Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Anifeiliaid dewr

gan Philippa Rae

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Gwerthfawrogi a dathlu gweithredoedd dewr rhai anifeiliaid.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fyddai’n bosib cysylltu’r gwasanaeth hwn â phrosiect neu arddangosfa ynghylch anifeiliaid. Ar yr un pryd, fe fyddai’n bosib datblygu rhannau o’r gwasanaeth i sefyll ar eu pen eu hunain wrth gyfeirio at anifeiliaid sy’n gweithio (cwn heddlu neu gwn tywys y deillion) ac anifeiliaid sy’n dangos dycnwch anghyffredin.
  • Chwiliwch am ddelweddau o anifeiliaid dewr, fel y rhai mae cyfeiriad atyn nhw yn y ‘Gwasanaeth’, a threfnwch fodd o ddangos y rhain yn ystod y gwasanaeth ei hun (gwiriwch yr hawlfraint).
  • Fe allech chi ddefnyddio delweddau ychwanegol hefyd i arddangos amodau anodd y mae rhai anifeiliaid yn gorfod brwydro yn eu herbyn, fel y pengwiniaid ymerodrol (mewn amgylchedd rhewllyd oer iawn), dolffiniaid (yn gorfod osgoi siarcod).
  • Fe allech chi ddefnyddio enghreifftiau o anifeiliaid mewn ffuglen a ffilm hefyd, os hoffech chi.

Gwasanaeth

  1. Rhowch groeso i’r plant i’r gwasanaeth. Gofynnwch iddyn nhw beth maen nhw’n ei feddwl yw ystyr y gair ‘dewr’. Allan nhw roi enghreifftiau i chi o rywun sy’n ddewr?

  2. Eglurwch fod gwahanol fathau o ddewrder. Yn yr ystyr ehangach mae’n golygu gallu wynebu ofn, perygl, ansicrwydd a brawychiad. Dywedwch eich bod yn mynd i sôn heddiw am y ffyrdd y mae gwahanol anifeiliaid yn dangos dewrder.

  3. Gofynnwch a yw’r plant yn gwybod am unrhyw anifeiliaid dewr, a pham maen nhw’n meddwl fod yr anifeiliaid hynny’n ddewr? Mae’n fwy na thebyg y bydd y plant yn meddwl am anifeiliaid sy’n arddangos dewrder corfforol fel y rhai hynny sy’n amlwg yn gryf ac yn ddewr – anifeiliaid gwyllt fel teigrod a llewod, er enghraifft.

  4. Fe allai beri syndod i’r plant wybod y gallai anifeiliaid llai, fel ein hanifeiliaid anwes, cathod cwn a cheffylau, ddangos dewrder mewn amgylchiadau anodd a heriol. Efallai nad yw’r anifeiliaid hyn mor wyllt a chryf â’r teigrod a’r llewod, felly mae hynny’n gwneud eu dewrder yn fwy nodedig.

    Dangoswch ddelweddau perthnasol.

  5. Fel ninnau, mae anifeiliaid yn gallu dangos dewrder wrth iddyn nhw frwydro i wella ar ôl iddyn nhw gael eu hanafu, neu yn dilyn salwch. Ond hefyd, maen nhw’n gallu dangos awydd cryf i wrthwynebu perygl ac ansicrwydd pan fyddwn ni’n gofyn iddyn nhw wneud rhywbeth i ni.

    Dangoswch ddelweddau perthnasol.

    Os ydych chi wedi gweld y ddrama neu’r ffilm Warhorse, yna fe fyddwch chi’n gwybod bod ceffylau yn ogystal ag anifeiliaid eraill wedi helpu pobl yn y gorffennol ar adegau o wrthdaro a rhyfel, ac maen nhw’n parhau i wneud hynny hyd heddiw. Er mai stori ffuglennol yw’r stori yn Warhorse, mae hanes y ceffyl fferm, Joey, sy’n cael ei alw i helpu yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, yn dangos i ni rai o amodau dychrynllyd bywyd go iawn y bu’n rhaid i’r anifeiliaid hyn eu hwynebu bryd hynny.

  6. Mae rhai anifeiliaid gweithiol eraill hefyd yn gorfod wynebu sefyllfaoedd anodd a allai fod yn beryglus  neu yn eu brawychu, er enghraifft, anifeiliaid sy’n cael eu hyfforddi gan yr heddlu (cwn a cheffylau, fel arfer). Efallai eich bod wedi gweld lluniau o brotestiadau ar eitemau newyddion teledu, lle mae tyrfaoedd mawr o bobl sy’n aml yn teimlo’n ddig ac yn emosiynol. Mewn digwyddiadau o’r fath, rhaid i gwn a cheffylau gadw’n hunanfeddiannol a pheidio â gwylltio wrth iddyn nhw gyflawni’r gwaith y mae’r rhai sy’n gweithio gyda nhw’n gofyn iddyn nhw ei wneud.

    Dangoswch ddelweddau perthnasol.
  7. Caiff anifeiliaid eu hyfforddi gan yr heddlu i wneud llawer o ddyletswyddau eraill hefyd. Ci Belgian Shepherd yw Janus, a oedd yn gweithio i heddlu Gorllewin Canolbarth Lloegr cyn iddo ymddeol. Roedd yn un o bump o gwn a enwebwyd yng nghystadleuaeth ‘Friends for Life’ y Kennel Club yn 2013, am ei ymroddiad eithriadol i ddyletswydd ac am ei ffyddlondeb neilltuol i’r un oedd yn gweithio gydag ef, sef y Cwnstabl Dan. 

    Yn ystod ei fywyd gwaith, roedd Janus yn gwbl eofn wrth iddo wneud ei ran mewn 432 o arestiadau. Roedd yn rhaid iddo neidio dros ffensys 1.8 metr o uchder, a thrwy ddefnyddio ei sgiliau canfod fe ddaliodd rai oedd yn cael eu hamau o fod yn ddrwgweithredwyr. O ganlyniad i weithredoedd o’r fath, roedd wedi gallu sicrhau arestio 285 o rai oedd yn cael eu drwgdybio, ac wedi gallu helpu i ddal drwgweithredwyr mewn 147 o achosion eraill. Ymysg rhai o’i lwyddiannau roedd dod o hyd i £5,000 a oedd wedi eu dwyn o gerbyd diogelwch yn ystod lladrad arfog, a darganfod mwy na gwerth £10,000 o offer pwer hefyd wedi eu dwyn mewn achos arall o ladrad.

    Mae’n siwr bod gan yr heddlu sawl ci tebyg i Janus yn eu helpu.

  8. Mae anifeiliaid sy’n byw yn y gwyllt yn wynebu sefyllfaoedd gwahanol. Mae rhai’n gwbl ddi-ofn pan fyddan nhw’n amddiffyn eu rhai bach yn erbyn ysglyfaethwyr. Ond mae rhai’n ddewr mewn ffyrdd eraill hefyd. Mae’r pengwiniaid ymerodrol yn gallu wynebu amgylchiadau eithriadol Ac yn gallu ymdopi â rhai o’r amodau anoddaf yn y byd.

    Dangoswch ddelweddau perthnasol.

    Y rhain yw’r unig greaduriaid sy’n gallu byw ar y rhew agored yn Antartica yn ystod y gaeaf. Does dim bwyd, dim lloches ac maen nhw’n byw mewn lluwchwyntoedd sy’n is o lawer na’r rhewbwynt.

    Pan fydd y pengwin benyw yn mynd ar ei thaith bell yn ôl i’r môr i ddod o hyd i fwyd, rhaid i’r partner gwryw eistedd ar yr wyau er mwyn eu hamddiffyn a’u cadw’n gynnes. Gan nad oes dim deunyddiau ar y rhew i adeiladu nythod, mae’r adar gwryw yn defnyddio’u cyrff eu hunain i amddiffyn yr wyau. Maen nhw’n gwneud hyn trwy godi’r wy ar eu traed a’i orchuddio â’u boliau pluog cynnes.

    Mae’r adar gwryw yn closio at ei gilydd i gyd mewn grwp mawr er mwyn gallu gwrthsefyll yr oerni, gan gymryd eu tro i symud i mewn i ganol y pac lle mae’n gynhesach er mwyn i’r grwp cyfan allu goroesi a chadw’n fyw gan gael hoe fach rhag y rhewynt a’r eira. Yn ogystal â bod mewn lle agored iawn heb loches ar y rhew, does gan y pengwiniaid ddim i’w fwyta ychwaith. Rhaid iddyn nhw aros fel hyn am fis neu ddau nes daw’r adar benyw yn ôl i fwydo’u cywion. Dim ond wedyn y bydd yr adar gwryw yn gallu mynd i’r môr eu hunain i bysgota.

  9. Mae dolffiniaid yn enghraifft arbennig o anifeiliaid sy’n dangos dewrder yn erbyn gelynion peryglus. Yn eu hachos hwy, dydyn nhw ddim yn unig yn bod yn ddewr pan fydd angen iddyn nhw amddiffyn eu teulu, ond maen nhw’r hyn y bydd pobl yn ei alw’n ‘allgarol’ (‘altruistic’). Ystyr allgarol yw bod yn ofalgar, ac mae dolffiniaid yn nodedig am fod yn ofalgar am les eraill hefyd ar wahân i’w lles eu hunain. Trwy gydol yr oesoedd mae sawl stori wedi bod am ddolffiniaid yn achub pobl, yn ogystal â chreaduriaid eraill hefyd, sydd mewn helbul. Er enghraifft., maen nhw wedi cael eu gweld yn ceisio helpu morfilod sydd wedi cael eu dal mewn dwr bas.

    Dangoswch ddelweddau perthnasol.

Amser i feddwl

Meddyliwch am y gwahanol ffyrdd y mae’r anifeiliaid hyn wedi dangos dewrder.
Y rhai hynny sy’n wynebu ofn a pherygl, fel yr anifeiliaid sy’n gweithio i ni, yn helpu’r heddlu i gadw pobl yn ddiogel mewn digwyddiadau cyhoeddus, ac yn cadw trefn yn ystod protestiadau neu derfysgoedd.
Y rhai hynny sy’n arddangos cyfeillgarwch mewn adegau anodd ac yn gallu wynebu amgylchiadau ansicr, fel Janus a’r cwn sy’n gweithio i’r heddlu.
Y rhai hynny sy’n dangos dygnwch anhygoel, fel y pengwiniaid ymerodrol.
Y rhai hynny sy’n ddi-ofn ac yn gallu gwrthwynebu gwrthsafiad ffyrnig, fel dolffiniaid.
Allwch chi feddwl am unrhyw briodweddau eraill o ddewrder y bydd anifeiliaid yn eu harddangos? Fe allen nhw fod yn debyg i’r hyn rydyn ni eisoes wedi sôn amdanyn nhw.

Gweddi
Annwyl Arglwydd Dduw,
Diolch i ti am yr anifeiliaid rhyfeddol rwyt ti wedi eu rhoi i ni, sy’n dangos dewrder anhygoel wrth iddyn nhw wneud eu dyletswyddau.
Diolch i ti hefyd am roi i ni’r cyfle i ddysgu am yr anifeiliaid hynny sy’n arddangos priodweddau eithriadol fel y gallwn ni fod â gwell dealltwriaeth o fyd natur, a mwy o drugaredd tuag ato.
Diolch i ti am yr holl bethau da rwyt ti’n eu rhoi i ni.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Mehefin 2014    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon