Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Lansiwch y Bad Achub

Trychineb ar y môr

gan Laurence Chilcott

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 2

Nodau / Amcanion

Adrodd stori am ddigwyddiad lle collwyd bad achub a’r criw, fel ein bod yn gallu gwerthfawrogi dewrder y rhai sy’n fodlon peryglu eu bywyd er mwyn achub eraill.

Paratoad a Deunyddiau

  • Casglwch ddelweddau o fadau achub mewn moroedd garw, a threfnwch fodd o’u dangos yn ystod y gwasanaeth (gwiriwch yr hawlfraint).
  • Gofalwch bod y myfyrwyr eisoes yn gwybod rhywbeth am rôl Sefydliad Brenhinol y Badau Achub (RLNI) cyn y gwasanaeth.
  • Os byddwch yn dymuno gwneud hynny, chwiliwch am recordiad o’r emyn Saesneg ‘Eternal Father, strong to save’ a threfnwch fodd o’i chwarae ar ddiwedd y gwasanaeth (gwiriwch yr hawlfraint).

Gwasanaeth

Ar gyfartaledd, caiff mwy nag 20 o bobl eu hachub gan aelodau o'r RNLI bob dydd.  Pa bryd bynnag y bydd y bad achub yn cael ei lansio, bydd aelodau'r criw yn wynebu peryglon anhysbys, ond maen nhw'n fodlon mentro eu bywydau i achub rhai sydd mewn trafferthion ar y môr. Ar adegau prin iawn - yn enwedig yn y gorffennol, pan nad oedd y badau achub a'r offer ynddyn nhw mor soffistigedig â'r hyn ydyn nhw heddiw - mae trychinebau wedi digwydd, ac nid yw hyd yn oed y bad achub wedi gallu cael y llaw uchaf yn erbyn nerth a grym y môr. Mae'r gwasanaeth heddiw yn sôn am un achlysur o'r fath.

Ychydig iawn o bobl o dref glan y môr Porthcawl yn Ne Cymru heddiw sy'n cofio noson y 23ain o Ebrill 1947, ond mae'r rhai sy'n gallu yn cofio noson o wyntoedd oedd yn nerth corwynt a mynyddoedd o foroedd. Yn fwy na hynny, maen nhw'n cofio'r drasiedi a ddigwyddodd i long oddi ar greigiau Sker Point.

Roedd yr SS Samtampa  yn gwneud ei ffordd tuag at Gasnewydd, rhyw 20 milltir i'r dwyrain o Borthcawl. Ond, oherwydd y tywydd a oedd yn gwaethygu, fe benderfynodd y capten fwrw angor oddi ar yr arfordir gyferbyn â Phorthcawl nes y byddai'r amodau'n gwella. Yn anffodus, fe fethodd ceblau'r angor â dal y llong a dechreuodd ddrifftio tuag at y creigiau.  Ychydig ar ôl hanner awr wedi pedwar yn y prynhawn, fe anfonodd y llong neges SOS yn gofyn am gymorth. Erbyn chwarter wedi pump, fe anfonodd neges arall yn dweud ei bod hi ar y creigiau ac yn torri'n ddarnau. 

Cafodd bad achub y Mwmbwls, Edward, Prince of Wales, ei lansio. Ond, fel yr oedd yn cychwyn am y môr, fe sylweddolodd y criw arni fod neges cod Morse yn cael ei fflachio atyn nhw â lamp o orsaf y bad achub. Rhoddodd y neges y newyddion diweddaraf am safle'r Samtampa, ond, oherwydd bod y gwelededd mor wael dan yr amodau dychrynllyd, doedd aelodau'r criw ddim yn gallu ei dehongli, a bu raid iddyn nhw ddychwelyd i'r orsaf i dderbyn y newyddion diweddaraf. Roedd hi'n ddeg munud wedi pump cyn i'r bad achub gychwyn o'r diwedd am Borthcawl, tua 12 milltir i ffwrdd o'r Mwmbwls.

Tra roedd y bad achub yn brwydro'i ffordd trwy'r moroedd terfysglyd, fe geisiodd gwylwyr y glannau ym Mhorthcawl danio roced linell at y llong er mwyn cael y dynion i'r lan â'r fwi cario i’r lan. Fe wnaethon nhw ymdrechu deirgwaith, ond roedd tanio i'r gwynt yn cyfyngu ar bellter y rocedi a, beth bynnag, roedd y Samtampa yn rhy bell allan i'r llinellau ei chyrraedd, ac o ganlyniad wnaethon nhw ddim cyrraedd.

Yn y cyfamser, yn ôl yn y Mwmbwls, roedd Eileen Thomas yn orwyllt mewn pryder. Ei gwr William oedd blaenwr bad achub y Mwmbwls, ac roedd wedi mentro allan i'r môr gyda gweddill y criw ar y diwrnod ofnadwy hwnnw. Drosodd a throsodd yn ei meddwl roedd hi'n cofio fel yr oedd wedi pledio ar ei gwr i beidio â mynd. Roedd hi'n gwybod tra roedd morwyr mewn perygl ar y môr roedd hi’n ddyletswydd ar griw'r bad achub i wneud bob ymdrech i'w hachub. Ond roedd ganddi ryw deimlad na fyddai ei gwr yn dychwelyd yn fyw. Aeth hi ddim i'r gwely'r noson honno.  Fe arhosodd hi ar ei thraed yn bryderus gan aros am newyddion.

Wrth iddi wawrio'r bore canlynol, daeth yn eglur bod ofnau gwaethaf Eileen wedi cael eu gwireddu. Cafwyd hyd i'r bad achub ben i waered ar y creigiau oddi ar Sker Point. Wrth nesáu at y Samtampa, roedd hi wedi cael ei tharo â thon enfawr, ton a daflodd y criw i ganol y môr berw.  Bu farw William Thomas a'r saith aelod arall o'r criw. Yn drist, dyna ddigwyddodd hefyd i griw'r Samtampa wrth i'r llong dorri'n ddarnau ar y creigiau. Collwyd y cyfan o'r 41 aelod o'r criw.

Mae badau achub modern yn aml yn gallu ‘ymunioni’ er mwyn rhwystro trychineb fel hon ddigwydd, ond mae dynion a merched y bad achub yn parhau i fentro eu bywyd er mwyn achub pobl sydd mewn perygl ar y môr. Dydyn nhw ddim yn gwneud hynny am arian - gwirfoddolwyr yw aelodau'r criw. Maen nhw'n gwneud hyn oherwydd eu bod yn caru'r môr ac yn gofalu am ddiogelwch y bobl sydd arno neu ynddo.

Amser i feddwl

Meddyliwch am y rhai hynny sy’n wynebu peryglon yn aml yn eu gwaith – pobl y gwasanaethau brys fel diffoddwyr tân, timoedd achub ar fynydd, arbenigwyr diogelu bomiau, aelodau’r heddlu, ac ati. Ystyriwch y priodweddau sy’n angenrheidiol yn y swyddi maen nhw’n eu gwneud.

Ystyriwch pam y mae adegau anodd bywyd yn cael eu disgrifio’n aml fel ‘stormydd bywyd’. Yn union fel stormydd byd natur, mae adegau anodd mewn bywyd yn peri pryder a gofid ar y pryd, ond ymhen amser mae pethau’n tawelu wedyn. Daw pethau i drefn eto, ac fe ddaw’r haul i wenu eilwaith.

Gweddi
Ein Tad,
Rhown ddiolch am bob un sy’n peryglu eu bywyd eu hunain er mwyn achub eraill sydd mewn trafferth.
Rhown ddiolch am eu dewrder ac am yr aberth maen nhw’n ei wneud.
Rydyn ni’n gweddïo dros eu teuluoedd, sy’n aml yn pryderu am y peryglon y gallan nhw fod yn eu hwynebu.
Helpa ni i wynebu stormydd bywyd yn ddewr, gan ymddiried y byddi di yn ein hymyl.
Amen.

Cân/cerddoriaeth

Recordiad o’r emyn ‘Eternal Father, strong to save

Dyddiad cyhoeddi: Ebrill 2014    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon