Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Mae rhywun yn teimlo'n unig

Sut gallwn ni fod yn ffrindiau da i bobl sy’n teimlo’n unig?

gan Becky May

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 1

Nodau / Amcanion

Ystyried ymatebion priodol i unigrwydd ac annog y plant i fod yn ffrindiau da i eraill.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen pyped llaw (cymeriad dynol fyddai orau ar gyfer y sgript sydd yma, ond fe allech chi ddefnyddio unrhyw byped sydd ar gael gennych chi). Cuddiwch y pyped mewn bocs. Nodwch fod y pyped i gael ei ddefnyddio fel pe byddai’n ‘sibrwd’ – hynny yw, mae’r pyped yn cyfathrebu â’r pypedwr trwy ‘sibrwd’ yn ei glust ac yna mae’r pypedwr yn egluro i’r gynulleidfa beth sydd wedi cael ei ddweud.
  • Ar gyfer Cam 5 y gwasanaeth trefnwch fod gennych chi gopi o’r geiriau canlynol o Efengyl Mathew 25.35-40:

    “  Oherwydd bûm yn newynog a rhoesoch fwyd i mi, bûm yn sychedig a rhoesoch ddiod imi, bûm yn ddieithr a chymerasoch fi i’ch cartref; bûm yn noeth a rhoesoch ddillad amdanaf, bûm yn glaf ac ymwelsoch â mi, bûm yng ngharchar a daethoch ataf. Yna bydd y rhai cyfiawn yn ei ateb: ‘Arglwydd,’ gofynnant, ‘pryd y’th welsom di’n newynog a’th borthi, neu’n sychedig a rhoi diod iti? A phryd y’th welsom di’n ddieithr a’th gymryd i’n cartref, neu’n noeth a rhoi dillad amdanat? Pryd y’th welsom di’n glaf neu yng ngharchar ac ymweld â thi? A bydd y brenin yn eu hateb, ‘Yn wir, rwy’n dweud wrthych, yn gymaint ag ichwi ei wneud i un o’r rhai lleiaf o’r rhain, fy nghymrodyr, i mi y gwnaethoch.’
  • Os byddwch yn dymuno defnyddio’r gerddoriaeth ychwanegol, trefnwch fod gennych chi recordiad o’r gân, ‘Help me be your eyes Lord Jesus’ gan Doug Horley, oddi ar ei albwm Fandabidozzie  (Integrity Music, 2003), a’r modd o’i chwarae ar ddiwedd y gwasanaeth.

Gwasanaeth

  1. Bore da! Tybed sut rydych chi’n teimlo heddiw?

    Pethau diddorol yw teimladau, ydych chi’n cytuno? Un diwrnod fe allwch chi fod yn teimlo’n hapus neu’n llawn cyffro, ac ar ddiwrnod arall fe allwch chi fod yn teimlo’n drist neu’n anniddig. Heddiw, rydyn ni’n mynd i feddwl am deimladau.

  2. Gadewch i ni edrych yn y bocs a gweld beth sydd ynddo heddiw.

    Edrychwch yn y bocs.

    O, helo! Beth wyt ti’n ei wneud yma?

    Dewch â’r pyped allan araf a gofalus ar eich braich, gyda’i ben yn gwyro i lawr fel pe byddai’n teimlo’n isel ei ysbryd.

    Mae golwg trist iawn arnat ti heddiw, Beth sy’n bod?

    Mae’r pyped yn sibrwd yn eich clust.

    Dwyt ti ddim yn teimlo’n hapus iawn heddiw? Wel, beth sy’n dy boeni?

    Mae’r pyped yn sibrwd yn eich clust eto.

    O diar, mae’n ddrwg gen i glywed. Rwyt ti’n teimlo’n unig? Sut hynny?

    Mae’r pyped yn sibrwd yn eich clust.

    Wyt ti ddim yn gwybod?

    Mae’r pyped yn ysgwyd ei ben.

    Wel, pa bryd y gwnest ti ddechrau teimlo’n unig?

    Mae’r pyped yn sibrwd yn eich clust.

    Pan est ti i mewn i’r bocs?

    Mae’r pyped yn nodio ac yna’n sibrwd yn eich clust.

    Pam rwyt ti’n meddwl dy fod yn teimlo’n unig yn y bocs?

    Mae’r pyped yn sibrwd yn eich clust.

    Oherwydd dy fod ar ben dy hun bach? Wel, mae’n debyg bod hynny’n wir mewn ffordd. Ond edrych, dwyt ti ddim ar ben dy hun erbyn hyn – rydyn ni i gyd yma efo ti!

    Mae’r pyped yn sibrwd yn eich clust.

    Ond rwyt ti’n dal i deimlo’n unig?

    Mae’r pyped yn nodio.

    Pam rwyt ti’n dal i deimlo’n unig?

    Mae’r pyped yn sibrwd yn eich clust.

    Am nad wyt ti’n adnabod unrhyw un, ac mae pawb yn syllu arnat ti? Wel, mae pawb eisiau dy weld di. Rwyt ti’n westai arbennig yn ein gwasanaeth heddiw! Aros di, rwy’n credu y bydd y plant yma’n gallu meddwl am rai pethau y gallen nhw eu gwneud i dy helpu di rhag teimlo’n unig. Beth ydych chi’n feddwl blant?

    Anogwch y plant i godi eu dwylo pan fydd ganddyn nhw syniad i’w rannu, a pharhewch y rhyngweithio rhwng y plant â’r pyped fel mae’n briodol.

  3. Pan fyddwch chi’n barod i ddod â’r sgwrsio i derfyn dywedwch fel a ganlyn:

    Wel, rwy’n falch dy fod yn teimlo’n well erbyn hyn. Wyt ti’n meddwl y byddi di’n iawn os ei di’n ôl i’r bocs? Da iawn! Dywed ‘Hwyl Fawr’ wrth y  plant. Hwyl Fawr.

    Mae’r pyped yn codi ei law i ffarwelio ac yn mynd yn ei ôl i’r bocs.

  4. Rydych chi wedi meddwl am syniadau da iawn heddiw. Tybed allwch chi feddwl am un cwestiwn arall sydd gen i. Beth ydych chi’n ei feddwl oedd gan Iesu i’w ddweud ynghylch gofalu am bobl oedd yn teimlo’n unig?

    Yn y Beibl, mae cyfarwyddiadau gan Iesu ynghylch y ffordd y dylem ni ofalu am bobl sy’n cael eu cau allan, sydd ddim yn perthyn i grwpiau poblogaidd, neu sy’n gweld bywyd yn anodd.

  5. Naill ai darllenwch y darn o Efengyl Mathew 25.35-40 eich hunan, neu gwahoddwch rywun arall i wneud hynny.

    Mae cyfeiriad at lawer o wahanol grwpiau o bobl yn y darn. Efallai na wnewch chi byth gyfarfod rhywun sydd mewn carchar, neu sydd heb ddim i’w fwyta neu i’w wisgo, ond yn sicr fe wnewch chi gyfarfod pobl sy’n teimlo eu bod yn cael eu gadael allan o weithgareddau ac sydd angen ffrind a fydd yn eu cefnogi a’u cynnal.

Amser i feddwl

Gadewch i ni ymdawelu a bod yn hollol ddistaw, fel y gallwn ni feddwl am y bobl hynny rydyn ni’n gwybod amdanyn nhw sy’n teimlo’n unig. Efallai bod rhywun yn eich dosbarth neu yn eich teulu. Sut gallwch chi fod yn ffrind da i’r bobl hynny a’u helpu i sylweddoli nad ydyn nhw ar ben eu hunain, ond bod rhywun yn meddwl amdanyn nhw ac yn gofalu amdanyn nhw?

Gweddi
Annwyl Dduw,
Diolch dy fod ti gyda ni bob amser a byth yn ein gadael ar ben ein hunain.
Helpa ni i gadw ein llygaid ar agor i sylwi pan fydd ar bobl eraill angen ffrind i fod yn gwmni iddyn nhw ac i ofalu amdanyn nhw.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Medi 2014    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon