Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Pretzels

gan Janice Ross

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Cael y plant i ymgyfarwyddo â stori am gyfnod y Grawys.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen rhai enghreifftiau o eitemau neu siapiau bwytadwy sy’n gysylltiedig â dathliadau, gwyliau a thymhorau – bisgedi siâp seren, crempogau, losin siâp ffon, wyau Pasg bach, siocledi siâp calon, marshmallows neu datws pob, Siôn Corn siocled neu gwningen siocled, a pretzel.
  • Fe fydd arnoch chi hefyd angen pretzel bach ar gyfer pob plentyn, i’w rhannu ar ddiwedd y gwasanaeth. Mae’n bwysig gwirio a oes gan unrhyw un o’r plant alergedd gwenith, a chael rhywbeth gwahanol i’w gynnig iddo ef neu hi, os oes.

Gwasanaeth

  1.  Gofynnwch oes unrhyw un wedi cael parti pen-blwydd yn ddiweddar, neu wedi bod mewn parti? Beth wnaethon nhw ei fwyta?

    Nodwch y byddech chi’n debygol o weld cacen pen-blwydd mewn parti pen-blwydd, cacen gyda chanhwyllau arni, mae’n debyg. Ac mewn gwledd briodas hefyd, fe all y bwydydd amrywio o briodas i briodas, ond fe fydd cacen bron bob amser yn ganolbwynt y dathlu. Felly, fe welwch chi fod rhai bwydydd neilltuol yn cael eu cysylltu â dathliadau neilltuol.

  2. Siaradwch am y ffordd rydyn ni’n cysylltu bwydydd penodol gydag ambell wyl, a hyd yn oed wahanol dymhorau hefyd.

    Dangoswch y siapiau neu’r eitemau bwytadwy rydych chi wedi eu casglu (gwelwch yr adran ‘Paratoad a deunyddiau’) - ar wahân i’r pretzel, a gofynnwch i’r pant ydyn nhw’n gallu nodi’r wyl neu’r adeg arbennig o’r flwyddyn sy’n gysylltiedig â’r adeg y bydden nhw’n debygol o fwynhau bwyta’r pethau hyn. Er enghraifft:

    - bisgedi siâp seren - y Nadolig
    - crempog - Dydd Mawrth crempog, neu Ddydd Mawrth Ynyd
    - ffon losin - y Nadolig 
    - wy Pasg bach - y Pasg
    - siocled siâp calon - Diwrnod Santes Dwynwen neu ddiwrnod Sant Ffolant
    - marshmallows neu datws pob - Noson Guto Ffowc
    - Siôn Corn siocled neu gwningen siocled - y Nadolig neu'r Pasg.

  3. Yna, dangoswch yn pretzel a gwahoddwch y plant i awgrymu â pha adeg y byddech chi’n cysylltu hwn. Fe allai rhywun awgrymu bod y rhain yn gysylltiedig â’r Nadolig am eu bod i’w gweld ar werth mewn siopau yn ystod tymor y Nadolig. Dywedwch wrth y plant fod gennych chi stori am darddiad a phwrpas siâp y bara pretzel.

  4. Yng nghalendr yr Eglwys, y Garawys yw’r cyfnod o 40 diwrnod cyn y Pasg. Dyma’r adeg i Gristnogion aros a myfyrio ar y ffordd maen nhw’n teimlo, a meddwl am eu blaenoriaethau ac am eu bywyd ysbrydol wrth iddyn nhw baratoi ar gyfer y Pasg. Mae gwasanaethau arbennig yn cael eu cynnal mewn eglwysi yn ystod y Grawys, adegau arbennig o weddi, a rhannau arbennig o’r Beibl yn cael eu darllen.

    Yn yr Eglwys Fore, roedd deddfau llym i’w cadw yn ystod y Grawys er mwyn helpu’r bobl gyda’u ‘glanhau gwanwynol ysbrydol’. Awgrymid y byddai’n ddisgyblaeth dda iddyn nhw beidio â bwyta cig nac unrhyw fath o gynnyrch anifeiliaid yn ystod cyfnod y Grawys. Y cyfan roedd ar y corff ei angen oedd pryd bwyd syml gyda’r nos.

    Yn ôl y stori, roedd mynach ifanc yn byw yn yr Eidal, tua’r flwyddyn 600, ac roedd wedi cael y dasg o baratoi pryd o fwyd syml felly i’r mynachod eraill ac yntau yn ystod cyfnod y Grawys. Yr unig gynhwysion oedd ganddo i’w defnyddio oedd blawd, halen a dwr. Felly, mae’n debyg mai’r unig beth y gallai ei wneud oedd rhyw fath o fara. Ond roedd arno eisiau i’r bara hwn fod yn fara arbennig, fel y byddai’r mynachod eraill yn cael eu hatgoffa bod y Grawys yn adeg o weddi ac yn gyfnod o baratoi ar gyfer y Pasg.

    Wrth iddo dylino’r toes, roedd y mynach ifanc yn gweddïo, ac fe sylweddolodd ei fod yn rholio’r toes yn stribedi. Yna, fe siapiodd bob un o’r stribedi i ffurfio siâp oedd yn edrych fel breichiau wedi eu croesi. Pan oedd y bobl yn gweddïo, bryd hynny, doedden nhw ddim yn rhoi eu dwylo ynghyd fel y byddwn ni’n ei wneud y dyddiau hyn (dangoswch). Roedden nhw’n croesi eu dwylo ar draws eu brest (dangoswch). Rhoddodd y mynach ifanc y siapiau toes yn y ffwrn i grasu wedyn, a’r canlyniad oedd torthau bach hyfryd wedi eu siapio’n arbennig. Roedd wedi llwyddo i greu rholiau bara y byddai’r mynachod yn mwynhau eu bwyta, ond a fyddai hefyd ar yr un pryd yn eu helpu i feddwl am weddïo.

    Fe ddaeth y rholiau pretzel yn bethau poblogaidd iawn. Roedden nhw’n anrhegion hawdd eu rhoi i bobl dlawd a newynog, ond roedden nhw hefyd yn atgoffa pobl y gallen nhw siarad â Duw am eu holl anghenion ac am unrhyw beth oedd yn eu blino.

Amser i feddwl

Gadewch i’r plant wybod eich bod yn mynd i roi pretzel bach iddyn nhw ar eu ffordd allan o’r gwasanaeth heddiw. Dywedwch wrthyn nhw eich bod eisiau iddyn nhw ddefnyddio’r pretzel er mwyn eu helpu i weddïo, a gofynnwch i’r plant feddwl am un peth yr hoffen nhw siarad amdano gyda Duw yn eu gweddi.

Awgrymwch eu bod yn gafael yn y pretzel ryw dro pan fydd ganddyn nhw foment dawel yn ystod y dydd (neu eu bod yn meddwl am siâp y pretzel -os byddan nhw eisoes wedi ei fwyta!), yn croesi eu breichiau fel y byddai’n mynachod yn ei wneud, ac yn siarad yn syml â Duw.

Gweddi
Annwyl Dduw,
Diolch ein bod yn gallu gweddïo arnat ti ar unrhyw adeg, mewn unrhyw le, ac mewn unrhyw ffordd.
Diolch dy fod ti’n ofalgar tuag atom ni, ac yn ofalgar am ein bywyd.
Helpa ni i ddangos ein bod ninnau’n ofalgar tuag atat tithau, hefyd, yn y ffordd rydyn ni’n byw.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Mawrth 2014    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon