Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Mr Stickability

gan Janice Ross

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Cydnabod pa mor benderfynol y mae’n rhaid i rywun fod er mwyn argyhoeddi pobl bod eich syniad yn mynd i weithio.

Paratoad a Deunyddiau

Gwasanaeth

  1. Ydych chi wedi ceisio gwneud rhywbeth ryw dro, a’r peth hwnnw ddim wedi gweithio fel roeddech chi wedi disgwyl?

    Efallai eich bod wedi gwneud cacen. Roedd y gacen orffenedig yn edrych yn ysgafn a blasus yn y llun yn y llyfr ryseitiau, ond fe ddaeth allan o’r popty’n fflat a chaled. Efallai eich bod chi wedi gwneud arbrawf gwyddonol, a doedd y canlyniadau ddim fel roeddech chi wedi disgwyl iddyn nhw fod. Mae’n hawdd iawn teimlo’n ddigalon a siomedig pan fydd rhywbeth fel hynny’n digwydd, bron i’r graddau eich bod ddim yn awyddus i geisio gwneud dim byth o’r fath eto, byth.

  2. Gofynnwch i’r plant ydyn nhw wedi gwylio’r rhaglenDragon’s Den, ryw dro – y rhaglen deledu lle mae darpar ddyfeiswyr ac entrepreneuriaid yn ceisio gwerthu eu syniadau i grwp o bobl busnes hynod o brofiadol. Mae hynny’n gofyn am gryn dipyn o benderfyniad a dewrder!

  3. Fe fyddai dyn o’r enw Spencer Silver wedi bod yn gyfarwydd iawn â’r holl deimladau hyn. Gwyddonydd Americanaidd oedd Spencer Silver, cemegydd i gwmni Americanaidd o’r enw 3M.

    Mae ei stori ef yn dechrau yn 1968, pan oedd yn ceisio datblygu glud. Roedd yn ceisio gwneud glud newydd yn gryfach a mwy gwydn nag unrhyw lud a oedd wedi cael ei gynhyrchu erioed o’r blaen. Ond yn anffodus, doedd y glud a gynhyrchodd o ganlyniad i’w arbrofion a’i waith treialu ddim yn meddu ar y nodweddion hyn o gwbl! Yn lle hynny, roedd Spencer Silver wedi creu deunydd newydd oedd â rhinwedd arbennig iddo. Wedi iddo ei roi ar arwyneb fe welodd ei bod hi’n bosib iddo ei bilio i ffwrdd yn hawdd, ond roedd yn parhau’n ludiog.

    Doedd neb â diddordeb yn y cynnyrch, ond teimlai Spencer Silver ei fod wedi gwneud darganfyddiad pwysig er hynny. Felly, am flynyddoedd, fe fu’n ymdrechu i ddarganfod at ba bwrpas y gallai ddefnyddio’r glud newydd hwn a cheisio perswadio pobl eraill i’w ddatblygu. Roedd yn dyfalbarhau cymaint, ‘I got to be known as Mr Persistent’, meddai.

    Wyth mlynedd yn ddiweddarach, yn 1974, roedd gwyddonydd arall  yn cael problemau o natur wahanol. Diddordeb Arthur Fry oedd canu. Roedd yn aelod o gôr ac roedd aelodau’r côr yn ymarfer bob nos Fercher. Fe fyddai Arthur Fry’n defnyddio darnau bach o bapur i nodi’r tudalennau yn ei lyfr canu er mwyn ei helpu i ddod o hyd i’r tudalennau iawn pan fydden nhw’n canu wedyn mewn cyngerdd neu wasanaeth.

    Dangoswch y llyfr sydd gennych chi i’r plant gyda’r papurau bach ynddo’n nodi gwahanol dudalennau.

    Erbyn y dydd Sul canlynol, fe fyddai rhai o’r papurau hyn wedi disgyn allan ac yntau’n llawn ei drafferth yn methu dod o hyd i’r dudalen iawn pan ddeuai’n amser i’r côr ganu rhai o’r caneuon. Fe fyddai rhai ohonyn nhw wedi cael ei rhoi yn ôl yn y llefydd anghywir yn aml, a doedd hynny fawr o werth iddo o gwbl!

    Un diwrnod roedd Arthur Fry wedi cwrdd â Spencer Silver mewn seminar ac roedd Spncer Silver wedi dechrau sôn wrtho am y glud newydd yr oedd yn dal i geisio’i ddatblygu, Yn sydyn, fe gafodd Arthur Fry un o’r momentau eureka hynny! Tybed a fyddai modd gwneud nod llyfr, a fyddai’n glynu wrth y tudalennau heb ddisgyn allan o’r llyfr, ond na fyddai’n difetha’r tudalennau’r llyfr?

    A dyna sut y daeth y papurau bach Post-It i fodolaeth.

    Dangoswch rai papurau Post-It i’r plant.

  4. Gofynnwch i’r plant faint ohonyn nhw sydd wedi defnyddio papurau bach fel rhain ryw dro?

    Ar y dechrau, doedd pobl ddim yn gweld gwerth y ddyfais hon a’r papurau bach lliwgar hyn. Ond yn fuan iawn wedyn wrth i’r Post-its ddechrau cael eu defnyddio i adael negeseuon i gyfathrebu mewn swyddfeydd ac ati, fe sylweddolodd Spencer Silver ac Arthur Fry pa mor werthfawr oedd eu syniad, a pha mor llwyddiannus oedd eu menter.

Amser i feddwl

Fe allai Mr Stickability, neu Mr Persistent, yn hawdd fod wedi rhoi’r gorau i ddyfalbarhau â’i ddyfais . Mae’n debyg ei fod wedi teimlo’n siomedig ac wedi ei ddadrithio’n aml wrth i bobl ddangos cyn lleied o frwdfrydedd ynghylch ei brosiect.

Ydych chi wedi teimlo fel hyn ynghylch rhywbeth rydych chi wedi ceisio’i wneud ryw dro?

Gweddi
Annwyl Dduw,
Rwyt ti wedi ein creu ni’n fodau creadigol.
Diolch i ti am ein meddyliau creadigol, ac am y llawer o bethau sydd gennym i’w darganfod eto yn ein bywyd.
Helpa ni i ddatblygu penderfyniad ac ymrwymiad.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Mai 2014    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon