Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

'Helo, Sgryffi!' Mae Iesu'n cael ei arestio a'i groeshoelio

Mae Iesu’n cael ei arestio a’i groeshoelio

gan the Revd Sylvia Burgoyne

Addas ar gyfer

  • Dosbarth Derbyn / Cyfnod Allweddol 1
  • Ysgolion Eglwys

Nodau / Amcanion

Meddwl am y pethau anodd sy’n gallu digwydd i ni.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen pyped llaw (hosan neu faneg) yn cymeriadu’r mul bach, o’r enw Sgryffi.
  • Wrth i’r gwasanaeth ddechrau, gofalwch bod Sgryffi’r pyped wedi ei roi’n barod am eich llaw.

Gwasanaeth

  1. Mae Sgryffi’r pyped yn cyfarch y plant. Anogwch y plant i godi eu llaw a dweud, ‘Helo, Sgryffi!’

    Os mai dyma’r tro cyntaf i’r plant weld Sgryffi, fe fydd angen i chi ddefnyddio’r cyflwyniad canlynol.

    Mae Liwsi Jên yn byw ar fferm gyda’i mam, Mrs Bryn, a’i thad Mr Bryn y ffermwr, a’i brawd bach, Tomos. Mae Liwsi Jên wrth ei bodd efo Sgryffi. Mae hi’n gofalu amdano. Mae hi’n mwynhau ei gwmni, ac mae’n siarad gyda Sgryffi’n aml iawn – pan fydd hi’n hapus, a phan fydd hi’n teimlo’n drist hefyd. Sgryffi yw ei ffrind gorau!

  2. Roedd Sgryffi’n meddwl tybed lle’r oedd Liwsi Jên. Roedd wedi ei gweld hi’n dod adref o’r ysgol yn y car gyda’i mam. Roedd y ddwy wedi mynd ar eu hunion i’r gegin, lle byddai Liwsi Jên fel arfer yn cael diod o lefrith a bisged cyn rhedeg i’r stabl wedyn i’w weld ef, Sgryffi. Ond heddiw, doedd hi ddim wedi dod ato.

    Roedd yn ymddangos yn amser hir iawn i Sgryffi cyn i Liwsi Jên o’r diwedd groesi’r buarth ato, a dweud, ‘Alla i ddim aros yn hir heddiw, Sgryffi. Mae Mam wedi cael newydd drwg pnawn heddiw.’

    Ydych chi wedi clywed newydd drwg ryw dro? Beth fyddai’n eich gwneud chi’n drist?

    ‘Mae Anti Siw wedi ffonio’n dweud bod Yncl Bob wedi cael damwain car. Mae hi gydag ef yn yr ysbyty, ac mae hi wedi dweud y gwnaiff hi ffonio eto i roi gwybod i ni sut mae Yncl Bob. Fe wna i roi dy fwyd i ti, Sgryffi, ond wedyn rydw i’n mynd i aros yn y ty yn gwmni i Mam.’

    Roedd hi bron yn dywyll pan ddaeth Liwsi Jên yn ôl i’r stabl at Sgryffi. Fe redodd ato a rhoi ei breichiau o gwmpas ei wddf gan afael yn dynn amdano a chuddio’i hwyneb yn ei got gynnes. Roedd hi’n crio.

    Pwy sy’n eich helpu chi pan fyddwch chi’n teimlo’n drist?

    ‘Mae Yncl Bob wedi marw, Sgryffi. O! Dydi hyn ddim yn deg! Yncl Bob oedd fy hoff yncl. Roedden ni’n cael cymaint o hwyl gyda’n gilydd bob amser pan fyddai’n dod i gael te efo ni. Ond nawr, mae o wedi marw, fydd o ddim yn dod yma eto - byth. Pam mae’n rhaid i bethau drwg fel hyn ddigwydd i bobl dda, Sgryffi?’

    Ydych chi’n meddwl bod Sgryffi’n gwybod yr ateb?

    Tynnwch y pyped oddi am eich llaw.

  3. Mae’n gwestiwn anodd iawn. Fe fyddai ffrindiau Iesu yn cael eu gadael cyn hir i feddwl pam roedd rhywbeth drwg wedi digwydd i Iesu ar y diwrnod rydyn ni’n ei alw’n Ddydd Gwener y Groglith.

    Roedd Marc yn teimlo’n drist iawn. Yn sydyn iawn, ac yn annisgwyl iawn, roedd popeth wedi mynd yn hollol o chwith. Roedd Iesu a’i ffrindiau wedi cwrdd i rannu pryd o fwyd yn yr ystafell i fyny’r grisiau a oedd wedi cael ei pharatoi ar eu cyfer. Roedd Marc wedi gweld un o’r disgyblion, Jwdas, yn mynd allan o’r ystafell, ac wedi meddwl tybed lle'r oedd Jwdas yn mynd ar ben ei hun. Ond yn fuan wedyn, roedd Iesu a’i ffrindiau wedi mynd allan o’r ystafell hefyd. Roedd Marc yn chwilfrydig, ac fe benderfynodd eu dilyn er mwyn cael gweld i ble roedden nhw’n mynd.

    Fe aethon nhw i fan tawel mewn gardd a oedd yn llawn o goed olewydd. Roedd yn ddigon hawdd i Marc guddio ymysg y coed. Fe wyliodd tra roedd Iesu’n penlinio ar ben ei hun ac yn gweddïo. Ac fe welai Marc bod ffrindiau Iesu’n gorwedd, ac yn mynd i gysgu fesul un, am eu bod wedi blino. Ond roedd Iesu’n dal i weddïo.

    Yn sydyn, fe ddaeth rhywbeth i dorri ar y distawrwydd - swn grwp mawr o filwyr yn dod i’r ardd. Pam roedd Jwdas yn eu harwain? Pam roedd Jwdas wedi arwain y milwyr at Iesu? Roedd Jwdas wedi mynd at Iesu ac wedi rhoi cusan iddo.

    Yna fe afaelodd y milwyr yn Iesu a’i arwain oddi yno. Roedd Marc wedi dychryn cymaint fe redodd i ffwrdd yn ôl i’w gartref, ac fe ddywedodd wrth ei fam beth oedd wedi digwydd.

  4. Y diwrnod wedyn, roedd y milwyr wedi rhoi Iesu ar groes bren ar ben bryn y tu allan i furiau’r ddinas, a’i adael yno i farw. Dyna beth creulon i’w wneud! Sut gallen nhw wneud peth mor greulon i ddyn mor dda? Oedden nhw ddim yn gwybod bod Iesu wedi dod i’r byd i ddweud wrthym ni sut un yw Duw, ac i’n helpu ni wneud synnwyr o’r holl bethau anghywir sy’n digwydd?

Amser i feddwl

Treuliwch foment yn meddwl am y pethau drwg sy’n digwydd i ni, a sut mae pobl eraill yn aml yn gallu gwneud i ni deimlo’n well.

Gweddi
Annwyl Iesu,
Mae’n ddrwg gennym dy fod ti wedi cael dy roi ar groesbren i farw.
Helpa ni i fod yn sori pan fyddwn ni’n gwneud rhywbeth sy’n brifo rhywun, neu’n dweud rhywbeth sy’n brifo teimladau pobl eraill.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Ebrill 2014    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon