Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Bwydydd y Pasg!

gan Rebecca Parkinson

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Ystyried tarddiad rhai o fwydydd traddodiadol y Pasg.

Paratoad a Deunyddiau

Os yw hynny’n bosib, casglwch enghreifftiau o fwydydd sy’n gysylltiedig â’r Pasg, fel byns y Grog (hot cross buns), teisen Simnel ac wyau Pasg, neu os yw’n well gennych chi fe allech chi chwilio am ddelweddau o’r eitemau hyn oddi ar y gwefannau canlynol, a threfnu i’w dangos yn ystod y gwasanaeth (gwiriwch yr hawlfraint):
– byns y Grog (hot cross buns) ar: http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/a/a8/Homemade_Hot_Cross_Buns.jpg
– teisen Simnel ar: http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/a/ac/Simnel_cake_1.jpg
– Wyau Pasg ar:www.freeimageslive.co.uk/image/view/7890/_original

Gwasanaeth

  1. Dangoswch y bwydydd neu'r delweddau o fwydydd i'r plant a gofynnwch iddyn nhw eu henwi. Eglurwch fod y tri math yma o fwydydd, yn ôl traddodiad, yn cael eu bwyta yn ystod y Pasg, ac mae pob un mewn rhyw ffordd yn ymwneud â stori'r Pasg.

  2. Dangoswch y deisen Simnel i'r plant a gofynnwch iddyn nhw a oes ganddyn nhw unrhyw syniad beth yw ei pherthynas â stori'r Pasg yn y Beibl.

    Gofynnwch iddyn nhw gyfrif y nifer o beli marsipán sydd ar ben y deisen. Ydyn nhw’n gallu meddwl tybed pam mai 11 ohonyn nhw sydd yno? Os nad ydyn nhw'n gwybod, eglurwch fod y peli’n draddodiadol yn cynrychioli disgyblion Iesu. Mae'r Beibl yn sôn fod gan Iesu 12 disgybl, ond roedd un ohonyn nhw - Jwdas Iscariot – wedi bradychu Iesu a'i drosglwyddo i'r milwyr, felly mae'r deisen yn dangos nad oedd Jwdas bellach yn un o'r deuddeg disgybl, ac mai un ar ddeg oedd yno wedyn.

  3. Dangoswch fyns y grog i'r plant, a gofynnwch iddyn nhw beth allai'r rhai ei gynrychioli.

    Mae amryw o draddodiadau yn ymwneud â'r hyn y mae'r byns yn cynrychioli, ond y prif un yn syml yw bod y groes yn ein hatgoffa o'r croeshoeliad a Iesu yn marw ar y groes. Yn y ddeuddegfed ganrif, fe ddechreuodd mynach o'r enw y Tad Rocliffe wneud teisennau bach gyda blas sbeis arnyn nhw, ac roedd yn rhoi arwydd y groes arnyn nhw. Fe ddosbarthodd y byns ar Ddydd Gwener y Groglith fel anrhegion y Pasg i'r tlodion oedd yn ei ardal leol. Roedd y syniad mor boblogaidd fel ei fod wedi ail wneud hyn bob blwyddyn wedyn, ac yn raddol fe ddechreuodd mynachod eraill wneud yr un peth mewn mynachdai eraill. Dros y blynyddoedd, fe ddaeth y traddodiad yn fwyfwy poblogaidd.

  4. Dangoswch yr wyau Pasg i'r plant a gofynnwch iddyn nhw beth mae’r rhain yn ei gynrychioli.

    Un stori draddodiadol sy'n egluro ystyr wyau Pasg yw eu bod yn cynrychioli'r maen neu’r garreg fawr a symudwyd i'w lle ar geg y bedd y rhoddwyd Iesu ynddo. Cafwyd hyd i’r garreg honno wedi ei threiglo i ffwrdd ar fore'r Pasg gan fod Iesu wedi codi o farw’n fyw. Y syniad yw bod torri'r wy yn symboleiddio bod y bedd wedi ei ‘ddarnio' a’i agor, a bod Iesu’n dod yn ôl yn fyw.

    Mae wyau hefyd yn symbol o obaith, a bywyd newydd. Mae hynny oherwydd bod cywion yn deor o wyau ac, yn ystod y Pasg, mae hyn yn ein hatgoffa fod Iesu wedi atgyfodi.

  5. Dros y blynyddoedd, mae ‘bwyd y Pasg’ wedi dod yn fwyfwy masnachol, gyda llawer o bobl yn syml yn eu prynu oherwydd ei fod yn rhywbeth traddodiadol i’w wneud, yn hytrach na meddwl am eu harwyddocâd, nac ychwaith fod yn gwybod dim am hynny. Yn y flwyddyn 2013, gwerthwyd 90 miliwn o wyau Pasg ym Mhrydain! Mae Cristnogion yn credu ei bod hi'n bwysig fod pobl yn cael eu hatgoffa o wir ystyr y Pasg a bod trafod y bwydydd hyn yn ffordd dda i wneud hyn.

Amser i feddwl

Gofynnwch i’r plant feddwl am y deisen Simnel, a meddwl am ei hystyr. Dywedwch nad oedd Jwdas yn ffrind da i Iesu. Gofynnwch, ‘Ydych chi’n ffrind da? Oes ffyrdd y gallech chi fod yn ffrind gwell heddiw ac yn ystod tymor y Pasg?’

Gofynnwch i’r plant feddwl am y byns, yr hot cross buns a chofio bod Iesu wedi rhoi ei fywyd ar y groes.

Gofynnwch i’r plant feddwl hefyd am yr wyau Pasg, a diolch i Dduw bod Iesu wedi dod yn ôl yn fyw, a’i fod trwy hynny’n rhoi gobaith newydd i’r byd.

Gweddi
Annwyl Dduw,
Diolch i ti am stori’r Pasg ac am y gobaith sy’n dod gyda hi.
Diolch i ti am fywyd Iesu, ac am esiampl Iesu i ni i gyd.
Diolch i ti bod ei fywyd, ei farwolaeth, a’i atgyfodiad wedi newid y byd.
Amen.

Cân/cerddoriaeth

Emyn y Pasg o’ch dewis chi

Dyddiad cyhoeddi: Ebrill 2014    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon