Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Symud ymlaen

gan Alison Thurlow

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Myfyrio ar amser y plant yn yr ysgol gynradd, ac annog agwedd gadarnhaol tuag at y ffaith eu bod (rhai ohonyn nhw) yn symud i ysgol uwchradd cyn hir.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen rhai sticeri i’w defnyddio fel gwobrau bach.
  • Efallai yr hoffech chi baratoi’r tablos ar gyfer Cam 2 y gwasanaeth.

Gwasanaeth

  1. Eglurwch y byddwch chi, yn y gwasanaeth heddiw, yn meddwl am symud ymlaen - oherwydd ym mis Medi, fe fydd y rhan fwyaf o’r plant naill ai’n symud i ddosbarth newydd neu i ysgol newydd. Gwnewch sylw o’r ffaith bod pobl yn aml yn edrych yn ôl, ac yn cofio pethau o’r gorffennol, pan fyddan nhw’n mynd i symud ymlaen, a dywedwch mai dyma rydych chi’n mynd i’w wneud yn gyntaf heddiw.

  2. Gofynnwch am ddau dîm o wirfoddolwyr o Flwyddyn 6 - pedwar neu chwech ym mhob tîm, efallai, yn dibynnu ar faint yr ysgol.

    Eglurwch i’r gwirfoddolwyr fod gennych chi gêm fach yr hoffech chi iddyn nhw ei chwarae - gêm a fydd yn eu helpu i edrych yn ôl ar eu hamser yn yr ysgol gynradd.

    Fesul un, rhowch y sefyllfaoedd canlynol i’r timau, a gofynnwch iddyn nhw ffurfio tablo ar gyfer pob un:

    - eich diwrnod cyntaf yn y Dosbarth Derbyn
    - drama Nadolig y gwnaethoch chi gymryd rhan ynddi pan oeddech chi yng Nghyfnod Allweddol 1
    - trip ysgol, neu daith wersylla
    - sefyll prawf ym Mlwyddyn 6.

  3. Gofynnwch i’r plant eraill guro’u dwylo mewn cymeradwyaeth i ddangos faint roedden nhw’n hoffi pob tablo - bydd y tîm sy’n derbyn y gymeradwyaeth fwyaf yn ennill y rownd honno. Ar y diwedd, diolchwch i’r rhai o Flwyddyn 6 sydd wedi cymryd rhan a rhowch sticer ffynci i bob un.

  4. Dywedwch ei bod yn dda - ac yn hwyl - cael edrych yn ôl ar gyfnod plant Blwyddyn 6 yn yr ysgol. Ychwanegwch eich bod yn awr yn mynd i feddwl am y plant hyn yn symud ymlaen i’w hysgol neu eu hysgolion newydd ym mis Medi, a meddwl tybed sut maen nhw’n teimlo am hynny. Dyma stori fach am fachgen o’r enw Kyle, a oedd ym Mlwyddyn 6.

    Stori Kyle

    Un ar ddeg oed oedd Kyle, ac roedd wedi bod yn yr un ysgol gynradd ers pan oedd yn 4 oed. Doedd Kyle ddim yn hoff iawn o brofion sillafu, ond ar wahân i hynny roedd wrth ei fodd yn yr ysgol gynradd fach lle’r oedd yn ddisgybl ynddi. Roedd yn teimlo ei fod yn adnabod pawb yn yr ysgol - y plant eraill, yr athrawon, y merched fyddai’n helpu amser cinio, y staff yn y swyddfa, a’r rhai oedd yn glanhau ac yn gofalu am yr ysgol.

    Roedd hi bron yn ddiwedd ei dymor cyntaf ym Mlwyddyn 6, ac roedd Kyle yn hapus yn meddwl am rai o’r pethau da roedd wedi eu gwneud yn ddiweddar yn yr ysgol. Meddyliodd am yr adeg pan enillodd y tîm pêl-droed y gwpan, a’r diwrnod gwyddoniaeth gyda’r glec enfawr yn y neuadd, cael bod ar gyngor yr ysgol ac, i goroni’r cyfan, cael mynd i wersylla gyda phlant eraill Blwyddyn 6!

    Ond wrth i Kyle ddechrau meddwl am adael yr ysgol a mynd i’w ysgol newydd ym mis Medi, fe ddechreuodd ei stumog gorddi, a phe bai’n onest fe fyddai’n cyfaddef ei fod yn teimlo fel crio weithiau. Fyddai ef ddim yn adnabod llawer o  blant eraill yn yr ysgol newydd. Fyddai pethau ddim yr un fath, a doedd o ddim yn siwr a oedd o eisiau symud ymlaen ar hyn o bryd.

    Chwe mis yn ddiweddarach, fe ddaeth Kyle oddi ar y bws a cherdded heibio ei hen ysgol ar ei ffordd adref. Fe ddaeth atgofion hapus yn ôl iddo, ond fe sylweddolodd nad oedd wedi hiraethu cymaint â hynny am ei hen ysgol wedi’r cyfan, fel yr oedd wedi meddwl y byddai’n ei wneud. Doedd hi ddim wedi cymryd llawer iawn o amser iddo ddod i arfer â’r ysgol newydd fawr, ac roedd wedi gwneud llawer o ffrindiau newydd. Roedd yn wir yn hoffi cael mwy o wahanol athrawon, ac roedd wrth ei fodd gyda rhai o’r pynciau newydd. ‘Doedd symud ymlaen ddim mor ddrwg â hynny, wedi’r cyfan’, dywedodd wrtho’i hun.

  5. Gofynnwch i’r plant oes unrhyw un yn teimlo eu bod ychydig yn debyg i Kyle yn y stori wrth iddyn nhw feddwl am symud ymlaen i’w hysgol neu eu dosbarth newydd ym mis Medi?

  6. Yn y Beibl, fe allwn ni ddarllen stori am ferch o’r enw Ruth. Roedd hi’n wraig ifanc, fe fu ei gwr farw’n ifanc ac roedd newyn yn y wlad lle'r oedd hi’n byw. Fe benderfynodd mam yng nghyfraith Ruth, sef Naomi, symud ymlaen i fyw mewn tref arall er mwyn ceisio dod o hyd i fwyd  a dechrau bywyd newydd. Fe wnaeth Ruth benderfyniad dewr a mynd gyda’i mam yng nghyfraith - gadael ei ffrindiau a mynd i fyw i wlad ddieithr. Pan wnaethon nhw gyrraedd yno, fe ddechreuodd Ruth weithio yn y caeau yd, ac fe gafodd groeso yno. Fe allwch chi ddarllen y stori yn y Beibl. A’r diwedd fu iddi briodi dyn o’r enw Boas ac fe gawson nhw fab bach a’i alw’n Obed. Ar ddiwedd y stori mae’n nodi bod yr Arglwydd wedi bendithio Ruth.

Amser i feddwl

Mae’n amlwg iddi fod yn anodd iawn i Ruth symud ymlaen i le arall, ond roedd hi’n gwybod y byddai Duw gyda hi, ac y byddai ef yn ei helpu. Fe fydd Cristnogion yn dweud yr un peth heddiw hefyd - efallai eu bod yn teimlo ychydig yn bryderus weithiau ynghylch symud ymlaen ac wynebu sefyllfaoedd newydd, ond maen nhw’n credu bod Duw gyda nhw ac y bydd yn eu helpu.

Wrth i chi symud ymlaen i sefyllfaoedd newydd ym mis Medi, cofiwch y bydd llawer o bobl yno i’ch helpu chi, ac os byddwch chi eisiau gwneud hynny, fe allech chi weddïo gweddi fach yn gofyn i Dduw fod gyda chi.

Gweddi
Dduw, Dad,
Bydd gyda ni wrth i ni symud ymlaen.
Helpa ni i edrych yn ôl a chofio’r adegau da rydyn ni wedi eu cael,
a helpa ni i edrych ymlaen at y dyfodol heb deimlo’n ofnus.
Gweddïwn yn enw Iesu.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Gorffennaf 2014    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon