Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Gwenau'r haf!

gan Rebecca Parkinson

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

  • Cysylltu’r teimladau sy’n cael ei hennyn gan amrywiaeth o liwiau gyda’r teimladau sy’n cael eu hennyn trwy wên.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen amryw o ddalennau papur glân o wahanol liwiau - gwyn, coch, glas, oren, gwyrdd, du a melyn.
  • Chwiliwch am lun wyneb hapus yn gwenu (gwelwchhttp://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/8/85/Smiley.svgam enghraifft) a threfnwch fodd o ddangos y llun yn ystod y gwasanaeth.
  • Fe allech chi rannu sticeri wyneb hapus i’r plant ar ddiwedd y gwasanaeth, os hoffech chi, ond dewisol fyddai hynny.

Gwasanaeth

  1. Eglurwch eich bod yn mynd i ddal nifer o bapurau o wahanol liwiau i fyny yn eu tro, ac rydych chi eisiau i’r plant edrych ar bob un o’r papurau a dweud wrthych chi am beth mae pob papur yn gwneud iddyn nhw feddwl.

  2. Daliwch y papur gwyrdd i fyny gyntaf. Efallai y bydd y plant yn dweud bod y lliw gwyrdd yn gwneud iddyn nhw feddwl am gaeau a glaswellt a dail a choed ac ati. Gofynnwch iddyn nhw wedyn feddwl yn ddyfnach ac ystyried sut mae lliw y papur yn gwneud iddyn nhw deimlo. Fe allai rhai ddweud bod y lliw’n gwneud iddyn nhw deimlo’n gyffrous oherwydd eu bod yn meddwl am gael mynd allan i chwarae, neu efallai y bydd rhai yn dweud ei fod yn gwneud iddyn nhw deimlo’n gysglyd am ei fod yn eu hatgoffa o fod yn gwersylla mewn pabell, ac ati.

  3. Ewch drwy’r broses hon gyda phob un o’r lliwiau. Y naill dro ar ôl y llall, anogwch y plant i rannu gyda chi am beth mae’r lliw yn eu hatgoffa yn ogystal â sut mae’n gwneud iddyn nhw deimlo. Er enghraifft, efallai bod y lliw glas yn eu hatgoffa o’r môr, ond yn gwneud iddyn nhw deimlo’n heddychol; mae’n bosib y bydd y lliw gwyn yn gwneud iddyn nhw feddwl am eira, ond yn gwneud iddyn nhw deimlo’n oer. Cadwch y papur melyn, a’i ddangos yn olaf.

  4. Eglurwch fod gwyddonwyr yn dweud wrthym ni y gall lliwiau beri i ni yn wir deimlo rhai emosiynau:

    - gwyn - oerni
    - coch - cynhesrwydd, dicter
    - glas - hunanfeddiant, tangnefedd
    - oren - cynhesrwydd, hapusrwydd
    - gwyrdd - tawelwch a heddwch
    - du - tristwch
    - melyn - hapusrwydd a chwerthin.

    Gofynnwch i blant ddod i’r tu blaen yn eu tro a dal y darnau papur lliw. Gofynnwch i’ch cynulleidfa awgrymu gyda mynegiant eu hwyneb pa emosiwn y mae pob lliw yn ei gyfleu.

    Bob tro, gofynnwch i’r plant fynd yn eu hôl wedyn i’w lle i eistedd, ar wahân i’r plentyn olaf sy’n dal y papur melyn. Atgoffwch y plant o’r hyn a ddywedwyd eisoes yn gynharach yn y gwasanaeth am y lliw melyn - roedd yn debygol o fod wedi eu hatgoffa o heulwen, dyddiau braf, traethau, gwyliau ac wedi  gwneud iddyn nhw deimlo’n braf, yn hwyliog ac yn llawn cyffro ac ati. Nodwch fod mis Mehefin yn swyddogol yn fis cyntaf yr haf.

  5. Dangoswch yr wyneb hapus. Gofynnwch i’r plant pam maen nhw’n meddwl mai melyn yw’r wyneb. Eglurwch fod y lliw melyn a’r wên lydan wedi eu bwriadu er mwyn gwneud i bobl deimlo’n hapusach!

  6. Nodwch, pan fydd yr haul yn dod i’r golwg, mae pobl yn aml yn dweud eu bod yn teimlo’n hapusach. Ond waeth beth fydd y tywydd, fe all pob un ohonom ni wneud i bobl eraill deimlo hapusrwydd trwy’r ffordd y byddwn ni’n edrych arnyn nhw. Fe ddywedodd bardd anhysbys, ryw dro:

    ‘There are hundreds of languages in the world but a smile speaks them all.’ - Mae cannoedd o wahanol ieithoedd yn y byd, ond mae gwên yn siarad y cyfan ohonyn nhw.

    Mewn geiriau eraill, hyd yn oed os na allwn ni siarad yr un iaith â rhywun, mae hi’n bosib i ni roi gwybod iddyn nhw ein bod yn gyfeillgar trwy ‘siarad â nhw’ â gwên.

  7. Rhowch her i’r plant wneud pobl eraill yn hapus heddiw, trwy wenu arnyn nhw pan fyddan nhw’n eu gweld wrth fynd o gwmpas yr ysgol yn ystod y dydd. Fel hyn, fe allan nhw ddod â ‘heulwen’ i fywyd pobl eraill, hyd yn oed os nad yw’r tywydd yn braf!

    Ar y pwynt hwn, os byddwch yn dymuno gwneud hynny, fe allech chi roi sticer wyneb hapus i bob plentyn, i’w hatgoffa i wenu gwên heulog yn ystod y dydd.

Amser i feddwl

Meddyliwch am bobl sy’n eich gwneud chi’n hapus.

Meddyliwch am eu hwynebau. Pan fyddwch chi’n eu darlunio yn eich meddwl, fyddan nhw’n edrych yn drist, yn ddig, neu’n hapus? Os ydyn nhw’n bobl sy’n ein gwneud ni’n hapus, yn fwy na thebyg fe fydd y darluniau sydd gennym ohonyn nhw yn ein meddwl yn ddarluniau o bobl sy’n gwenu.

Sut ydych chi’n teimlo pan fyddwch chi’n gweld rhywun yn edrych yn ddig? Sut ydych chi’n teimlo pan fyddwch chi’n gweld rhywun yn gwenu arnoch chi?

Penderfynwch wenu heddiw ar y bobl y byddwch chi’n eu cyfarfod, fel y gallwch chi ddod â heulwen i’w bywyd a gwneud iddyn nhw deimlo’n hapus. Cofiwch:

Mae cannoedd o wahanol ieithoedd yn y byd, ond mae gwên yn siarad y cyfan ohonyn nhw.

Gweddi
Annwyl Dduw,
Diolch i ti am yr holl bobl sy’n dod â hapusrwydd i mi.
Rydw i’n meddwl yn benodol am  . . .(oedwch er mwyn i’r plant gael meddwl yn dawel am enw rhywun eu hunain).
Helpa fi i ddod â hapusrwydd i rywun arall hefyd.
Diolch ei bod hi’n bosib i mi ddod â hapusrwydd i rywun trwy wneud rhywbeth mor syml â gwenu.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Mehefin 2014    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon