Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Arhoswch!

gan Alan M. Barker

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Ystyried yr angen i aros yn amyneddgar.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen amlinelliad neu ddelweddau o oleuadau traffig, a’r modd o ddangos y rhain yn ystod y gwasanaeth.
  • Cyfeirir yma at Ddydd Iau Dyrchafael, dyddiad sy’n amrywio bob blwyddyn, ond mae’n digwydd bob amser 40 diwrnod ar ôl Sul y Pasg. Eleni, yn 2014, mae’n disgyn ar 29 Mai.

Gwasanaeth

  1. Rhowch groeso i’r plant a chanmolwch amynedd y rhai hynny a ddaeth i mewn i’r ystafell yn gyntaf am aros yn amyneddgar. Gofynnwch, ‘Pa mor dda yr ydych yn gallu disgwyl? Pa mor hir allwch chi ddisgwyl?’

    Cyfeiriwch at Ddydd Iau'r Dyrchafael, y deugeinfed dydd ar ôl y Pasg, sydd yn digwydd eleni ar 29 Mai. Eglurwch mai dyma'r dydd pryd y bydd Cristnogion yn nodi diwedd cyfnod Iesu ar y ddaear. Mae'r Beibl yn dweud  'fe'i dyrchafwyd, a chipiodd cwmwl ef o'u golwg' (Actau 1.9). Nid oedd gwaith Iesu wedi dod i ben, fodd bynnag. Dywedodd wrth ei ddilynwyr, 'Ewch a chyhoeddwch gerbron yr holl fyd . . .’ (gweler Mathew 28.19 ac Actau 1.8). Fe wnaeth eu cyfarwyddo nhw hefyd i aros nes eu bod yn barod. ‘Bydd Duw yn eich llenwi â llawenydd a chariad,’ meddai Iesu.  ‘Disgwyliwch a gwelwch!’  Pwysleisiwch nad oedd ffrindiau Iesu yn gwybod pa mor hir y byddai'n rhaid iddyn nhw aros.

  2. Gofynnwch i'r plant ddwyn ar gof a disgrifio'r profiadau sy'n rhan o ddisgwyl. Gall y rhain gynnwys:

    - disgwyl am ddiwrnod arbennig, fel pen-blwydd neu'r Nadolig;
    - disgwyl am foment arbennig, fel perfformio mewn drama neu gyngerdd, neu sefyll mewn ciw i gael mynd ar reid mewn parc thema;
    - disgwyl i bethau newid, fel gwella o afiechyd neu ddisgwyl i'r glaw i beidio;
    - disgwyl am ddechreuad newydd, fel hau a thyfu hadau, disgwyl i weld wy yn deor, neu ddisgwyl am enedigaeth baban.

  3. Gwahoddwch y plant i ddisgrifio'r emosiynau y maen nhw'n eu teimlo wrth aros a disgwyl. Mae aros i rywbeth ddigwydd yn aml yn golygu amrywiaeth o deimladau yn cynnwys rhwystredigaeth a disgwyliad.

    Gwnewch y sylw ei bod yn rhaid disgwyl yn aml oddi mewn i fywyd yr ysgol. Rhaid i blant:

    - ddisgwyl eu tro i ddefnyddio offer neu i gymryd rhan mewn gweithgaredd;
    - disgwyl nes eu bod wedi gwrando ar gyfarwyddiadau, neu ddisgwyl nes mae athro wedi gorffen siarad;
    - disgwyl tra byddan nhw’n ystyried sut i ymdrin â thasg.

  4. Wrth ddangos yr amlinelliad neu ddelweddau o oleuadau traffig, cyfeiriwch at drefn y coch, yr ambr, a’r gwyrdd, ac adolygwch y pwysigrwydd o aros a disgwyl:

    – gall disgwyl ein helpu i arosa gwrando (coch);
    – gall helpu i atal camgymeriadau a damweiniau;
    – gall disgwyl ein helpu i fod yn barod(coch ac ambr) a gall roi cyfle i ni feddwl a gweddïo;
    – gall disgwyl olygu ein bod yn barod pan ddaw'n amser i fynd(golau gwyrdd);
    – mae'n ein galluogi ni i fynd i'r cyfeiriad cywir.

  5. Gorffennwch trwy ofyn y cwestiwn, ‘Felly, sut y bydd aros a disgwyl yn bwysig i chi yn yr ysgol heddiw? Pa mor dda ydych chi am ddisgwyl?’ Gwnewch y sylw, weithiau, fel y digwyddodd i ffrindiau Iesu, rhaid i ni ddisgwyl i wneud y gorau o'r cyfleoedd.

Amser i feddwl

Gall disgwyl ymddangos yn ddiddiwedd.

‘Pa mor hir eto?’ gofynnwn.
Ond gall yr amser o ddisgwyl
fod yn amser o wrando a dysgu.
Gall yr amser o ddisgwyl
ein gwneud yn fwy parod
i aros ein tro.

Gadewch i ni gofio heddiw pa mor bwysig yw disgwyl, a cheisio aros a disgwyl yn amyneddgar ac yn well.

Dyddiad cyhoeddi: Mai 2014    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon