Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Os gwelwch chi'n dda ga i grempog

Dydd Mawrth Ynyd, neu Ddydd Mawrth Crempog

gan Janice Ross

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Dangos y gall un cynhwysyn anghywir ddifetha’r pobiad cyfan.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen ffedog, a dwy fowlen gymysgu, dau chwisg llaw (balloon whisk), gogor flawd a bwrdd.
  • Hefyd, fe fydd arnoch chi angen y cynhwyson canlynol: bag o flawd plaen, ychydig o halen, wyau a llefrith, Casglwch hefyd botelaid o olew coginio a chan o olew modur.
  • Nodwch y bydd angen i chi gadw un fowlen, un chwisg a’r olew coginio o’r golwg mewn bag a’r olew modur o’r golwg mewn bag arall.

Gwasanaeth

  1. Dywedwch wrth y plant eich bod wrth eich bodd yn gwylio rhaglenni coginio at y teledu. Gofynnwch ‘Pwy sydd wedi bod yn dilyn y gyfres Great British Bake Off?’ a ‘Faint ohonoch chi sy’n hoffi coginio?’

    Sgwrsiwch ychydig am y gystadleuaeth, y beirniaid, ac am rai o’r heriau a osodwyd i’r rhai oedd yn cystadlu.

    Eglurwch eich bod yn mynd i baratoi cytew ar gyfer gwneud crempogau yn y gwasanaeth heddiw.

  2. Yna, dechreuwch ar y broses o wneud y cytew. Byddwch ychydig yn ddramatig a damweiniol eich symudiadau pan fyddwch chi’n taflu’r cynhwysion i’r fowlen, fel pe byddech chi wedi arfer ac yn hen law ar y gwaith, heb fod eisiau mesur unrhyw beth o gwbl. O fewn rheswm, gorau yn y byd po fwyaf o lanast a fydd ar y bwrdd! Gan gadw hynny mewn cof, gogrwch y blawd ynghyd â phinsiad o halen i’r fowlen gan greu cymylau o flawd mân, craciwch ddau wy i’r blawd a’u curo’n swnllyd â’r chwisg. Ychwanegwch y llefrith yn raddol gan ei arllwys o uchder, a churo’r cyfan yn dda wrth i chi wneud hynny.

    Yna dywedwch, ‘Nawr, mae’r cytew bron yn barod, beth arall ydw i ei angen?’

    Rydych chi’n gobeithio y bydd rhywun yn awgrymu olew (neu paratowch rywun o’r gynulleidfa ymlaen llaw i awgrymu ‘olew’ ar y pwynt hwn, os ydych chi’n meddwl na wnaiff unrhyw un awgrymu hyn).

    Estynnwch y can o olew modur o’r bag sydd gennych chi. Ychwanegwch ddogn go dda o hwnnw at y gymysgedd. Os bydd y plant yn gweiddi ‘Na!’ ac ati, peidiwch â chymryd llawer o sylw ohonyn nhw, a daliwch ati i ychwanegu mwy o olew. Mae’n bosib y byddwch yn clywed arogl cryf yr olew modur erbyn hyn!
    Smaliwch edrych mewn syndod ar y plant gan ofyn, ‘Beth sy’n bod?’

  3. Pwysleisiwch y ffaith bod un cynhwysyn anghywir yn gallu difetha’r holl beth. Roedd yr wyau’n ffres, y blawd a’r llefrith hefyd yn dda, ond roedd yr olew, yn bendant, y math anghywir o olew!

    Nodwch fod hyn yn gallu bod yn wir am agweddau ar ein bywyd hefyd. Mae llawer o bethau da ynghylch ein bywyd ein hunain, a llawer o bethau da ynghylch bywydau’r bobl sydd o’n cwmpas. Cyfeiriwch at unrhyw enghraifft o garedigrwydd, meddylgarwch, ymdrech, amynedd neu arwyddion o fod yn ofalgar rydych chi wedi sylwi arnyn nhw yn achos rhai o’r plant yn ddiweddar.

    Gofynnwch iddyn nhw, ‘Beth sy’n digwydd os ydyn nhw’n ychwanegu rhai cynhwysion anghywir?’

    – pe bydden ni’n cynnwys dweud celwyddau, mae’n difetha’r holl bethau da eraill sy’n rhan o’n bywyd.
    – pe bydden ni’n cynnwys twyllo, mae’n difetha’r holl bethau da eraill sy’n rhan o’n bywyd.
    – pe bydden ni’n cynnwys anufudd-dod . . .

    Unwaith eto, ychwanegwch unrhyw beth sy’n berthnasol i gymuned eich ysgol a’r plant sy’n bresennol.

  4. Mae’r Beibl, sy’n fath o lyfr ryseitiau ar gyfer ein bywyd, yn dweud mai’r cynhwysion da ar gyfer ein bywyd yw trugaredd, caredigrwydd, gostyngeiddrwydd, tynerwch, addfwynder, maddeuant a chariad.

    Gofynnwch i’r plant, ‘Felly, beth sy’n digwydd pan fyddwn ni’n gwneud llanast o bethau - pan fyddwn ni’n ychwanegu rhywbeth cas fel dweud celwydd, twyllo neu fod yn anufudd - yn union fel y gwnaethon ni ychwanegu olew modur at y gymysgedd crempogau - a difetha’r cyfan?’

    Awgrymwch ein bod yn ymddiheuro a dweud ei bod hi’n ddrwg gennym, a dechrau o’r dechrau eto, ond y tro hwn gyda’r cynhwysion iawn.

  5. Gwthiwch y cynhwysion rydych chi eisoes wedi eu defnyddio i’r naill ochr, ac yna estynnwch y fowlen lân a’r chwisg arall, a’r math cywir o olew allan o’r bag arall, fel pe byddech chi’n barod i ddechrau arni eto, ond y tro hwn gyda’r cynhwysion iawn.

Amser i feddwl

Dangoswch y can o olew modur.

Gofynnwch i’r plant, ‘Wnaethoch chi synnu wrth fy ngweld i’n defnyddio olew modur i’w roi yn y gymysgedd? Roeddech chi i gyd yn gwybod fod hwnnw’n beth anghywir i’w roi yn y cytew. Ambell waith mae’n hawdd sylwi pan fydd pobl eraill yn ychwanegu’r cynhwysion anghywir i’w bywyd. Ond yn aml nid yw mor hawdd adnabod ein camgymeriadau ein hunain a chyfaddef ein bod yn eu gwneud rhywbeth o’i le. Treuliwch foment yn meddwl am unrhyw beth yn eich bywyd sy’n ei ddifetha.’

Dangoswch y can olew modur eto, a’i roi o’r neilltu. Dywedwch wrth y plant, ‘Fe allwch chi hefyd ddechrau o’r newydd heddiw, ac ychwanegu’r pethau cywir i’ch bywyd.’

Gweddi
Annwyl Dduw,
Diolch dy fod ti’n ein caru ni, hyd yn oed pan fyddwn ni’n gwneud llanast o bethau ac yn difetha ein bywyd.
Helpa ni i ddweud ei bod hi’n ddrwg gennym ni, ac i ddechrau o’r dechrau eto.
Rydyn ni’n gofyn am dy help di i ychwanegu trugaredd, caredigrwydd, gostyngeiddrwydd, tynerwch, addfwynder, amynedd, maddeuant a chariad i’n bywyd.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Mawrth 2014    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon