Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Ew! Mae'n boeth!

gan Alan M. Barker

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Ystyried effeithiau tywydd poeth, a hybu diogelwch personol a lles.

Paratoad a Deunyddiau

  • Mae’n bosib addasu’r gwasanaeth hwn i adlewyrchu arferion a pholisïau eich ysgol.
  • Fe allech chi ddefnyddio thermomedr mawr i ategu’r cyflwyniad, a het haul, eli haul, potel o ddwr, bocs bwyd gyda phecyn rhew, ond dewisol fyddai hynny.
  • Yn achos yr ysgolion eglwys fyddai’n dymuno defnyddio Cam 3, dangoswch yr adnodau perthnasol o’r Beibl, fel Salmau 42.1–2 a 121.5–6.

Gwasanaeth

  1. Os yw hynny’n briodol, gwnewch sylw tebyg i ‘Ew! Mae’n boeth’. Cyfeiriwch at y tymheredd, gan egluro i’r plant ieuengaf y gall ‘tymheredd’ olygu naill ai pa mor boeth neu pa mor oer yw rhywbeth. Darllenwch y thermomedr, os ydych chi’n defnyddio un. Pa mor boeth yw hi y tu mewn i’r adeilad? Pa mor boeth ydi hi y tu allan yn yr haul? Gofynnwch i’r plant, ‘Ar ba adeg o’r dydd y mae’r tymheredd uchaf?’

  2. Trafodwch effeithiau ton wres neu ‘heat wave’. Soniwch am y ffaith bod diffyg dwr yn peri i blanhigion wywo. Mae anifeiliaid yn ceisio dod o hyd i rywle i gysgodi rhag gwres yr haul. Mae cwn yn dyhefod (panting) i geisio cadw eu corff rhag mynd yn rhy boeth. Rhaid i’r rhai sy’n berchen ar anifeiliaid anwes gymryd gofal arbennig ohonyn nhw. (Dychmygwch redeg o gwmpas ar ddiwrnod poeth heb allu tynnu eich cot!) Ambell dro mae tanau mawr yn digwydd mewn ardaloedd yng nghefn gwlad - rhai wedi eu dechrau am fod pobl ddim wedi bod yn ddigon gofalus wrth gynnal barbeciw.

    Gofynnwch, ‘Sut mae gwres yn effeithio ar bobl?’ Trafodwch fod tymheredd uchel iawn yn gallu gwneud i bobl deimlo’n anghyfforddus, yn flinedig ac yn ddrwg eu hwyl. Fe fydd y croen yn chwysu er mwyn ceisio cadw’n glaear, ac wrth i’n corff golli dwr rydyn ni’n mynd yn sychedig. Mae’r haul yn gallu effeithio ar y croen yn sydyn iawn a pheri iddo fynd yn goch a dolurus, neu’r hyn a alwn ni’n ‘llosg haul’.

  3. Trafodwch mai dyma pam y dylai pawb, yn ystod tywydd poeth, fod yn ofalus iawn ohonyn nhw’u hunain a gofalu am eraill hefyd, Efallai y gallai’r pwyntiau canlynol fod yn sail i’r drafodaeth, ac yn ganllawiau i’w dilyn.

    - Yfwch ddiod o ddwr yn rheolaidd.
    - Gorchuddiwch eich corff â dillad ysgafn i rwystro eich croen rhag llosgi yn yr haul.
    - Gwisgwch het haul.
    - Defnyddiwch eli haul.
    - Chwiliwch am le cysgodol yn ystod amser chwarae allan.
    - Defnyddiwch becyn rhew yn eich bocs bwyd i gadw eich cinio’n ffres.
    - Rhowch wybod i un sy’n rhoi cymorth cyntaf os oes rhywun yn teimlo’n sâl neu’n benysgafn.
    - Cadwch yn dawel a chlaear!

    Mewn rhai lleoliadau efallai ei bod yn briodol rhybuddio’r plant hyn ynghylch peryglon nofio mewn afonydd, cronfeydd dwr a phyllau.

  4. Gallai aelodau cymuned ysgolion eglwys chwilio am eiriau sy’n gysylltiedig â thywydd poeth yn y ddwy Salm 42.1–2 (sychedu, dyfroedd rhedegog) a 121.5–6 (cysgod, haul yn taro). Tynnwch sylw at y ffaith y byddai awduron y Salmau’n gwybod yn iawn beth oedd tywydd poeth – ac yn gwybod pa mor bwysig fyddai cadw’n dawel a chlaear!

Amser i feddwl

Treuliwch amser yn bod yn llonydd.
Byddwch yn ddiolchgar am dywydd braf yr haf:
am yr heulwen gynnes a’r dwr rhedegog oer;
am awyr las ddigwmwl, a choed deiliog gwyrdd i roi cysgod i ni.
Treuliwch amser yn bod yn llonydd.

Dyddiad cyhoeddi: Gorffennaf 2014    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon