Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Glanhau gwanwynol

gan Rebecca Parkinson

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Ystyried beth oedd dechrau’r arfer o ‘lanhau gwanwynol’, a meddwl am y stori o’r Beibl, Dameg y Darn Arian Colledig.

Paratoad a Deunyddiau

Gwasanaeth

  1. Dangoswch y gwrthrychau neu'r delweddau rydych chi wedi eu casglu ynghyd i'r plant eu gweld (gweler yr adran ‘Paratoad a deunyddiau’ uchod) a gofynnwch iddyn nhw beth sy'n cysylltu'r cyfan ynghyd. Fe fyddan nhw’n debygol o ddweud eu bod i gyd yn bethau sy’n cael eu defnyddio i lanhau.

  2. Dangoswch luniau o'r gwanwyn i'r plant. Gofynnwch iddyn nhw egluro pa dymor sydd dan sylw, a dweud pam maen nhw'n credu hynny.

  3. Gofynnwch i'r plant a ydyn nhw wedi clywed am rywbeth sy'n cysylltu ‘glanhau’ a'r ‘gwanwyn’ gyda'i gilydd. Gyda gobaith bydd rhywun yn crybwyll ‘glanhau gwanwynol’ (spring cleaning)! Gofynnwch iddyn nhw egluro beth maen nhw'n ei feddwl yw hynny.

  4. Eglurwch fod glanhau gwanwynol, fel arfer, yn golygu glanhau'r ty o'r top i'r gwaelod wrth i dymor y gwanwyn ddechrau. Mae pobl yn aml yn teimlo bod nosweithiau tywyll hir y gaeaf wedi pasio a’r tywydd erbyn hyn yn dechrau gwella, ac maen nhw'n awyddus i ddod â ffresni i'w tai a’u glanhau’n dda.

    Mae rhai pobl yn awgrymu bod glanhau gwanwynol wedi dechrau oherwydd, fel yr oedd yr oriau o oleuni dydd yn ymestyn, roedd y llwch a oedd wedi casglu dros y gaeaf i'w weld yn fwy amlwg, ac felly roedd pobl yn gweld yr angen i lanhau pob ystafell! Fel mater o ffaith, mae dechreuadau glanhau gwanwynol yn ymestyn yn ôl ganrifoedd.

    Yn y cyfnod Beiblaidd, fe fyddai'r Iddewon yn arfer glanhau eu cartrefi'n llwyr cyn gwyl y Pasg Iddewig. Yn Iran, mae'r dydd cyntaf o wanwyn yn digwydd dros y Calan ac, am ganrifoedd, mae pobl Iran wedi parhau â'r traddodiad o lanhau eu cartrefi ar y diwrnod cyn dydd cyntaf y Flwyddyn Newydd. Mae traddodiad tebyg yn bodoli yn yr Alban pan fydd y Flwyddyn Newydd (Hogmanay) yn rhoi cychwyn ar ‘lanhau Blwyddyn Newydd’.

  5. Yn y Beibl, yn Efengyl Luc, pennod 15, adnodau 8-10, mae stori am wraig yn glanhau ei thy yn drylwyr o un pen i'r llall. Roedd gan y wraig hon ddeg o ddarnau arian, ond roedd yn gofidio'n arw pan sylweddolodd ei bod hi wedi colli un ohonyn nhw. Fe lanhaodd ei thy o un pen i'r llall, gan ddefnyddio lamp i chwilio pob twll a chornel. Yn y diwedd fe gafodd hyd i'r darn arian. Yna fe drefnodd barti i ddathlu gyda'i ffrindiau i gyd ei bod wedi dod o hyd i’r darn arian colledig.

  6. Gofynnwch i'r plant ddweud wrthych chi beth maen nhw'n feddwl yw ystyr y stori.

    Eglurwch fod Iesu, yn y stôr, yn awgrymu fod Duw yn debyg i'r wraig, a'n bod ninnau'n debyg i'r darnau arian. Beth mae hyn yn ei olygu i'r plant?

    Fe adroddodd Iesu storïau eraill am bethau oedd ar goll. Mae'r storïau hynny yn dangos i ni, pan fydd pethau yn mynd o chwith yn ein bywydau, a ninnau teimlo ein bod ‘ar goll’, bod Duw yno bob amser a bydd yn ‘chwilio’ amdanom oherwydd ein bod mor bwysigyn ei olwg.

Amser i feddwl

Gofynnwch i’r plant feddwl am adeg y gwanwyn. Beth maen nhw’n ei hoffi fwyaf am y gwanwyn?

Yr wyn bach yn y caeau, efallai, neu’r blodau tlws . . .

Gofynnwch ydyn nhw’n teimlo’n unig weithiau, neu’n teimlo fel pe bydden nhw ar goll? Sicrhewch y plant fod pawb yn teimlo felly weithiau, ar ryw bwynt yn eu bywyd, ond mae’n dda cofio bod Duw yno bob amser gyda ni. Gofynnwch i’r plant feddwl am stori’r darn arian coll – onid yw’n dda gwybod bod Duw yno bob amser?

Gweddi
Annwyl Dduw,
Diolch i ti am harddwch y byd.
Diolch i ti am harddwch tymor y gwanwyn, pan fydd y blodau’n ymddangos ar y coed ac yn y gerddi, a’r anifeiliaid bach yn cael eu geni.
Diolch dy fod ti’n gofalu am y byd yr un fath ag yr wyt ti’n gofalu amdanom ninnau.
Helpa ni i gofio dy fod ti bob amser gyda ni.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Mawrth 2014    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon