fam, gan awgrymu nad dim ond cardiau ac anrhegion sy’n cyfri.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen Arweinydd ac, oherwydd bod y gwasanaeth hwn ar ffurf drama syml, fe fydd arnoch chi angen paratoi pedwar plentyn i chwarae’r rhannau. Dim ond un llinell sydd gan Llefarydd 4 i’w dweud, felly fe allech chi ddweud y llinell hon eich hunan. Ond mae Llefarydd 3 â rhan fwy, yn cynnwys y gerdd syml ar y diwedd. Fe all y plant ddarllen y brawddegau, ond fe fyddai’n dda pe bydden nhw’n gallu cael cyfle o flaen llaw er mwyn arfer eu llefaru. (fe allwch chi ddod i wybod mwy ar ddefnyddio drama yn y gwasanaeth ar ein tudalennau ‘Resources’ ar: www.assemblies.org.uk/leading-assemblies/advice-drama a gwelwch hefyd ein nodiadau ynghylch cyflwyno ar y dudalen we ‘Presentation’ ar: www.assemblies.org.uk/leading-assemblies/advice-presentation
  • Os bydd hynny’n bosib, trefnwch fod gennych chi recordiad o effaith sain debyg i sain ‘fast forward’ - gwich uchel sydyn ddoniol - i’w ddefnyddio ar yr adeg briodol. Fe allech chi lwytho i lawr sain o’r fath oddi ar safle gwe fel www.freesound.org <http://www.freesound.org/> (bydd angen cofrestru) neu recordio sain debyg eich hunan trwy ddefnyddio offerynnau cerdd neu lais. Os oes gennych chi’r ddarpariaeth i olygu fideo neu recordiadau sain yn yr ysgol, ceisiwch gyflymu enghreifftiau o ddarnau wedi eu llefaru a/ neu i newid y traw, gan ddefnyddio cyfrwng golygu fel Audacity, er enghraifft.
  • Mae stori ddoniol ac anarferol ynghylch Sul y Fam i’w chael ar y rhaglen radio ‘Together’, gan y BBC, ar gyfer Gwasanaethau i Ysgolion, (ar gael o 21 Mawrth ar: www.bbc.co.uk/programmes/b03g64pp).

Gwasanaeth

  1. Arweinydd  Cyflwynwch thema’r gwasanaeth, gan bwysleisio mai actio’r rhannau mae’r Llefarwyr yn ei wneud, ac nid mynegi eu safbwynt eu hunain. Yna, cyflwynwch y Llefarwyr gan ofyn i bawb wrando ar yr hyn sydd ganddyn nhw i’w ddweud. Fe ddylai Llefarydd 3 sefyll ym mhen pella’r rhes.
    Llefarydd 1
      Fy mam i yw’r person gorau yn y byd.

    Llefarydd 2 Fy mam i yw’r person gorau yn y byd, ac rydw i’n mynd i ddweud hynny wrthi!

    Llefarydd 3  Mae fy mam i’n OK - y rhan fwyaf o’r amser.

    Saib.

    Llefarydd 1  Fe wnes i brynu bocs o siocledi i fy mam.

    Llefarydd 2  Fe wnes i brynu cerdyn hyfryd i fy mam i.

    Llefarydd 3  Fe wnes i brynu polish a dwster i fy mam i, am ei bod hi o hyd yn dweud bod fy ystafell i fel tomen sbwriel!

    Saib.

    Llefarydd 1  Rydw i am wneud brecwast yn y gwely i fy mam i ar Sul y Mamau.

    Llefarydd 2  Rydw i wedi gwneud teisen arbennig i fy mam i erbyn Sul y Mamau.

    Llefarydd 3  Fe wnes i deisen hefyd, i fy mam i, ond fe wnes i ei bwyta wedyn. Roedd hi’n deisen dda hefyd!

    Saib.

    Llefarydd 1  Fe ddylem ni i gyd fod yn ddiolchgar am ein mamau.

    Llefarydd 2  Mae mamau’n grêt - ble bydden ni hebddyn nhw?

    Llefarydd 3  Mae fy mam i’n OK - y rhan fwyaf o’r amser.

    Saib.

    Llefarydd 4  Pa un o’r rhain yw’r tebycaf i chi? Gadewch i ni fynd ymlaen rai dyddiau’n gyflym, gyflym - fel pe bydden ni’n pwyso switsh fast forward.

    Os byddwch chi’n defnyddio’r effaith sain ‘fast forward’, chwaraewch hwnnw ar y pwynt hwn. Tra bydd y recordiad yn chwarae, fe fydd y llefarwyr yn ail osod eu hunain gan symud o gwmpas fel rhywbeth yn cael ei yrru ymlaen yn gyflym. Fe ddylai Llefarydd 3 barhau i fod ar ben y rhes fel o’r blaen, wedi i’r sain ddod i ben.

    Llefarydd 1 Fe wnes i roi siocledi i fy mam, fe wnes i frecwast yn y gwely iddi, ac fe wnes i ddweud wrth mai hi yw’r fam orau.

    Llefarydd 2  Fe wnes i roi cerdyn hardd i fy mam i, fe wnes i deisen iddi, ac fe wnes i ddweud wrth mai hi yw’r fam orau.

    Llefarydd 1  Ac mae hi’n dal i fy nwrdio a dweud wrtha i am fynd i wneud fy ngwaith cartref . . .

    Llefarydd 2  Ac mae hi’n dal i fod eisiau i mi wneud y gwaith golchi llestri . . .

    Llefarydd 1  Wn i ddim pam gwnes i drafferthu.

    Llefarydd 2  Wn i ddim pam gwnes i drafferthu.

    Saib.

    Llefarydd 3  Mae fy mam i’n OK - fwy neu lai bob tro.
    Rydyn ni’n ffraeo weithiau - ond, dyna fo!
    Weithiau mae’n cwyno, weithiau mae’n flin,
    ond ymhen ychydig fe fydd pawb yn gytûn.
    Pan ddywedais wrthi fy mod i wedi bwyta’r gacen,
    chwerthin wnaeth hi’n ddigon llawen,
    a dweud, ‘Dim ots - gei di dacluso’r cypyrddau.’
    ‘OK,’ meddwn innau, ‘fe wnaf fy ngorau.’

    Pan wnes i roi iddi y polish a’r dwster,
    ‘Iawn, gawn ni lanhau,’ meddai wrthyf - ac estyn yr hwfer!

    Mae fy mam i’n OK - fwy neu lai bob tro.
    Os gwna i fy rhan, fydd hi ddim yn mynd o’i cho!
    Fe gawn ni amser da, weithia, fy mam a fi,
    Felly, rwy’n gobeithio y gwnewch chi gytuno â mi
    Pan ddyweda i nad wyf yn amau
    bod mam bob amser yn orau . . . ac nid dim ond . . .

    Pawb  . . .  nid dim ond ar Sul y Mamau!

  2. Arweinydd Crynhowch neges y gwasanaeth heddiw trwy ddweud ei fod yn beth gwych cael diwrnod arbennig i ddathlu a diolch i’n mamau am eu gofal, ond y rhoddion gorau yw’r rheini sy’n parhau. Yn aml, pethau bach yw’r pethau rheini - y pethau bach y byddwn ni’n eu gwneud, a’r ffyrdd bach syml rydyn ni’n ymddwyn tuag at ein gilydd bob amser. Doedd y trydydd Llefarydd ddim wedi gwneud cymaint o ffws ar yr un diwrnod arbennig hwn o’r flwyddyn, sef Sul y Fam, ond efallai bod ei rodd ef neu hi yn wahanol ac yn parhau’n hirach.

  3. Arweinydd Fe allech chi ddarllen penillion yr emyn Saesneg, ‘I will bring to you the best gift I can offer’ (Come and Praise, 59) yma, os hoffech chi – gan ailadrodd rhai o’r llinellau:

    I will bring to you the best gift I can offer . . . Fe ddof â’r rhoddion gorau y gallaf eu cynnig.

    I’ll share my secrets and my dreams, I’ll show you wonders I have seen . . . Fe rannaf fy nghyfrinachau a’m breuddwydion. Fe ddangosaf i ti ryfeddodau . . .

    Gallwch awgrymu y gallai un o’r rhyfeddodau hyn fod yn fab neu’n ferch sy’n fodlon helpu trwy gydol y flwyddyn – efallai!

Amser i feddwl

Sut gallwn ni ledaenu neges Sul y Fam trwy gydol y flwyddyn?
Beth fyddai’r anrheg orau y gallech chi ei roi i’ch mam?

Dyddiad cyhoeddi: Mawrth 2014    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon