Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Gwrthwynebiad

gan Janice Ross

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 2

Nodau / Amcanion

Ystyried beth yw ystyr gwrthwynebiad, a sut mae modd troi sefyllfa felly o gwmpas.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen arweinydd a phedwar darllenydd, ynghyd â darllenydd ychwanegol ar gyfer darllen yr adnodau o’r Beibl.

Gwasanaeth

  1. Arweinydd  Gofynnwch i'r plant am ddiffiniad o'r gair ‘gwrthwynebiad’ a derbyniwch eu hawgrymiadau.

    Ystyriwch rai geiriau tebyg eu hystyr i’r gair ‘gwrthwynebiad’ - gelyniaeth, casineb, gwrthdaro, anghytundeb, beirniadaeth, diffyg cydymffurfio. Dewiswch eiriau sy'n negyddol i gyd.

    Gosodwch y rhain mewn trefn o raddfa ddifrifoldeb a rhowch enghreifftiau ohonyn nhw mewn brawddegau, fel, ‘Roedd cryn wrthwynebiad i'r cynnig o ymestyn oriau'r diwrnod ysgol  . . .  oddi wrth y staff yn ogystal â'r disgyblion!’ O bosib byddai gosodiad fel hwn ar y dechrau yn rhywbeth fyddai’n cael ei wrthwynebu a’i feirniadu. Ond gallai wedyn, pe byddai'r bwriad yn cael ei gyflwyno, yn datblygu i fod yn anghytundeb, yn ddiffyg cydymffurfio, a hyd yn oed yn elyniaeth, efallai.
  2. Arweinydd Beth am wrthwynebiad sy'n dod oddi wrth unigolyn, pe byddai'n wrthwynebus i syniad neu fwriad? Er enghraifft, pe byddai hyn yn digwydd mewn sefyllfa prosiect grwp, yna fe fyddai angen ymdrech i geisio ennill yr unigolyn drosodd i dderbyn eich syniad chi.

    Beth mae'r un sy’n gwrthwynebu wedi ei ddweud neu wedi'i wneud?
    Pam nad yw'r syniad yn wir neu'n gyfiawn?
    Beth sy'n wir?

    Myfyriwch ar sut y mae'r gwir yn cael effaith arnoch ac ar y gwrthwynebiad sydd o’ch blaen.

    Mae hyn yn anos pan fydd eraill yn wrthwynebus i chi yn unig fel unigolyn, am resymau nad ydych bob amser yn eu deall.

    Mae troi rhywbeth negyddol yn gadarnhaol, fodd bynnag, yn beth grymus iawn i'w wneud. Fel mae'r dywediad yn Saesneg yn ei ddatgan, ‘when life gives you lemons, make lemonade’ - Pan fydd bywyd yn rhoi lemonau i chi, gwnewch lemonêd!.
  3. Arweinydd  Pa fath o effaith, felly, y mae gwrthwynebiad yn ei gael arnom? Gallwn naill ai suddo neu nofio. Felly beth yw'r ymateb cywir i wrthwynebiad?

    Fe allwn ei dderbyn neu ei anwybyddu os oes raid ac/neu gadw agwedd bositif tuag at y rhai sy'n ein gwrthwynebu. Gadewch i ni feddwl am enghraifft o'r Beibl.

    Stori Dafydd

    Darllenydd 1  Y mab ieuengaf o wyth o frodyr oedd Dafydd, y lleiaf pwysig yn ei deulu, bachgen o fugail.

    Darllenydd 2  Saul oedd Brenin Israel ar y pryd ac roedd Saul yn ddyn o gymeriad anodd, yn un oriog iawn. Un diwrnod, fe awgrymodd rhywun y dylid galw ar fachgen ifanc o fugail o'r enw Dafydd i'w gynorthwyo. Roedd y bachgen ifanc yn gallu'n canu'n hyfryd ac roedd yn delynor. Felly, pa bryd bynnag yr oedd hwyliau drwg ar Saul, fe fyddai Dafydd yn cymryd ei delyn ac yn ei chanu. Yna, fe fyddai Saul yn teimlo'n well.

    Darllenydd 3  Roedd y Philistiaid yn rhyfela yn erbyn byddin y Brenin Saul.  Roedd ganddyn nhw fwy o fantais oherwydd un o’r enw Goliath - cawr o ddyn, oedd yn ôl pob sôn bron yn 3 metr o daldra (hynny yw, dros 9 troedfedd), wedi ei wisgo ag arfwisg drom o efydd oedd yn disgleirio yn yr haul, ac a oedd yn codi dychryn ar yr Israeliaid cyn iddo hyd yn oed agor ei geg!

    Darllenydd o’r Beibl  ‘Safodd Goliath a gweiddi ar rengoedd Israel a dweud wrthynt, Pam y dewch allan yn rhengoedd i frwydro? Dewiswch un ohonoch i ddod i lawr ataf fi. Yr wyf fi heddiw yn herio rhengoedd Israel ...’ (Rhannau o 1 Samuel 17.8-11).

    Darllenydd 4   Roedd y Brenin Saul a'r Israeliaid i gyd yn siomedig ac wedi eu brawychu. Nawr, roedd Dafydd wedi cael ei anfon i fynd â bwyd i'w frodyr. Clywodd lais gwawdlyd Goliath yn gweiddi'n heriol ar Dduw Dafydd.

    Dywedodd Dafydd wrth Saul, ‘Pwy yw’r Philistiad anwar hwn sydd yn herio byddinoedd y Duw byw? Peidied neb ag ofni Goliath yn ei galon. Mi af i, dy was, allan i ymladd yn ei erbyn.’

    Darllenydd 1  Roedd brodyr Dafydd yn ddig iawn wrtho. ‘Pam y daethost ti yma? Beth am y defaid yr wyt ti i fod i’w gwarchod? Rwyt ti'n hunandybus dros ben! Dim ond dod yma i ymlawenhau yn y frwydr wnest ti!’

    Darllenydd 2  ‘Nawr, beth ydw i wedi ei wneud?’ dywedodd Dafydd. ‘Chaf i ddim hyd yn oed siarad?’

    Darllenydd 3  Rhedodd Dafydd i lawr at y nant gerllaw; cododd nifer o gerrig a thaflodd un at Goliath gyda'i ffon-dafl. Tarodd honno Goliath yng nghanol ei dalcen a llewygodd. Rhedodd Dafydd i fyny ato a, chan ddefnyddio cleddyf enfawr Goliath ei hun, fe dorrodd ei ben i ffwrdd!

Amser i feddwl

Mae gwrthwynebiad yn rhywbeth anodd i ddelio ag ef.  Dychmygwch sut oedd Dafydd yn teimlo, yn mynd ati i ymladd â chawr, gan wybod nad oedd gan ei frodyr ddim ffydd ynddo o gwbl?

Fe enillodd Dafydd, er cymaint y gwrthwynebiad hwnnw.

Weithiau, fe allen ni deimlo fel pe byddem yn gorfod ymladd yn erbyn cewri, pan fydd pobl yn ein gwrthwynebu ni ac yn ein cyhuddo o fod yn annymunol, yn hunandybus neu'n ddrwg, a ninnau'n gwybod nad ydym felly.

Weithiau rhaid i ni ddal at y gwir, ac aros i hwnnw ddod yn glir i bawb arall.

Dyddiad cyhoeddi: Mai 2014    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon