Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Shakespeare

gan Gordon Lamont

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 2

Nodau / Amcanion

Archwilio a dathlu bywyd a gwaith William Shakespeare.

Paratoad a Deunyddiau

  • Dim angen paratoi deunyddiau, ond efallai yr hoffech chi feddwl o flaen llaw am y 'tableaux' (gwelwch Cam 3 yn dilyn).

Gwasanaeth

  1. Yn gyntaf, gofynnwch i'r plant, ‘Pwy sydd wedi clywed am William Shakespeare?’ ac, yna, ‘Beth ydych chi'n ei wybod amdano?’

    Eglurwch y bydd pobl dros y byd i gyd yn dathlu ei enedigaeth ym mis Ebrill. Nid oes neb yn sicr pa ddyddiad yn union y cafodd ei eni, ond cafodd ei fedyddio ar 26 Ebrill 1564 - ymhell dros 400 mlynedd yn ôl.

  2. Pam rydyn ni'n dathlu ei fywyd? Denwch o'r plant y ffaith ei fod yn cael ei gydnabod yn ddramodydd (awdur dramâu) ac yn fardd gwych.

  3. Dywedwch eich bod, heddiw, yn mynd i ganolbwyntio ar y dramâu. Ysgrifennodd Shakespeare 37 o ddramâu y gwyddom amdanyn nhw.  Ni allwn fod yn sicr faint a ysgrifennodd, oherwydd ni chafodd copïau oedd wedi eu cynhyrchu'n ofalus eu gwneud tan ar ôl iddo farw, ond mae ystod eang o storïau gwahanol a dyna beth ydych angen ei ddangos heddiw.

    Mae dwy ymladdfa â chleddyfau  . . .

    gwahoddwch grwp o bedwar neu bump o blant ymlaen a gofynnwch iddyn nhw ffurfio 'tableau' yn portreadu ymladdfa â chleddyfau

    mae ganddo storïau caru . . .

    i arbed embaras, efallai y dylech ofyn i un plentyn yn unig i actio chwythu cusan

    mae rhai storïau’n sôn am longddrylliadau . . .

    gofynnwch i nifer o blant eraill lunio 'tableau' o griw llong yn ymdrechu wrth i'w llong suddo

    mae comedïau . . .

    gofynnwch i un plentyn edrych yn falch a phlentyn arall smalio cuddio, chwerthin a phwyntio at y cymeriad ‘balch’

    mae storïau tywyll a goruwchnaturiol am wrachod ac ysbrydion . . .

    gofynnwch i dri o blant smalio eu bod yn wrachod, wedi ymgynnull o gwmpas crochan, ac yn smalio troi cynnwys crochan â llwy fawr

    mae storïau am anifeiliaid gwyllt . . .

    gofynnwch i un plentyn smalio ei fod yn rhedeg oddi wrth arth, sy'n cael ei hactio gan blentyn arall

    a mwy, llawer mwy.

  4. Gofynnwch i'r plant aros heb symud yn eu safleoedd tra'r ydych chi'n egluro y gallai'r gwahanol olygfeydd hyn fod yn rhan o’r dramâu canlynol - Romeo and Juliet (ymladdfa gyda chleddyfau, stori gariad), The Tempest (llongddrylliad), Twelfth Night (comedi), Macbeth (gwrachod, y goruwchnaturiol) ac A Winter’s Tale (anifeiliaid gwylltion).

  5. Dywedwch wrth y plant weithiau fod pobl yn cael y geiriau a ddefnyddir yn nramâu Shakespeare yn anodd eu deall. Mae hynny oherwydd eu bod wedi cael eu hysgrifennu bron i 400 mlynedd yn ôl. Ond dywedwch y byddech chi'n hoffi i'r plant wrando a meddwl am y geiriau sy'n dilyn o'r ddrama As You Like It (Act 2, Golygfa VII):

    All the world's a stage,
    And all the men and women merely players;
    They have their exits and their entrances;
    And one man in his time plays many parts.

    Awgrymwch mai'r hyn y mae Shakespeare yn ei ddweud yw, ein bod yn ystod ein bywyd, fel actorion sy'n chwarae gwahanol rannau ar wahanol adegau.

    Cymeradwywch y rhai hynny a gymerodd ran yn y 'tableau' a gofynnwch iddyn nhw eistedd neu fynd yn ôl i'w seddau.

Amser i feddwl

Gwrandewch unwaith yn rhagor ar y geiriau o'r ddrama As You Like It yn awr, a cheisiwch feddwl a ydych chi'n credu eu bod yn wir – ydyn nhw’n wir yn eich achos chi. Ydych chi weithiau yn un math o berson, ac ar adegau eraill yn berson gwahanol?

Pa rannau yr ydych chi wedi eu chwarae yn eich bywyd hyd yn hyn? Aelod o'r teulu, ffrind, disgybl ysgol . . .

All the world's a stage,
And all the men and women merely players;
They have their exits and their entrances;
And one man in his time plays many parts.

Gweddi
Annwyl Dduw,
Diolch am ddramâu ac am storïau, am gerddi ac am yr holl ffyrdd y gallwn ni ddefnyddio ein dychymyg, er mwyn gallu meddwl am y byd rydyn ni’n byw ynddo.
A diolch yn benodol heddiw am William Shakespeare.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Ebrill 2014    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon