Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

'Helo, Sgryffi!' Hosanna!

Hosanna! (Sul y Blodau, 13 Ebrill 2014)

gan the Revd Sylvia Burgoyne

Addas ar gyfer

  • Dosbarth Derbyn / Cyfnod Allweddol 1
  • Ysgolion Eglwys

Nodau / Amcanion

Meddwl am gynnwrf y dyrfa yn Jerwsalem ar Sul y Blodau.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen pyped llaw (hosan neu faneg) yn cymeriadu’r mul bach, o’r enw Sgryffi, hefyd rhywfaint o ddail palmwydd neu rubanau.
  • Wrth i’r gwasanaeth ddechrau, gofalwch bod Sgryffi’r pyped wedi ei roi’n barod am eich llaw.

Gwasanaeth

  1. Mae Sgryffi’r pyped yn cyfarch y plant. Anogwch y plant i godi eu llaw a dweud, ‘Helo, Sgryffi!’

    Os mai dyma’r tro cyntaf i’r plant weld Sgryffi, fe fydd angen i chi ddefnyddio’r cyflwyniad canlynol:.

    Mae Liwsi Jên yn byw ar fferm gyda’i mam, Mrs Bryn, a’i thad Mr Bryn y ffermwr, a’i brawd bach, Tomos. Mae Liwsi Jên wrth ei bodd efo Sgryffi. Mae hi’n gofalu amdano. Mae hi’n mwynhau ei gwmni, ac mae’n siarad gyda Sgryffi’n aml iawn – pan fydd hi’n hapus, a phan fydd hi’n teimlo’n drist hefyd. Sgryffi yw ei ffrind gorau!

  2. Roedd hi wedi pasio amser gwely Liwsi Jên ers meitin, ac roedd hi wedi tywyllu pan redodd hi i’r stabl yn ei chot nos a’i slipers.

    ‘Deffra, Sgryffi! Mae Dad wedi dod adref o gyfarfod yn Neuadd y Dre, a wyddost ti be, maen nhw wedi fy newis i, Liwsi Jên, i fod yn Frenhines Fai yn y carnifal eleni. Rydw i wedi cyffroi cymaint!” Roedd yn rhaid i mi gael dod i ddweud wrthyt ti. Wyt ti’n gweld, rydw i’n mynd i ofyn i Dad os bydda i’n cael teithio ar hyd y stryd mewn cert fach yn yr orymdaith a gei di dynnu’r gert. Fyddi ti’n hoffi hynny, Sgryffi?’

    ‘Hi-ho! Hi-ho!’ nodiodd Sgryffi. Doedd Sgryffi erioed wedi bod mewn gorymdaith o’r blaen.

    Ydych chi wedi bod mewn gorymdaith ryw dro? Efallai eich bod wedi gwylio gorymdeithiau ar y teledu, fel ar adeg priodas frenhinol, er enghraifft, neu garnifal efallai.

    Yn yr wythnosau dilynol, fe wnaeth Mrs Bryn ffrog newydd hardd i Liwsi Jên.

    Pa liw ydych chi’n meddwl oedd y ffrog? Oedd hi’n ffrog gwta neu’n ffrog laes?

    Fe baentiodd Mr Bryn y gert.

    Pa liw ydych chi’n meddwl oedd y gert wedyn?

    Ar fore’r orymdaith, fe wnaethon nhw addurno’r gert â blodau. Roedd gan Sgryffi harnais newydd, ac fe roddodd Liwsi Jên het wellt newydd am ben Sgryffi. Roedd yr haul yn gwenu’n braf wrth iddyn nhw adael y ty a mynd i gyfeiriad y maes parcio mawr lle’r oedd pawb yn dod at ei gilydd i ddechrau’r orymdaith.

    Roedd Sgryffi wrth ei fodd gyda’r holl lorïau a oedd wedi eu haddurno’n grand. Roedd un wedi cael ei gwneud i edrych fel llong morladron, gyda’r Sgowtiaid i gyd wedi gwisgo fel morladron a Chapten Hook yn chwifio’u fraich fachyn! Roedd lori arall yn cario plant yr Ysgol Feithrin, a oedd wedi gwisgo fel Eira Wen a’r saith corrach ac anifeiliaid ac adar y goedwig. Cododd Liwsi Jên ei llaw ar ei ffrindiau, a oedd i gyd wedi eu gwisgo mewn gwisgoedd ffansi.

    Ydych chi’n hoffi gwisgo gwisg ffansi?

    O’r diwedd, i guriad y drwm bas mawr, fe ddechreuodd y band chwarae a chychwyn martsio i fyny’r Stryd Fawr trwy’r dref. Dilynodd Sgryffi y tu ôl i’r band, yn tynnu’r gert a oedd yn cario Liwsi Jên yn ei ffrog newydd hardd. Yn eu dilyn hwy roedd y lorïau eraill i gyd wedi eu haddurno’n wych ac yn cario llawer o blant bach hapus. Roedd y dyrfa ar bob ochr i’r stryd yn codi eu llaw ac yn chwifio baneri wrth iddyn nhw basio, ac fe godai Liwsi Jên ei llaw yn ôl ar y bobl. Roedd hi’n eu clywed yn dweud. ‘Edrychwch dyna’r Frenhines Fai. O, mae hi’n dlws! Ac edrychwch ar y mul bach. O, mae o’n ddigon o sioe! Mae’n edrych yn smart yn ei het wellt.’

    Pan wnaethon nhw gyrraedd y parc, fe arhosodd Sgryffi wrth lwyfan oedd wedi cael ei godi’n arbennig yno. Fe arweiniodd Maer y Dref Liwsi Jên i fyny’r grisiau i ben y llwyfan, ac ar ôl iddi eistedd ar yr orsedd, fe roddodd y Maer goron o flodau ar ei phen. Gwaeddodd pawb, ‘Hwre!’ Roedd Sgryffi’n teimlo’n falch iawn o Liwsi Jên. Roedd Sgryffi’n meddwl mai hi oedd y Frenhines Fai orau yn y byd!

    Tynnwch y pyped oddi am eich llaw.

  3. Nawr, gadewch i ni wrando ar un o hoff storïau Sgryffi o’r Beibl.

    Roedd hi’n adeg gwyl yng ngwlad Iesu Grist, ac roedd llawer o bobl yn mynd i ymweld â’r deml yn Jerwsalem. Roedd Iesu a’i ffrindiau’n cerdded ar hyd y stryd gyda phawb arall, ond pan ddaethon nhw at ymyl y ddinas, fe anfonodd Iesu ddau o’i ffrindiau i nôl ebol asyn iddo. Fe ddringodd Iesu ar gefn yr asyn a theithio ar hyd y ffordd wedyn ar yr ebol asyn i mewn i’r ddinas.

    Pan welodd y bobl Iesu, fe wnaethon nhw ddechrau torri canghennau o’r coed palmwydd a oedd yn tyfu bob ochr i’r ffordd i’w chwifio fel baneri ac roedden nhw’n gweiddi, ‘Hosanna! Hosanna!’

    Gofynnwch i’r plant weiddi ‘Hosanna!’ a chwifio’u baneri neu eu rubanau’n uchel.

    Fe dynnodd rhai o’r bobl oedd yn y dyrfa ar ochr y ffordd eu cotiau a’u gosod ar lawr ar y ffordd fel carped i’r asyn gerdded arno. Roedd pawb yn teimlo’n gyffrous iawn.

    Am dair blynedd cyn hynny roedd Iesu wedi bod yn teithio o gwmpas y wlad yn dysgu’r bobl ac yn iachau pobl sâl. Nawr, wrth iddo deithio i mewn i ddinas Jerwsalem, roedd cymeradwyaeth y dorf yn mynd yn fwy ac yn fwy, a phawb yn gweiddi, ‘Hosanna! Hosanna!’

    Roedd ar y bobl eisiau i Iesu gael gwared â’r milwyr Rhufeinig oedd yn eu llywodraethu a dod yn frenin arnyn nhw yn lle’r Ymerawdwr. Ond doedd pawb ddim yn cytuno â hynny. Roedd rhai o’r arweinwyr pwysig yn y deml yn meddwl mai rebel oedd Iesu. Doedden nhw ddim yn hoffi’r ffordd roedd Iesu’n galw Duw yn Dad iddo. Pam roedd Iesu’n meddwl ei fod yn rhywun mor arbennig yng ngolwg Duw? Roedden nhw’n unfryd yn credu bod yn rhaid iddyn nhw feddwl am ffordd o gael gwared ag Iesu.

    Pam rydych chi’n meddwl bod Sgryffi’n hoffi’r stori hon?

Amser i feddwl

Pam roedd Iesu’n marchogaeth ar yr asyn ac nid ar gefn ceffyl mawr cryf?

Pa fath o frenin ydych chi’n meddwl oedd Iesu?

Gweddi
Annwyl Dduw,
Diolch i ti am ddathliadau ac achlysuron pan fydd plant ac oedolion yn cael lot o hwyl gyda’i gilydd.
Diolch i ti am Iesu, Tywysog Tangnefedd.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Ebrill 2014    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon