Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Yr unigryw fi

gan Alison Thurlow

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)
  • Ysgolion Eglwys

Nodau / Amcanion

Archwilio’r safbwynt Cristnogol bod Duw’n ystyried pob un ohonom yn unigryw ac yn arbennig.

Paratoad a Deunyddiau

  • Ymgyfarwyddwch â stori Porthi’r Pum Mil (Luc 9.10–17).
  • Dewiswch fersiwn o’r stori uchod a fyddai’n un dda i’w darllen yn uchel, a’i hadrodd mewn ffordd ryngweithiol (gwelwch Cam 5), gan gynnwys symudiadau.
  • Ymgyfarwyddwch â geiriau cân John Hardwick, ‘Nobody’s a nobody’, ac ewch dros y symudiadau.

Gwasanaeth

  1. Cyflwynwch y gwasanaeth trwy egluro eich bod yn mynd i feddwl am yr hyn sy’n ein gwneud ni’n unigryw, a pham y gallai bod yn unigryw fod yn rhywbeth pwysig.

  2. Gofynnwch i’r plant droi at yr un sy’n eistedd agosaf ato, ac yna mewn parau, gofynnwch iddyn nhw sôn yn dawel wrth y naill a’r llall am rywbeth y maen nhw wedi ei wneud yn ddiweddar y maen nhw’n falch ohono. Gofynnwch i rai o’r plant rannu eu hatebion gyda’r gynulleidfa gyfan wedyn.

  3. Nawr, gofynnwch iddyn nhw ddweud ambell beth arall amdanyn nhw eu hunain wedyn wrth y naill a’r llall - rhywbeth sy’n gwbl unigryw iddyn nhw. Ac yna, gwrandewch ar rai o’r atebion hyn hefyd gyda’ch gilydd fel cynulleidfa.

  4. Dewch i’r casgliad fod pob un ohonom yn unigryw, ac fe fyddai Cristnogion yn dweud bod gan Dduw gynllun ar ein cyfer ni i gyd. Ewch ymlaen trwy ddweud fod eich cynulleidfa’n mynd i gael clywed stori o’r Beibl yn awr, am rywbeth unigryw a wnaeth un bachgen bach un tro.

  5. Adroddwch stori bwydo’r pum mil o bobl, gan wneud hynny mewn ffordd ryngweithiol sy’n gofyn i’r plant ymuno i wneud rhai o’r symudiadau (fel yr enghreifftiau sydd wedi eu crybwyll yn yr adran ‘Paratoad a deunyddiau’ uchod).

  6. Dangoswch nad oedd y bachgen bach, pan aeth o’i gartref yn y bore hwnnw, wedi meddwl y byddai ei becyn bwyd ef yn cael ei ddefnyddio i fwydo pum mil o bobl, ond bod Iesu wedi gwneud i hynny ddigwydd! Yn yr un modd, fyddwn ni byth yn gwybod beth sydd o’n blaen ninnau yn ystod unrhyw ddiwrnod, ac efallai bod rhai pethau mai dim ond y ni fydd yn gallu eu gwneud.

Amser i feddwl

Gofynnwch i’r plant eistedd yn dawel a meddwl am y ddau beth canlynol:

- cofiwch ei bod hi’n dda bod yn chi - rydych chi’n gyfan gwbl unigryw, ac mae rhai pethau dim ond y chi all eu gwneud
- allwch chi gadw eich llygaid a’ch clustiau ar agor yn ystod yr wythnos sydd i ddod, er mwyn gweld a oes rhywbeth defnyddiol y gallwch chi ei wneud a fydd o help i rywun arall, a hwnnw’n rhywbeth hefyd mai dim ond chi fydd yn gallu ei wneud?

Gweddi
Annwyl Dduw,
Diolch i ti fy mod i’n unigryw.
Helpa fi i fod yn hapus ynghylch pwy ydw i.
Helpa fi i ddefnyddio fy noniau unigryw i helpu eraill.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Ebrill 2014    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon