Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Hola Mohalla

Dathliad Sikhaidd o ‘fod yn wrol a bod yn barod i amddiffyn’

gan Helen Redfern

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Archwilio’r wyl Hola Mohalla, dathliad Sikhaidd o ‘fod yn wrol a bod yn barod i amddiffyn’’.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen pedwar cerdyn gyda’r geiriau canlynol, un ar bob un, wedi eu hysgrifennu arnyn nhw: ‘Pryd?’, ‘Pam?’, ‘Sut?’ a ‘Beth?’, a phedwar plentyn i ddal y cardiau.
  • Ar gyfer cam 4, gyda’r gair ‘Sut?’, fe fyddai’n dda cael delweddau o’r canlynol: cleddyfau, gwaywffyn a thariannau, ceffylau pren (hobby horses) a hetiau marchogaeth, offerynnau cerdd a llyfr barddoniaeth, llyfr hanes a llyfr sanctaidd a bowlenni - neu gorau oll os gallwch chi gael casgliad o’r eitemau hyn. Yna, fe allwch chi wahodd rhai o’r plant i ddod atoch chi i actio agweddau ar yr wyl. Edrychwch ar y wefan http://www.allaboutsikhs.com/ er mwyn cael gwybodaeth a lluniau.

Gwasanaeth

  1. Yn y gwasanaeth hwn, rydyn ni’n mynd i ddysgu am Hola Mohalla.

    Beth yw Hola Mohalla? Ai math o ddawns fodern boblogaidd ydyw? Ai math o gyrri? Ai traeth egsotig sy’n gyrchfan i enwogion a phobl gyfoethog? Na, gwyl yw Hola Mohalla, gwyl Sikhaidd arbennig, ac rydyn ni’n mynd i ddysgu mwy amdani heddiw trwy ofyn y pedwar cwestiwn canlynol:

    Mae angen i’r pedwar plentyn ddal eu cardiau i fyny yn eu tro, fel a ganlyn:

  2. Mae’r plentyn cyntaf yn dangos y cerdyn ‘Pryd?’.

    Pryd mae gwyl Holla Mohalla’n cael ei chynnal? Wel, mae gwyl Holla Mohalla’n cael ei dathlu ym mis Phalguna yn y calendr Sikhaidd. Mae’n digwydd bob blwyddyn ar y diwrnod sy’n dilyn Holi, gwyl grefyddol sy’n cael ei dathlu gan Hindwiaid yn y gwanwyn. Caiff yr wyl ei chynnal yn ninas sanctaidd y Sikhiaid, sef Anandpur Sahib, yn y Punjab, ac mewn llefydd eraill hefyd ledled y byd. Mae’n wyl symudol, hynny yw, mae’r dyddiad yn newid o flwyddyn i flwyddyn, ac yn y flwyddyn 2014, mae’n digwydd ar 17 Mawrth.

  3. Mae’r ail blentyn yn dangos y cerdyn ‘Pam?’

    Pam mae’r Sikhiaid yn cynnal yr wyl Hola Mohalla? Fe sefydlwyd yr wyl gan yr olaf o’r arweinwyr Sikhaidd, Guru Gobind Singh, yn ei oes ef. Ar y pryd roedd y Sikhiaid yn cael eu gormesu gan y bobl eraill oedd o’u cwmpas, ac oherwydd hynny, fe drefnodd Guru Gobind Singh y bobl yn gymuned o seintiau-filwyr er mwyn eu hamddiffyn. Fe safodd y milwyr Sikhaidd gyda’i gilydd yn unedig yn eu dewrder, ac fe wnaethon nhw lwyddo i wrthsefyll ymosodiadau’r gelynion grymus. Daeth yr wyl hon i fod yn gynulliad o Sikhiaid i gymryd rhan mewn ymarferion milwrol ffug a brwydrau ffug er mwyn eu hatgoffa am yr angen ‘i fod yn wrol a pharod i amddiffyn’ (cofiwch y geiriau hyn).

  4. Mae’r trydydd plentyn yn dangos y cerdyn ‘Sut?’

    Sut mae cynnal yr wyl Hola Mohalla? Wel, dyma ble mae’r hwyl yn dechrau. Mae’r wyl bwysig hon yn parhau am dri diwrnod llawn.

    Gwahoddwch y plant i ddod ymlaen a rhowch y ‘props’ iddyn nhw fel y gallan nhw actio pob un o’r gweithgareddau sy’n cael eu disgrifio isod yn eu tro wrth i chi sôn amdanyn nhw. Yna, fe fydd y plant yn ‘rhewi’ yn eu lle wrth i sylw pawb gael ei ganolbwyntio ar y nesaf bob tro.

    - Caiff brwydrau ffug eu cynnal, a bydd y bobl yn gwisgo gwisgoedd lliwgar ac yn cario gwaywffyn a chleddyfau hir gloyw. Fe fyddan nhw’n smalio brwydro fel y byddai’r fyddin Sikhaidd wedi ei wneud flynyddoedd lawer yn ôl. Fe fydd gorymdaith o gelfyddydau milwrol Sikhaidd yn digwydd hefyd (Sikh martial arts).

    Gan ddefnyddio’r cleddyfau a’r tariannau tegan, mae’r plant yn actio brwydro.

    - Mae arddangosfeydd marchogaeth gwych yn digwydd, lle mae marchogion yn carlamu heibio’r dyrfa ar gyflymder mawr. Maen nhw hefyd yn perfformio styntiau beiddgar gan farchogaeth heb gyfrwy ar y ceffylau, ac yn sefyll ar gefnau dau geffyl weithiau hyd yn oed, ar yr un pryd, a’r rheini’n yn carlamu ar wib ochr yn ochr â’i gilydd.

    Gan ddefnyddio’r ceffylau pren a gwisgo’r hetiau marchogaeth, bydd y plant yn actio styntiau ffug gan smalio marchogaeth ceffylau yn ôl ac ymlaen.

    - Bydd cystadlaethau cerddoriaeth a barddoniaeth yn cael eu cynnal er mwyn dod o hyd i’r cerddorion a’r beirdd gorau yn y wlad.

    Gan ddefnyddio’r offerynnau cerdd a’r llyfr barddoniaeth, mae’r pant yn smalio chwarae’r offerynnau a chyflwyno darnau o farddoniaeth.

    - Caiff storïau eu hadrodd am ddewrder rhyfeddol y Guru Gobind Singh, a bydd darnau yn cael eu darllen o lyfr sanctaidd y Sikhiaid, sef y Sri Guru Granth Sahib.

    Gan ddefnyddio’r llyfr hanes a’r llyfr sanctaidd, mae’r plant yn smalio cyflwyno darlleniadau o’r llyfrau.

    - Bydd pawb sy’n ymweld â’r ardal yn cael eu gwahodd i rannu yn y pryd bwyd traddodiadol sydd wedi ei baratoi a’i ddarparu gan y bobl leol.

    Gan ddefnyddio’r bowlenni, mae’r plant yn smalio eu bod yn bwyta pryd bwyd cymunedol gyda’i gilydd.

    Dychmygwch faint o hwyl yw bod yn bresennol yn yr wyl hon gyda’r holl weithgareddau’n digwydd ar yr un pryd.

    Anogwch y plant i actio’r holl rannau ar yr un pryd.

    Dyna ddathliad gwych!

    Diolchwch i’r plant, yna gofynnwch iddyn nhw i gyd fynd yn ôl i’w lle i eistedd.

  5. Mae’r pedwerydd plentyn yn dangos y cerdyn ‘Beth?’

    Felly, yn olaf, beth all yr wyl Hola Mohalla ein hatgoffa ni ohono heddiw? Roedd ar y Guru Gobind Singh eisiau i’r Sikhiaid gofio pa mor bwysig yw dau beth: ‘y parodrwydd i fod yn wrol a’r parodrwydd i amddiffyn ein hunain’.

    Beth mae’r ddau gysyniad yma’n ei olygu i ni heddiw? Beth yw ystyr ‘gwroldeb’, neu fod yn wrol?

    Mae’n golygu bod yn ddewr a hyderus. Mae’n golygu sefyll yn gadarn dros yr hyn sy’n iawn, hyd yn oed pan fydd ofn arnoch chi. Mae’n golygu goresgyn eich ofnau a gwneud y peth iawn.

    Beth yw ystyr ‘bod yn barod’? Bod yn barod i amddiffyn y gwirionedd. Bod yn barod i sefyll yn gadarn dros y rhai gwan. Bod yn barod i sefyll yn gadarn dros eich ffrindiau.

Amser i feddwl

Gadewch i ni ddiweddu ein gwasanaeth trwy feddwl am y ddau gysyniad yma – bod yn ddewr, a bod yn barod – a’u cyfuno’n un cwestiwn: ydych chi’n barod i fod yn ddewr?

Pan fydd eich ffrindiau’n dechrau pigo ar y plentyn newydd ar yr iard, fyddwch chi’n barod i fod yn ddewr a sefyll dros yr hyn sy’n iawn?

Pan fydd eich athro neu athrawes yn ceisio dod o hyd i’r gwir ynghylch digwyddiad yn y dosbarth, fyddwch chi’n barod i fod yn ddewr a dweud y gwir?

Pan fyddwch chi’n gweld rhywun oedrannus yn ymdrechu gyda bagiau trwm o neges, fyddwch chi’n barod i fod yn ddewr a chynnig helpu?

Pan fyddwch chi’n clywed pobl neu blant yn gwneud sylwadau cas am bobl neu blant sy’n wahanol iddyn nhw, fyddwch chi’n barod i fod yn ddewr a sefyll dros gydraddoldeb?

Pan fyddwch chi’n gweld plant eraill yn taflu sbwriel ar lawr, fyddwch chi’n barod i fod yn ddewr a dangos esiampl dda?

Pan fyddwn ni’n cofio’r hyn rydyn ni wedi ei ddysgu am wyl Hola Mohalla, gadewch i ni gofio bod yn barod i fod yn ddewr, ar unrhyw amser, mewn unrhyw le, ac ar unrhyw ddiwrnod.

Dyddiad cyhoeddi: Mawrth 2014    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon