Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Dim ond ychwanegu dwr

Dathlu Diwrnod Gweddi Byd-eang y Merched

gan Helen Redfern

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Annog y plant i feddwl faint o wahaniaeth mae dwr yn gallu ei wneud, yn llythrennol ac yn ffigurol.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen amrywiaeth o ‘brops’ – gwelwch Cam 1 a dewiswch yn ôl yr hyn sydd ar gael gennych chi, a beth hoffech chi ei ddefnyddio.
  • Fe fydd arnoch chi angen Arweinydd a thri Darllenydd.
  • Ymgyfarwyddwch â’r stori yn Efengyl Ioan, pennod 4.
  • Mae rhagor o wybodaeth am Ddiwrnod Gweddi Byd-eang y Merched ar: https://www.wwdp.org.uk/

Gwasanaeth

  1. Arweinydd

    Siaradwch am y gwrthrychau rydych chi wedi eu dewis (gwelwch yr adran ‘Paratoad a deunyddiau’ uchod) a thrafodwch fel a ganlyn.

    Planhigyn yn dechrau gwywo
    Beth sy’n bod ar y planhigyn hwn? Beth sydd ei angen arno? Beth fyddai’n digwydd pe byddwn i’n rhoi rhywfaint o ddwr iddo?

    Potyn o nwdls sych
    Mmmm . . . mae hwn yn edrych yn flasus. Wel, na ddim mewn gwirionedd, ddim fel y mae ar hyn o bryd beth bynnag. Mae’r potyn yn llawn o bowdr a darnau bach caled. Beth sydd ei angen arno?Beth fyddai’n digwydd pe byddwn i’n arllwys dwr berwedig dros y nwdls?

    Gwlanen ymolchi neu sbwng cywasgedig sych
    Fe gefais i’r sbwng/ gwlanen ymolchi yma ar fy mhen-blwydd, ond mae’n hollol galed. Alla i ddim ei ddefnyddio fel y mae ar hyn o bryd. Beth sydd ei angen arno?Beth fyddai’n digwydd pe byddwn i’n ei roi dros ei ben mewn dwr cynnes?

    Coeden tyfu crisialau
    Dyma ddiddorol. Mae’r llun yn edrych mor ddeniadol ar y bocs, ond nid dyna sut mae beth bynnag sydd yn y bocs yn edrych. Ydyn nhw wedi rhoi un diwerth i mi, neu beth? Beth sydd ei angen ar y goeden tyfu crisialau? Beth fyddai’n digwydd pe byddwn i’n ychwanegu dwr?

    Bag te
    Fe ddywedais i wrth fy ffrind, ‘O, fe fyddai’n dda gen i gael paned o de,’ ac fe roddodd hi hwn i mi! Beth alla i ei wneud â hwn? Alla i ddim ei yfed fel hyn. Mae’n debyg y gallwn i ei fwyta, ond dw i ddim yn meddwl y byddai’n blasu’n dda iawn! Beth sydd ei angen arno? Beth fyddai’n digwydd pe byddwn i’n arllwys dwr berwedig ar y bag te yma?

    Yn yr holl enghreifftiau hyn, roedd angen ychwanegu dwr bob tro. Fe fyddai dwr yn dod â bywyd i’r planhigyn. Fe fyddai’r potyn o bowdr a nwdls sych yn dod yn rhywbeth posib ei fwyta a’i fwynhau ar ôl ychwanegu dwr. Fe fyddai’r sbwng neu’r wlanen ymolchi yn meddalu ac yn dod yn rhywbeth posib ei ddefnyddio i ymolchi ag ef wedyn. Fe fyddai’r crisialau’n tyfu’n batrwm cywrain ar y goeden tyfu crisialau. Ac fe fyddai’n bosib gwneud paned dda o de gyda’r bag te.

    Mae dwr yn hanfodol i fywyd. Rhaid i ni gael dwr i fyw. Mae ychwanegu dwr yn adfywio rhywbeth ac yn dod â bywyd.

  2. Arweinydd  Ar 7 Mawrth, mae Diwrnod Gweddi Byd-eang y Merched yn cael ei gynnal, a’r thema eleni yw dwr.

    Bob blwyddyn, ar y dydd Gwener cyntaf o fis Mawrth, mae merched Cristnogol ledled y byd yn ymgynnull yn eu hardaloedd lleol i weddïo. Bob blwyddyn, mae’r gwasanaeth yn cael ei ysgrifennu a’i baratoi gan ferched o wahanol wledydd. Eleni, merched Cristnogol o wlad yr Aifft sydd wedi llunio’r gwasanaeth.

    Mae pobl yr Aifft yn gwybod pa mor bwysig yw dwr. Mae’r Aifft yng Ngogledd Affrica, ac mae’n wlad boeth iawn. Mae llawer o’r wlad yn anialwch.

    Beth yw enw’r afon fawr sydd yng ngwlad yr Aifft?

    Yr Afon Neil. Yr Afon Neil yw’r ail afon hiraf yn y byd. Caiff yr Afon Neil ei galw’n ‘rhodd o fywyd’ am ei bod yn dod â bywyd i’r pridd. Mae’r bobl yn tyfu cnydau i’w bwyta er mwyn cadw’n iach.

    Mae’n dda cofio pa mor bwysig yw dwr yn ein bywyd o ddydd i ddydd. Mae 884 miliwn o bobl o hyd ledled y byd sydd heb fynediad rhwydd at ddwr glân. Mae dwr yn bwysicach na bwyd hyd yn oed er mwyn cadw’n fyw. Mae bodau dynol yn dibynnu ar ddwr glân ffres er mwyn gallu tyfu a chadw’n iach.

  3. Arweinydd  Yn Efengyl Ioan, pennod 4, fe welwn ni bod Iesu’n gwybod sut beth oedd bod yn sychedig. Fe wnaeth gyfarfod â gwraig o Samaria wrth ymyl ffynnon, ac fe ofynnodd iddi am ddiod o ddwr. Fyddai’r rhan fwyaf o ddynion Iddewig ar y pryd byth wedi meddwl siarad gyda gwraig ddieithr, ac yn enwedig ddim gyda gwraig o Samaria. Doedd yr Iddewon a’r Samariaid ddim yn ffrindiau, ac roedden nhw’n eu dirmygu. Ond roedd Iesu’n un da am siarad â phob math o bobl, hyd yn oed y rhai hynny y byddai pobl eraill yn eu dirmygu a’u sarhau.

    Mae Iesu’n mynd yn ei flaen i ddweud wrth y wraig y byddai ef yn gallu rhoi iddi hi ddwr bywiol, ac na fyddai hi byth yn sychedig wedyn. Ond nid dwr cyffredin yr oedd Iesu’n sôn amdano; roedd yn sôn am y rhodd o fywyd, na fyddai byth yn sychu. Mae hyn yn beth anodd iawn ei ddeall, rwy’n gwybod. Meddyliwch yn ôl at y pethau a ddangosais i chi ar ddechau’r gwasanaeth hwn. Ydych chi’n meddwl bod ein bywyd ni, ambell waith, yn teimlo’n debyg i’r pethau hyn a welson ni? Yn ddiflas, yn sych a thrist, efallai? Ydych chi weithiau’n teimlo’n ddiobaith neu’n bryderus?

    Ydych chi weithiau’n teimlo yr hoffech chi gael chwistrelliad ffres o fywyd newydd - rhywbeth i’ch ysbrydoli chi a rhoi gobaith i chi?

    Rwy’n meddwl mai dyna’r math o beth yr oedd Iesu’n sôn amdano.

    – ambell waith mae rhywun yn ffrind da ac rydyn ni’n teimlo wedi ein calonogi.
    – ambell waith mae athro neu athrawes yn ein canmol am wneud darn da o waith, neu am helpu, ac rydyn ni’n cael ein hysbrydoli.
    – ambell waith mae rhywun yn gwenu arnom, ac rydyn ni’n teimlo’n hapus.
    – ambell waith mae rhywun yn gofyn i ni sut ddiwrnod rydyn ni wedi ei gael ac rydyn ni’n teimlo bod rhywun â diddordeb ynom ni.
    – ambell waith mae mam yn ein cofleidio, ac rydyn ni’n teimlo’n ‘sbesial’.

    Mae’r geiriau hyn, neu’r wên, neu’r cofleidio, yn gallu teimlo fel ffrydiau yn yr anialwch, ac yn dod â bywyd newydd i’n calon.

Amser i feddwl

Arweinydd  Gadewch i ni feddwl am foment am ffrydiau yn yr anialwch.

Wrth i ni ddiweddu ein gwasanaeth heddiw, gadewch i ni dreulio moment yn ystyried gwerth dwr a’r gwahaniaeth mae dwr yn gallu ei wneud i’r byd a’n bywydau ni oll.

Darllenydd 1  Gadewch i ni feddwl pa mor bwysig yw dwr yn ein byd heddiw.
Gadewch i ni ddweud diolch am y dwr rydyn ni’n ei ddefnyddio i’w yfed, ac i ymolchi ag ef bob dydd.
Gadewch i ni gofio’r rhai hynny sydd heb ddwr glân ffres.
Boed mynediad i bawb at ddwr glân ffres fod yn flaenoriaeth yn ein byd heddiw.

 Darllenydd 2  Gadewch i ni gofio am Ddiwrnod Gweddi Byd-eang y Merched ar 7 Mawrth.
Gadewch i ni feddwl am y merched Cristnogol o wlad yr Aifft sydd wedi ysgrifennu a pharatoi’r gwasanaeth.
Boed i’r diwrnod cyfan fod yn ddiwrnod o rym a gweithredu wrth i ferched ledled y byd ymuno â’i gilydd i weddïo.

Darllenydd 3  Gadewch i ni ddysgu bod yn ffrydiau yn yr anialwch yn ein bywyd o ddydd i ddydd.
Boed i ni fod yn ffrindiau da i bobl eraill.
Boed i ni ddod ag anogaeth i eraill.
Boed i ni ddod â bywyd a hapusrwydd i eraill.
Amen. 

Dyddiad cyhoeddi: Mawrth 2014    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon