Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Mandela

Gwnewch rywbeth. Symbylwch newid. Gwnewch bob dydd yn Ddiwrnod Mandela (18 Gorffennaf)

gan Hannah Knight

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 2

Nodau / Amcanion

Dathlu geni Nelson Mandela, hybu cydraddoldeb, a’n hannog i greu gwell byd i bawb.

Paratoad a Deunyddiau

Gwasanaeth

  1. Dangoswch y ddelwedd gyntaf.

    Gofynnwch i’r plant, ‘Oes rhywun yn gallu egluro beth yw ‘rhagfarn?’, yna, ‘oes rhywun yn gallu egluro beth yw ‘cydraddoldeb’? Pam mae cydraddoldeb yn bwysig?’

  2. Ewch ymlaen â’r gweithgaredd sy’n dilyn, a fydd yn cymryd tua phum munud.

    Dewiswch bump o blant a rhoi lemon/ afal i  bob un. Yna gofynnwch i’r plant dreulio ychydig o amser yn dod i adnabod eu ‘ffrwyth’. Bydd y plant yn craffu ar y ffrwyth - yn ei arogli, ei gyffwrdd, ac yn ei daflu i’r awyr efallai, ac yn ei rowlio yn eu dwylo gan edrych yn fanwl arno.

    Ar ôl munud neu ddau, casglwch afalau/ lemonau i’ch basged a gofyn i’r plant wedyn ddod o hyd i’w afal/ lemon nhw. Mae’n bosib y bydd y rhan fwyaf o’r plant yn gallu dweud pa un oedd y ffrwyth oedd ganddyn nhw.

    Wedyn, gofynnwch i’r plant ddisgrifio sut roedden nhw’n gallu adnabod eu lemon/ afal. Efallai bod un ychydig yn fwy, gyda marc brown ar un pen iddo efallai, neu gyda chlais neu farc arall arno.

    Nawr, siaradwch am y ffaith bod pobl hefyd ychydig yn wahanol i’w gilydd, o ran maint, siâp a lliw, ac mae gan bob un ohonom wahanol ‘gleisiau neu farciau eraill’ arnom ninnau.
  3. Dangoswch yr ail ddelwedd..

    Dywedwch wrth y plant eich bod yn awr yn mynd i archwilio’r cwestiwn, ‘Beth yw rhagfarn?’

    Mae’r hyn a ddigwyddodd gyda’r lemonau neu’r afalau, yn gallu digwydd gyda phobl hefyd – ac mae’n dangos ein bod i gyd yn wahanol. Dyna fyd diflas fyddai hwn pe byddai pawb yn edrych yn union yr un fath!

    Meddyliwch am blant eich dosbarth. Mae pawb yn edrych yn wahanol i bob un arall. Efallai bod rhai yn dal, eraill yn fyr, mae rhai â gwallt brown, eraill â gwallt golau.

    Yn anffodus, mae’n bosib i bobl gael eu barnu dim ond oherwydd eu bod yn edrych yn wahanol. Ond ein dyletswydd ni yw gofalu am ein gilydd a gwerthfawrogi pob un yn ôl sut rai ydyn nhw ar y tu mewn nid yn ôl yr hyn rydyn ni’n ei weld ar y tu allan.

  4. Dangoswch y drydedd ddelwedd.

    Dywedwch wrth y plant fod arwr arbennig wedi ei eni ar ddyddiad neilltuol, sef 18 Gorffennaf.

    Ac mae 18 Gorffennaf yn cael ei ddathlu mewn sawl gwlad er mwyn atgoffa pobl am yr hyn a gyflawnodd yr arwr hwnnw - ei enw oedd Nelson Mandela.

    Dyn du oedd Nelson Mandela, yn byw yn Ne Affrica. Roedd yn credu na ddylai lliw croen pobl beri iddyn nhw gael eu trin yn wahanol.

    Pan oedd Nelson Mandela’n fachgen ifanc, roedd y rhan fwyaf o bobl ddu De Affrica yn bobl dlawd. Roedden nhw’n gweithio fel gweision ar ffermydd neu’n weithwyr mewn ffatrïoedd ac mewn mwyngloddiau aur.  Yn y dyddiau hynny, doedd pobl ddu a phobl wyn ddim yn cael priodi, na rhannu’r un bwrdd mewn bwyty, na hyd yn oed eistedd gyda’i gilydd ar y bws. Dychmygwch pe byddech chi ddim yn cael chwarae gyda rhai o’ch ffrindiau ar yr iard - dim ond am eu bod yn edrych ychydig yn wahanol i chi. Fe fyddai hynny’n annheg iawn.

    Roedd ar Mandela eisiau newid hynny. Roedd yn credu ei bod hi’n iawn i bawb gael yr un cyfleoedd mewn bywyd, waeth beth oedd lliw eu croen, ac fe fu’n brwydro am  27 mlynedd hyd nes y daeth ei freuddwyd am ‘gydraddoldeb’ yn wir.
  5. Dangoswch y bedwaredd ddelwedd.

    Roedd Mandela’n ddyn a safodd yn gadarn dros yr hyn roedd yn ei gredu.

    Cafodd ei anfon i garchar am yr hyn roedd yn ei gredu – am 27 mlynedd hir. Fe ddaeth i fod yn un o’r carcharorion mwyaf enwog yn y byd.

    Fe wnaeth dewrder a thrugaredd mawr Nelson Mandela i bobl sylweddoli nad oedd yn ddrwgweithredwr, ond yn hytrach yn rhywun a oedd eisiau helpu ei gyd frodyr.

    Wrth i’r blynyddoedd fynd heibio, roedd mwy a mwy o bobl yn galw ar y strydoedd am gael rhyddhau Nelson Mandela o’r carchar - ‘Free Nelson Mandela’. Ac o’r diwedd, yn 1988, fe ddechreuodd yr awdurdodau yn Ne Affrica wrando, a gwneud rhai newidiadau pwysig. Un newid mawr oedd gadael i blant du fynd i’r un ysgolion â phlant gwyn, fel y gallai’r holl blant gael addysg deg a hapus.

    Dangoswch y bumed ddelwedd.

    Roedd Nelson Mandela’n rhywun a oedd yn credu bod breuddwydion yn gallu dod yn wir.

    Pwy all egluro i mi beth yw ‘arlywydd’?

    Yn 1994, o’r diwedd, fe gafodd pobl ddu yr hawl i bleidleisio ynghylch yr arlywydd roedden nhw am ei ddewis. Felly, o’r diwedd, roedden nhw’n cael gwneud penderfyniadau ynghylch gweinyddiaeth eu gwlad. Allwch chi ddyfalu pwy oedd yr arlywydd du ei groen cyntaf yn Ne Affrica? Ie, yn wir - Nelson Mandela.
  6. Fe allwn ni i gyd ddysgu oddi wrth hanes Nelson Mandela. Wnaeth o ddim rhoi’r gorau i gredu o gwbl, hyn yn oed pan oedd pobl yn ei gosbi ac yn dangos casineb mawr tuag ato. Fe ganfyddodd ei freuddwyd, a’i dilyn i’r diwedd. Mae hynny’n dangos, os byddwch chi i gyd yn gweithio’n  galed – gan wneud y gwaith cartref mewn pryd, er enghraifft – ac yn caru ac yn parchu’r bobl sydd o’ch cwmpas chi (trwy efallai roi gwahoddiad i ffrind newydd chwarae â chi, neu trwy helpu eich rhieni gartref ) fe allwch chithau gyflawni eich breuddwydion a helpu i wneud y byd yn lle hapusach. Fe ddywedodd Mandela un tro, ‘We have all been put on this Earth together and it will be a better place for all, if we all work as a team.’Cawsom ein rhoi ar y Ddaear hon gyda’n gilydd, ac fe fydd yn well lle i bawb os gwnawn ni weithio fel tîm.

    Felly, yr haf hwn, ceisiwch wneud pob diwrnod yn Ddiwrnod Mandela.

Amser i feddwl

Caewch eich llygaid a meddyliwch am yr holl bethau sydd gennych chi i fod yn ddiolchgar amdanyn nhw yr haf hwn. Am fod yn ddiogel, am beidio â bod yn newynog, am eich ffrindiau ac am aelodau eich teulu sy’n eich caru, ac am fod yn ddigon lwcus i fod yn wahanol i bawb arall.

Cân/cerddoriaeth

Gimme hope, Jo’anna’gan Eddy Grant
House of exile’gan Lucky Dube

Dyddiad cyhoeddi: Gorffennaf 2014    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon