Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Celwyddau

gan Janice Ross

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Cynyddu’r ymwybyddiaeth o ba mor hawdd yw dweud celwyddau, a pha mor dderbyniol yw hynny’n aml.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen delwedd o byrger McDonald’s, a’r modd o arddangos  y ddelwedd yn ystod y gwasanaeth.
  • Fe fydd arnoch chi hefyd angen y geiriau, sydd yn un o hysbysebion McDonald’s, wedi eu hysgrifennu ar fwrdd gwyn: ‘Tell them you got stuck behind a tractor.’
  • Copïwch eiriau’r adnod o lyfr yr Hebreaid 6.18, sy’n dweud ei bod yn amhosibl i Dduw fod yn gelwyddog, am mai gwirionedd yw Duw, a llyfr y Diarhebion 12.22, ‘Y mae geiriau twyllodrus yn ffiaidd gan yr Arglwydd’.
  • Efallai yr hoffech chi drefnu cael y gerdd ‘The boy who never told a lie’, gan awdur anadnabyddus i’w harddangos (ar gael ar: http://fairytales4u.com/fable/poem02.htm).

Gwasanaeth

  1. Dangoswch y ddelwedd o byrger McDonald’s, a geiriau’r hysbyseb, ar fwrdd gwyn.

    Mae hysbyseb diweddar gan gwmni McDonald’s yn dweud, ‘Tell them you got stuck behind a tractor.’ Dywedwch eich bod wedi cael eich dal tu ôl i dractor – dyna pam rydych chi’n hwyr!

    Ar y dechrau, fe allech chi feddwl, ‘Dyna hysbyseb clyfar!’ Wrth i’r haf nesu, a’r ffermwyr yn brysur yn gweithio yn y caeau, fe welwch chi dractorau’n aml yn teithio ar hyd y ffyrdd ac yn dal y cerbydau eraill yn ôl am eu bod yn symud yn araf a’r cerbydau eraill yn methu eu pasio. Efallai eich bod wedi bod ar frys i fynd i rywle ryw dro, ac wedi methu mynd yn gyflym am fod tractor ar y ffordd, ac roeddech wedi cael eich dal yn y ciw!

    Mae’n hawdd mynd i deimlo’n rhwystredig a cholli amynedd pan fydd hynny’n digwydd. Ar yr adegau felly, fe fydd y tractor yn eich dal yn ôl ac yn peri i chi fod yn hwyr, o bosib, a does dim allwch chi ei wneud am y peth.

    ‘Ie,’ fe allech chi feddwl, ‘Dyna hysbyseb da! Dyna fyddai esgus da dros fod yn hwyr!’

  2. Er hynny, fe allen ni sylweddoli wedyn, ‘Mae’r hyn sydd newydd ei ddweud yn gelwydd.’ Efallai ei fod yn ddoniol, yn glyfar yn wir, ond er hynny’n gelwydd neu’n anwiredd.

    A yw’n iawn i hysbysebion awgrymu y gallen ni ddweud anwiredd?
    A yw’n iawn, mewn unrhyw achos, i ddweud anwiredd, hyd yn oed rhywbeth doniol neu glyfar?

  3. Eglurwch i’r plant fod pobl yn gallu ystyried y weithred o ddweud celwydd mewn sawl ffordd. Mae rhai yn meddwl bod celwyddau mawr yn cael eu dweud, a bod hynny’n beth difrifol. Ac ar y llaw arall, bod rhai celwyddau bach yn bosib eu dweud, a’r hyn y mae rhai pobl yn ei alw’n ‘gelwydd golau,’ sydd â rhywfaint bach o wirionedd efallai yn y celwydd. Mae pobl yn meddwl bod gwahanol raddau o gelwyddau i’w cael. Er enghraifft, fe fyddai dweud rhywbeth er mwyn ceisio peidio â brifo teimladau rhywun arall yn well rheswm tros ddweud celwydd na dweud celwydd er mwyn osgoi cael eich cosbi.

  4. Beth mae’r Beibl yn ei ddweud am gelwyddau a dweud anwireddau?

    Darllenwch yr adnodau o’r Llythyr at yr Hebreaid 6.18 a Llyfr y Diarhebion 12.22. Siaradwch am y ffaith os ydyn ni eisiau plesio Duw a’n cyfeillion ac aelodau ein teulu, yna nid yw dweud celwyddau’n beth iawn i’w wneud .

    Darllenwch y gerdd, ‘The boy who never told a lie’.

    The boy who never told a lie

    Once there was a little boy,
    With curly hair and pleasant eye –
    A boy who always told the truth,
    And never, never told a lie.

    And when he trotted off to school,
    The children all about would cry,
    ’There goes the curly-headed boy –
    the boy who never tells a lie.’

    And everybody loved him so,
    Because he always told the truth,
    That every day, as he grew up,
    'Twas said, ‘There goes the honest youth.’

    And when the people who stood near
    Would turn to ask the reason why,
    The answer would be always this:
    ’Because he never tells a lie.


    Awdur anadnabyddus

Amser i feddwl

Pam roedd pawb yn hoff o’r bachgen hwn?
Fydd pobl yn ein hoffi ni os dywedwn ni’r gwir?
Fyddech chi’n hoffi cael eich adnabod fel bachgen neu ferch onest?
Gadewch i ni ofyn i Dduw ein helpu ni beidio â dweud celwyddau.

Gweddi
Annwyl Dduw,
Diolch dy fod ti’n Dduw gwirionedd.
Diolch nad wyt ti byth yn newid.
Helpa ni i gasáu dweud anwiredd, hefyd.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Mai 2014    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon