Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Y goeden ddiolch

Diolch am y cynhaeaf

gan Janice Ross

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 1

Nodau / Amcanion

Annog y plant i werthfawrogi’r cynhaeaf.

Paratoad a Deunyddiau

  • Ysgrifennwch ‘5 y dydd’ ar fwrdd gwyn a’i osod fel bydd y plant i gyd yn gallu ei weld.
  • Trefnwch fod gennych chi ddelwedd o’r poster ‘Give me 5’ sydd i’w weld ar y wefan: www.comiccompany.co.uk/?category=22&collection=199 a’r modd o’i ddangos yn ystod y gwasanaeth (dewisol).
  • Fe fydd arnoch chi angen brigyn coeden neu gasgliad o frigau mân i’w gosod yn sefyll i fyny’n unionsyth.
  • Torrwch allan rai siapiau o ffrwythau a llysiau – afal, oren, ceirios, grawnwin, moron, codennau pys ac ati – a chlymwch ddarn o gortyn neu edafedd wrth bob un.

Gwasanaeth

  1. Arweiniwch sylw’r plant at y geiriau ‘5 y dydd’ sydd wedi eu hysgrifennu ar y bwrdd gwyn. Gofynnwch ydyn nhw wedi gweld y geiriau hyn yn rywle arall, neu wedi eu clywed, a holwch at beth mae’n cyfeirio.
    Atgoffwch y plant am fanteision bwyta amrywiaeth o bump o ffrwythau a llysiau bob dydd – am y fitaminau a’r mwynau a’r ffibr sydd ynddyn nhw, a pha mor bwysig yw bwyta’r math hwn o fwyd er mwyn cadw’n iach, a pha mor flasus ydyn nhw hefyd, ac ati.

    Dangoswch y poster ‘Give me 5’ os byddwch chi am ei ddefnyddio, a gofynnwch i rai gwirfoddolwyr nodi’r gwahanol bethau sydd arno.

    Faint o’r plant fyddai’n ei chael hi’n hawdd bwyta pump o ffrwythau a llysiau gwahanol? Anodd? Faint sy’n hoffi ffrwythau a faint sy’n hoffi llysiau?

  2. Ewch ati i gynnal cwis bach tebyg i’r hyn a ganlyn gyda’r plant i weld faint maen nhw’n ei wybod am ffrwythau a llysiau.

    (a) Pa fath o ffrwyth yw ‘Granny Smith’?
    (b) Enwch dri ffrwyth sy’n tyfu’n dda yng ngwlad heulog Sbaen.
    (c) Pa ffrwyth sydd mewn pyjamas ar raglen deledu i blant? (Banana.)
    (d) Pa lysieuyn sy’n cael ei gysylltu â Chymru? (Cenhinen.)
    (e) Enwch dri llysieuyn gewch chi mewn salad.
    (f) Ai ffrwyth neu lysieuyn yw riwbob? (Llysieuyn.)
    (g) Mae pobl yr Alban yn hoffi bwyta ‘neeps and tatties’.Ydych chi’n gwybod pa lysiau yw’r rhain? (Maip a thatws.)
    (h) Faint o hadau sydd mewn pomgranad? (Yn ôl traddodiad Iddewig, 613.)

  3. Eglurwch nad oes prinder ffrwythau a llysiau yn ein gwlad ni y dyddiau hyn. Mae’n bosib i’r rhai dydyn ni ddim yn gallu eu tyfu yn y wlad hon gael eu mewnforio o wledydd mor bell â De Affrica neu Seland Newydd. Rydyn ni’n lwcus ein bod yn gallu cael ffrwythau a llysiau i’w bwyta ar hyd y flwyddyn.

    A’r adeg hon o’r flwyddyn rydyn ni’n diolch yn benodol am y cynhaeaf o ffrwythau a llysiau a fydd wedi tyfu yn y caeau o’n cwmpas. Er mwyn ein helpu i werthfawrogi’r rhoddion rhyfeddol hyn, rydyn ni’n mynd i greu ‘Coeden Ddiolch’.

  4. Mae rhai ffrwythau’n tyfu ar goed, rhai eraill yn tyfu ar lwyni. Mae’r rhan fwyaf o lysiau’n tyfu yn y ddaear neu mewn tybiau, ond, heddiw, rydyn ni’n mynd i’w hongian ar goeden er mwyn gwerthfawrogi cymaint o wahanol ffrwythau a llysiau sydd i’w cael!

    Dangoswch y siâp afal. Gofynnwch i blentyn nid yn unig nodi beth ydyw, ond hefyd i roi gair i’w ddisgrifio - fel ‘crensiog’ neu ‘blasus’ Eglurwch fod ‘crensiog’ yn air sy’n disgrifio’r afal neu’n dweud sut un yw’r afal - fe fyddwn ni’n galw gair sy’n disgrifio yn ‘ansoddair’.

    Gosodwch yr afal ar y goeden, gan ddweud, ‘Diolch, Dduw, am afal crensiog.’ Ewch trwy’r un drefn gyda phob un o’r siapiau sydd gennych chi, yr oren, ceirios, grawnwin ac ati.

    Ar ôl i chi hongian pedair eitem ar y brigau, gofynnwch oes rhywun yn gallu cofio’r ansoddeiriau y gwnaethoch chi eu dewis i ddisgrifio’r ffrwythau a’r llysiau a rhestrwch nhw yn eu trefn.

    ‘Diolch, Dduw, am afalau crensiog, am orenau suddog, am geirios sgleiniog  . . .’ 

    Gwnewch hyn eto ar ôl hongian chwe eitem ar y goeden.

  5. Awgrymwch y byddai’n bosib arddangos y Goeden Ddiolch rywle yn yr ysgol i’n hatgoffa ni i fod yn ddiolchgar am adeg y cynhaeaf. Rhowch dasg i’r plant ychwanegu at y goeden yn ystod y dyddiau sydd i ddod trwy hongian lluniau pob math o eitemau gwych y cynhaeaf arni.

    Fel gweithgaredd iaith ymestynnol, fe allai’r plant ysgrifennu eu penillion rhestr eu hunain gan ddefnyddio’r fframwaith canlynol:

    Llinell 1: ‘Diolch Dduw am’
    Llinell 2: enw + ansoddair, fel ‘orenau suddog’
    Llinell 3: syniad pellach, fel ‘yn llifo dros fy ngên’ neu ‘yn fy adfywio ar hanner amser mewn gêm bêl droed’.

Amser i feddwl

Dychmygwch eich hoff ffrwyth neu hoff lysieuyn. Ydych chi’n gallu ei weld yn eich meddwl, ei arogli, a’i flasu?
Pa eiriau fyddech chi’n eu defnyddio i’w ddisgrifio?

Gweddi
Annwyl Dduw,
Rydyn ni’n diolch i ti am afalau crensiog, orenau suddog, ceirios sgleiniog . . .
Diolch i ti am y cynhaeaf a diolch bod y cynhaeaf yn beth mor dda i ni.
Amen.

Cân/cerddoriaeth

Canwch un o’ch hoff emynau diolchgarwch am y cynhaeaf.

Dyddiad cyhoeddi: Medi 2014    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon