Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Y cyfan allan o un hedyn bach!

gan Alan M. Barker

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Dathlu potensial dechreuadau bach.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen ychydig o afalau coginio Bramley mawr, cyllell, teclyn pilio, a theclyn sy’n tynnu canol afal.
  • Os yw eich ysgol yn ysgol eglwys, efallai yr hoffech chi sôn am ddameg yr hedyn mwstard, sydd i’w chael yn Matthew 13, ac sy’n cael ei chynnwys yng Ngham 4 y gwasanaeth hwn. Ymgyfarwyddwch â’r stori a’r syniad, a’r symudiadau sy’n mynd gyda hi, fel y gallwch chi annog y plant i ymuno â chi. Mae cyflwyniad amgen, sy’n defnyddio’r un symudiadau i’w gael yng Ngham 5.

Gwasanaeth

  1. Dangoswch yr afalau coginio Bramley. Gwahoddwch y plant i sylwi eu bod yn fwy na’r rhan fwyaf o afalau eraill. Dywedwch fod afalau fel y rhain yn gallu bod yn sur iawn. Eglurwch mai afalau coginio ydyn nhw. Maen nhw’n cael eu pilio, tynnu’r canol a’u tafellu, eu melysu â siwgr, a’u rhoi mewn tarten neu grymbl. Dangoswch sut mae’r afal yn cael ei baratoi a sylwch ar yr hadau bach sydd yng nghanol yr afal.

  2. Ewch ymlaen trwy ddweud bod yr afalau mawr hyn, math sy’n cael ei alw’n Bramley,  wedi cael eu datblygu a dechrau eu tyfu dros 200 mlynedd yn ôl, yn 1809 - gan ddechrau o ddechreuad bach iawn. 

    O un hedyn bach

    Gosododd mam Mary'r afalau’n daclus ar y crwst i wneud tarten afalau. Yna wedi iddi ysgeintio siwgr drostyn nhw a rhoi haen o grwst ar y top fe roddodd hi’r darten i grasu yn y popty syml yn y bwthyn bach lle’r oedden nhw’n byw. Fe sychodd y blawd oddi ar ei dwylo a dweud, ‘Dyna ni, Mary, fe fydd yn barod toc. Wnei di fy helpu i glirio’r bwrdd?’

    Casglodd Mary Brailsford, a oedd yn 18 oed ar y pryd, y gweddillion a oedd ar ôl o groen yr afalau, a’r canol, i’w taflu. Yn eu mysg roedd hadau bach brown tywyll.

    ‘Pe bawn i’n eu plannu, tybed wnaiff yr hadau bach yma dyfu?’ holodd.

    ‘Fe alli di roi cynnig arni,’ meddai ei mam. ‘Efallai y byddwn ni’n lwcus. Ond mae’n debyg y bydd rhaid i ni aros yn hir cyn cawn ni afalau i wneud tarten!’

    Y tu allan, yng ngardd y bwthyn, fe ddaeth Mary o hyd i bot blodau, ei lenwi â phridd a phlannu’r hadau fesul un. Fe roddodd hi’r potyn ar silff ffenest y gegin.

    Yn ddiweddarach y gwanwyn hwnnw, fe welodd Mary fod eginblanhigyn bach a dwy ddeilen arno’n tyfu yn y potyn. Roedd un o’r hadau yr oedd hi wedi eu plannu wedi egino! Wrth i’r planhigyn dyfu’n fwy, fe ail blannodd Mary ef mewn potyn mwy, ac ymhen amser fe’i plannodd allan mewn cornel heulog yn yr ardd.

    Ymhen rhai blynyddoedd, fe briododd Mary a symud o’r bwthyn i fyw. Roedd hi wedi anghofio am yr hedyn afal nes daeth ei mam i ymweld â hi un diwrnod a dod â tharten afalau yn anrheg iddi. ‘Rwy’n gobeithio y gwnei di ei mwynhau, Mary,’ meddai. ‘Rydw i wedi ei gwneud gyda rhai o’r afalau sydd wedi tyfu ar dy goeden di!’ Roedd Mary wrth ei bodd! Roedd wedi synnu bod yr un hedyn bach a blannodd hi wedi tyfu’n goeden, ac erbyn hyn, yn cynhyrchu afalau ei hunan!

    Flynyddoedd yn ddiweddarach, fe ddaeth rhywun arall i fyw i’r bwthyn lle’r oedd y goeden afalau’n dal i dyfu - dyn o’r enw Mr Bramley. Erbyn hyn, roedd coeden Mary’n cynhyrchu cymaint o afalau roedd Mr Bramley yn eu rhannu â’i ffrindiau a’i gymdogion. Un diwrnod, fe ddaethon nhw i sylw dyn o’r enw Mr Merryweather. Roedd teulu Mr Merryweather yn tyfu coed ffrwythau a fyddai’n cael eu tyfu mewn perllannau a gerddi mawr. ‘Mae’r rhain yn afalau arbennig iawn,’ meddai. ‘Dydw i ddim wedi gweld rhai fel hyn o’r blaen. Fyddech chi’n fodlon i mi gymryd toriadau o’r goeden er mwyn gweld fydda i’n gallu tyfu rhagor o goed tebyg?’

    ‘Wrth gwrs,’ meddai Mr Bramley, ‘ond (meddai dan chwerthin) rhaid i chi addo un peth i mi! Fyddech chi’n fodlon galw’r afalau’n afalau Bramley, ar fy ôl i? Fe fyddwn i’n hoffi bod yn enwog!’

    ‘Wel, fe fydd yn rhaid i ni wneud ein gorau i geisio’u tyfu felly!’ atebodd Mr Merryweather wrth iddo gymryd toriadau oddi ar rai o ganghennau’r goeden yn ofalus.

    Fe dyfodd y toriadau! A chyn hir, roedd mwy a mwy o goed yn cynhyrchu mwy a mwy o afalau coginio mawr gwyrdd a ddaeth i gael eu galw’n ‘Bramley’s Seedling’. Dyma’r afalau coginio gorau. Fe ledaenodd y newyddion am ansawdd yr afalau trwy’r wlad, a rhain oedd yr afalau yr oedd pawb eisiau eu defnyddio i wneud tarten afalau.

    Fe werthodd Mr Merryweather gannoedd o’r coed afalau Bramley. Yn fuan roedden nhw’n tyfu mewn perllannau a gerddi ledled Prydain. Roedd yr enw Bramley yn enwog! Ond roedd Mr Merryweather eisiau gofalu bod enw rhywun arall hefyd ddim yn cael ei anghofio, felly fe adroddodd y stori sut y plannodd Mary'r hedyn hwnnw flynyddoedd lawer cyn hynny. ‘Onid yw’n rhyfeddod,’ meddai, ‘fod cymaint o bobl yn gallu mwynhau'r afalau arbennig hyn sydd wedi tyfu allan o un hedyn bach!’

    Mae’n stori ryfeddol! Mae’r goeden afalau, a blannodd Mary, yn dal i sefyll yng ngardd y bwthyn a oedd yn gartref iddi’n blentyn. Erbyn hyn mae’r goeden yn hen, ond mae’n dal i gynhyrchu ffrwythau. Mae’r enw Bramley yn parhau’n enwog hefyd oherwydd bod yr afalau Bramley, a dyfodd o un hedyn bach a blannwyd gan Mary, yn dal i fod y rhai gorau i’w rhoi mewn tarten a chrymbl!

  3. Sylwch fod y stori’n darlunio pa mor bwysig yw dechreuadau bach, a darlunio gwyrth y cynhaeaf. Mae’r ffaith bod hedyn bach Mary wedi cael cyfle i dyfu wedi golygu bod cnydau gwych o afalau wedi cael eu cynhyrchu flwyddyn ar ôl blwyddyn, ac wedi rhoi mwynhad i lawer o bobl. Mae dechreuadau bach yn gallu cynhyrchu llawer o ffrwythau.

  4. Fe allai ysgolion eglwys gysylltu’r stori hon ag un o ddamhegion Iesu, sef dameg yr hedyn mwstard (Mathew 13). Paratowch y plant fel y gallan nhw wneud y symudiadau canlynol ac ymateb yn briodol i’r gwahanol eiriau ac ymadroddion sy’n ymddangos yn y stori.

    – Pan fydd sôn am ‘hedyn’, fe hoffech chi i’r plant ddychmygu rhoi hedyn bach yn y ddaear a dweud,‘Mor fach!’

    – Darluniwch y planhigyn bach yn tyfu trwy gysylltu eich dau fawd gyda’i gilydd ac ymestyn eich bysedd allan i ffurfio dwy ddeilen.

    – Codwch eich breichiau’n uchel i ffurfio coeden, gan ddweud,‘Mor fawr!’

    Yna, gyda’ch dwy fraich, ffurfiwch gylch mawr o’ch blaen gan ddweud,‘I bawb!’

    Dameg Iesu am yr hedyn bach

    Dywedodd Iesu, dyma batrwm Duw ar gyfer bywyd.
    Unwaith, fe blannodd dyn hedyn bach.Mor fach!’
    Fe dyfodd, a thyfu, yn goeden fawr.Mor fawr!’
    Fe dyfodd y goeden mor fawr, roedd llawer o adar yn dod i nythu ar ei changhennau.I bawb!’

  5. Neu, fe allech chi adrodd stori hedyn yr afal Bramley a gwneud y symudiadau fel yng Ngham 4, ond yn defnyddio’r geiriau canlynol.

    Hedyn bach yr afal Bramley

    Gadewch i ni ddathlu patrwm bywyd.
    Unwaith, fe blannodd merch hedyn bach.‘Mor fach!’
    Fe dyfodd, a thyfu, yn goeden fawr.‘Mor fawr!’
    Fe dyfodd y goeden mor fawr, roedd llawer o bobl yn gallu mwynhau’r ffrwythau a dyfodd ar ei changhennau.‘I bawb!’

Amser i feddwl

Gwahoddwch bawb i dreulio moment neu ddwy yn meddwl am y stori a meddwl pa mor bwysig yw dechreuadau bach.

Tybed pa ddechreuadau y byddwch chi’n eu gwneud heddiw?
Fel Mary, fyddwch chi’n gwneud rhywbeth gyda hedyn syniad?
Fel Mr Merryweather, fyddwch chi’n gwneud y gorau o gyfle bychan?

Fel Mr Bramley, fyddwch chi’n barod i rannu?

Gweddi

Dduw’r Creawdwr,
Rydyn ni’n diolch i ti heddiw am ffrwythau’r Ddaear
ac am ffrwythau meddylgarwch, rhoi, amynedd a gofal.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Mehefin 2014    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon