Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Pentecost Trydanol

gan Ann Peat

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 1/2

Nodau / Amcanion

Cymharu grym yr Ysbryd Glân â thrydan

Paratoad a Deunyddiau

  • Ymgyfarwyddwch eich hunan â’r disgrifiad o’r Pentecost yn Actau 2.1–8.
  • Fe fydd arnoch chi angen nifer o declynnau sy’n gweithio â thrydan – rhai sy’n gweithio â batris, ac eraill y mae gofyn i chi eu cysylltu â’r cyflenwad trydan mewn soced. Fe fyddai’n dda cael un eitem sydd ddim yn gweithio, hefyd, ac fe fydd arnoch chi angen tortsh neu olau trydan ar gyfer yr adran ‘Amser i feddwl’.
  • Casglwch beth gwybodaeth am hanes harneisio trydan (ar gael ar y wefanwww.wisegeek.org/who-discovered-electricity.htm).

Gwasanaeth

  1. Gofynnwch i'r plant, ‘Beth sy'n gyrru'r rhan fwyaf o ddyfeisiau?’ Fe ddylen nhw ymateb, ‘Trydan.’

    Gofynnwch iddyn nhw a ydyn nhw'n meddwl y bydd pob un o'r dyfeisiau rydych chi wedi eu casglu ar gyfer y gwasanaeth heddiw’n mynd i weithio. Ceisiwch weld a ydyn nhw'n gweithio, yn cynnwys yr un rydych chi’n gwybod sydd ddim yn gweithio.

    Nodwch y ffaith, os nad ydyn nhw wedi eu cysylltu â ffynhonnell o drydan (gyda phlwg neu fatri), yna fyddan nhw ddim yn gweithio.

    Ymestynnwch hyn trwy nodi bod trydan yn cael ei ddefnyddio i'n cadw'n gynnes neu'n oer (tanau a gwyntyllau), i wneud tasgau anodd (offer pwer), ac yn ein helpu i dynnu lluniau a chyfathrebu (ffonau, camerâu, radio ac yn y blaen).

  2. Gofynnwch, 'Pwy ddyfeisiodd drydan?' Efallai y byddwch yn derbyn sawl ateb, yn cynnwys yr ateb na chafodd yn wir ei ddyfeisio gan neb, ond bod sawl person wedi darganfod sut i'w harneisio a'i ddefnyddio.

  3. Os yw'n briodol, rhowch grynodeb byr o hanes defnyddio trydan.

  4. Pwysleisiwch fod trydan yn rym naturiol - mae'n rhan o'r bydysawd ers y cychwyn cyntaf, ond fe gymerodd hi amser i fodau dynol fod yn ymwybodol ohono a gallu gwneud defnydd ohono.

  5. Adroddwch stori'r Pentecost, pan ddaeth yr Ysbryd Glân mewn nerth mawr at ffrindiau a dilynwyr Iesu, a'u galluogi i wneud pethau nad oedden nhw'n gallu e gwneud cyn hynny, i ddweud y cyfan am Iesu wrth bob math o bobl, ac i roi cysur iddyn nhw pan oedden nhw mewn trafferth.

    Nodwch fod grym yr Ysbryd Glân, mewn rhai ffyrdd, yn debyg i rym trydan.

  6. Mae Cristnogion yn credu bod yr Ysbryd Glân bob amser wedi bod ar waith yn y byd, ond ei fod wedi dod mewn grym adnewyddol ar y Pentecost. Fe ddywed y Beibl wrthym fod yr Ysbryd ar waith pan grëwyd y byd, anifeiliaid a phobl, a'i fod wedi ysbrydoli geiriau'r proffwydi a ddysgodd yr Iddewon am Dduw cyn dyfodiad Iesu.

  7. Dywedwch fod Cristnogion yn credu bod angen iddyn nhw fod yn agored i’r Ysbryd Glân, yn gysylltiol ag ef, ac mewn perthynas glos ag ef, er mwyn gwneud y gwaith yr oedd Iesu'n ei wneud yn y byd a'r hyn y mae Duw am iddyn nhw ei wneud.

Amser i feddwl

Goleuwch y dortsh neu’r golau trydan.

Fe ddywedodd disgybl Iesu, Ioan, bod Iesu’n oleuni’r byd.
Mae Cristnogion yn credu bod yr Ysbryd Glân yn rhoi grym i’w ddilynwyr i fod yn oleuadau, hefyd, fel ef.
Meddyliwch sut y gallech chi fod yn oleuni i bobl o’ch cwmpas chi heddiw.

Gweddi
Annwyl Arglwydd Dduw,
Diolchwn fod dy Ysbryd Glân di ar waith bob amser yn dy fyd, yn dod â nerth a chysur, geiriau a goleuni.
Helpa ni i fyw fel y gwnaeth Iesu, i ddod â goleuni i dy fyd di, a byw yn y ffordd yr wyt ti eisiau i ni fyw.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Mehefin 2014    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon