Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Helo, Sgryffi! Iesu a'r plant

gan the Revd Sylvia Burgoyne

Addas ar gyfer

  • Dosbarth Derbyn / Cyfnod Allweddol 1

Nodau / Amcanion

Ystyried sut y gall plant helpu’r oedolion prysur sy’n gofalu amdanyn nhw, fel y bydd hi’n bosib iddyn nhw dreulio mwy o amser gyda’i gilydd wedyn.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen pyped llaw (hosan neu faneg) yn cymeriadu’r mul bach, o’r enw Sgryffi.
  • Wrth i’r gwasanaeth ddechrau, gofalwch bod Sgryffi’r pyped wedi ei roi’n barod am eich llaw.
  • Os hoffech chi ei defnyddio, trefnwch fod gennych chi recordiad o’r gân ‘Jesus' love is very wonderful’ gan Richard M. S. Irwin (ar gael i’w llwytho i lawr ar: https://play.hymnswithoutwords.com/?s=jesus+love+is+very+wonderful) a threfnwch fodd o’i chwarae ar ddiwedd y gwasanaeth.

Gwasanaeth

  1. Mae Sgryffi’r pyped yn cyfarch y plant. Anogwch y plant i godi eu llaw a dweud, ‘Helo, Sgryffi!’

    Os mai dyma’r tro cyntaf i’r plant weld Sgryffi, fe fydd angen i chi ddefnyddio’r cyflwyniad canlynol:

    Mae Liwsi Jên yn byw ar fferm gyda’i mam, Mrs Bryn, a’i thad Mr Bryn y ffermwr, a’i brawd bach, Tomos. Mae Liwsi Jên wrth ei bodd efo Sgryffi. Mae hi’n gofalu amdano. Mae hi’n mwynhau ei gwmni, ac mae’n siarad gyda Sgryffi’n aml iawn – pan fydd hi’n hapus, a phan fydd hi’n teimlo’n drist hefyd. Sgryffi yw ei ffrind gorau!

  2. Roedd hi’n fore Sadwrn glawog. Roedd Liwsi Jên wedi brwsio Sgryffi ac wedi rhoi ei frecwast iddo. ‘Allwn ni ddim mynd am dro y bore ’ma, Sgryffi,’ meddai hi wrtho, Mae’n rhy wlyb! Fe fydd yn rhaid i mi chwarae yn y ty. Mae’n debyg y byddwn i’n gallu paentio llun, neu efallai y gwnaiff Mam adael i mi  wneud bisgedi - fe fyddai hynny’n hwyl! Ond hefyd, mae gen i restr newydd  o eiriau eisiau dysgu sut i’w sillafu, felly fe wna i ofyn i Mam roi prawf i mi. Ie, dyna syniad da! Wela i di wedyn Sgryffi.’Ac yna fe redodd Liwsi Jên yn ei hôl i’r ty.

    Beth fyddwch chi’n hoffi ei chwarae ar ddiwrnod glawog?

  3. Doedd hi ddim yn hir wedyn cyn i Sgryffi glywed swn traed Liwsi Jên yn stampio ar draws y buarth gwlyb yn ei hesgidiau glaw. Caeodd Liwsi Jên ddrws y stabl yn glep ar ei hôl ac eistedd yn bwdlyd ar belen o wair yn ymyl Sgryffi.

    ‘Dydi hyn ddim yn deg!’ dywedodd. ‘Mae Mam yn dweud ei bod newydd lanhau’r gegin, felly dydi hi ddim yn fodlon i mi wneud llanast. Felly, chaf i ddim paentio, a chaf i ddim coginio. Mae hi’n dal yn brysur yn gorffen glanhau’r ty, felly does ganddi ddim amser i roi prawf sillafu i mi ar hyn o bryd, ac rydw i’n teimlo’n ddiflas iawn!’

    ‘Hi-ho! Hi-ho!’ cytunodd Sgryffi. Doedd yntau ddim yn hoffi dyddiau glawog ychwaith.

    A yw eich mam neu eich tad yn rhy brysur ambell dro i roi sylw i chi?

  4. Eisteddodd Liwsi Jên ar y belen wair yn teimlo’n druenus. Ond ar ôl ychydig funudau, fe gododd ar ei thraed yn sydyn, ac fe ddywedodd, ‘Mae gan Mam lawer o waith i’w wneud, a does gen i ddim i’w wneud. Wyt ti’n meddwl y dylwn i ofyn iddi gaf i ei helpu, Sgryffi?’

    ‘Hi-ho! Hi-ho!’ nodiodd Sgryffi.

    Roedd Liwsi Jên yn gwenu wrth iddi redeg yn ei hôl i’r ty.

  5. Wnaeth Sgryffi ddim gweld Liwsi Jên wedyn tan ganol y pnawn.

    ‘Rydw i wedi bod yn brysur iawn, Sgryffi, yn helpu Mam. I ddechrau, fe wnes i fy ngwely’n daclus, a chadw fy nheganau yn eu lle ar y silff ac yn y cwpwrdd. Fe wnes i chwarae efo Tomos wedyn er mwyn i Mam gael gorffen glanhau’r ty, ac wedyn fe wnes i roi menyn ar y bara i wneud brechdanau at amser cinio.’

    Sut gallwch chi helpu eich mam pan fydd hi’n brysur?

  6. ‘Dyfala be, Sgryffi? Ar ôl cinio, fe wnaeth Mam ddiolch i mi am ei helpu, ac fe ddywedodd pe byddwn i’n ofalus iawn fe fyddwn i’n cael eistedd wrth fwrdd y gegin i baentio llun.’

    llun beth ydych chi’n ei feddwl wnaeth Liwsi Jên ei baentio?

  7. Rydw i wedi bod mor brysur, wnes i ddim sylwi ei bod wedi stopio bwrw glaw! Rwyt ti wedi cael diwrnod diflas ac unig, Sgryffi bach, mae’n ddrwg gen i. Hoffet ti fynd am dro bach?’

    Cytunodd Sgryffi y byddai hynny’n syniad gwych. ‘Hi-ho! Hi-ho!’ nodiodd.

    Tynnwch y pyped oddi am eich llaw.

  8. Roedd Jacob a’i fam yn rhedeg ar hyd y ffordd. Roedden nhw wedi clywed bod Iesu yn adrodd storïau wrth y bobl ac yn iachau pobl sâl. Ond roedd y dyrfa mor fawr, doedd Jacob na llawer o fechgyn a merched bach yr un oed ag ef ddim yn cael gweld Iesu o gwbl. Meddyliodd y mamau y byddai’n beth da pe gallai’r plant fynd yn nes i’r tu blaen er mwyn gallu gweld Iesu, ac fe wnaeth rhai o’r oedolion wneud lle iddyn nhw fynd trwy’r dyrfa. Roedden nhw bron â chyrraedd y tu blaen pan ddechreuodd rhai oedolion weiddi arnyn nhw, a dweud wrthyn nhw am beidio â gwthio, a mynd yn ôl - onid oedden nhw’n gweld bod Iesu’n brysur? Roedd Jacob mor siomedig fel y dechreuodd grio.

    Yna, fe glywodd Jacob lais rhywun yn dweud fel hyn wrth y dynion, ‘Fe fyddwn i wrth fy modd yn gweld y plant. Peidiwch â’u rhwystro nhw ddod ymlaen.’ Llais Iesu oedd hwnnw, ac fe ofynnodd Iesu i’r bobl yn y dyrfa wneud lle i’r bechgyn a’r merched bach ddod ato.

    Wnaeth Jacob byth anghofio’r diwrnod hwnnw. Roedd yn gwybod bod y dyn hwn yn arbennig iawn.

    Ydych chi’n meddwl bod Iesu wedi dweud stori wrth y plant?

Amser i feddwl

Sut gallwch chi helpu eich mam a’ch tad, neu eich athro neu athrawes, pan fyddan nhw’n brysur?

Gweddi
Annwyl Iesu,
Rydw i’n falch dy fod ti’n fy ngharu i.
Diolch ei bod hi bob amser yn bosib i mi siarad â thi.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Gorffennaf 2014    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon