Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Cyfrif stoc

Rosh Hashanah

gan Janice Ross

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 2

Nodau / Amcanion

Dathlu’r daith tuag at gorff, meddwl a chalon iach, a meddwl mwy am ein cyfrifoldeb tuag at eraill.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen clipfwrdd, papur, pensil neu feiro, a chyfrifiannell, ynghyd â phentyrrau o ‘stoc’ o bethau fel papur argraffu, llyfrau nodiadau, bocsys o bensiliau neu binnau ffelt a phethau felly, ar fwrdd yn y tu blaen.
  • Os bydd amser yn caniatáu, trefnwch i ddau neu dri gwirfoddolwr ddod ymlaen i ‘gyfrif stoc’.
  • Ysgrifennwch y pedwar cwestiwn a’r atebion sydd i’w gweld yng Ngham 3 y gwasanaeth hwn, er mwyn eu harddangos, a threfnwch ddau blentyn i fod yn barod i ddarllen y rhain.
  • Dewiswch gerddoriaeth Iddewig nodweddiadol, neu gân allan o’r ffilm Fiddler on the Roof,  i’w chwarae wrth i’r plant fynd allan o’r gwasanaeth.

Gwasanaeth

  1. Trefnwch eich pentyrrau o ‘stoc’ ar y bwrdd. Dewch i mewn yn cario clipfwrdd, gyda phapur, pensil neu feiro a chyfrifiannell.

    Ymddiheurwch i’r plant eich bod ychydig yn brysur heddiw. Rydych chi’n cyfrif stoc ar ddechrau’r flwyddyn ysgol newydd.

    Eglurwch fod ‘cyfrif stoc’ yn ymwneud â nodi’r nifer o bob math o bethau y mae ar yr ysgol eu hangen ar gyfer eu defnyddio yn ystod y flwyddyn ysgol. Gofynnwch i’r plant oes rhywun wedi clywed am hyn o’r blaen - efallai bod rhieni rhai o’r plant yn gweithio mewn gwaith lle mae angen iddyn nhw gyfrif y stoc yno, fel er enghraifft mewn siop, efallai. Mae cyfrif stoc yn debyg i waith gwirio blynyddol.

    Dywedwch wrth y plant eich bod wedi gorffen cyfrif y byrddau a’r cadeiriau, y silffoedd a’r cypyrddau, a’r deunyddiau glanhau, a nawr rydych chi eisiau cyfri’r deunyddiau ysgrifennu ac ati. Fel y mae’r plant yn gweld, mae’n waith mawr.

    Os yw’r amser yn caniatáu, gofynnwch i rai o’r plant ddod atoch chi i’r tu blaen i’ch helpu chi gyfrif yr eitemau sydd gennych chi.

  2. Awgrymwch fod cyfrif neu gymryd stoc o’n bywydau’n beth pwysig hefyd. Mae cymryd stoc yn y synnwyr hwn yn golygu ystyried o ddifrif sut rydyn ni’n byw ein bywyd. Eglurwch fod y deintydd yn hoffi ein gweld ni’n rheolaidd er mwyn gallu gweld bod ein dannedd ni’n gryf ac yn iach. Ac fe fydd pobl oedrannus yn cael eu hannog i ymweld â’u meddyg yn flynyddol er mwyn cadw golwg ar gyflwr eu hiechyd, ac mae canolfannau chwaraeon hefyd yn gallu cynnig sesiynau i archwilio lles corfforol eu haelodau.

  3. Mae cymryd stoc yn rhywbeth sy’n cael ei arfer mewn sawl crefydd hefyd. Ac mae hynny’n rhywbeth sy’n digwydd nid i weld pa mor ffit ydyn nhw’n gorfforol, ond yn hytrach er mwyn gweld sut maen nhw ar y tu mewn. Mae’n ymwneud ag ystyried ac adolygu agweddau’r galon, eu perthnasoedd, eu taith ffydd, a’u gobaith a’u breuddwydion. Mae’r rhan fwyaf o grefyddau’n trefnu gwyliau arbennig i wneud hyn. Fe fydd hyd yn oed pobl sydd ddim yn dilyn unrhyw grefydd yn gwneud hyn ar ddechrau Blwyddyn Newydd.

  4. Ddiwedd mis Medi eleni, fe fydd pobl sy’n dilyn y ffydd Iddewig yn dathlu’r wyl Rosh Hashanah.

    Maen nhw’n neilltuo’r amser hwnnw i ystyried eu hunain, o flaen Duw, a ‘chymryd stoc’ o’u bywyd a’u hymddygiad. Mae hyn yn digwydd dros ddau ddiwrnod, ac mae pob Iddew yn treulio amser yn ystyried y cwestiynau mawr canlynol.

    Bydd y ddau blentyn yn darllen yn uchel y cwestiynau a’r atebion canlynol.

    Plentyn 1
    Cwestiwn 1: Beth yw’r peth pwysicaf yn fy mywyd?
    Wel, wrth i mi aros a meddwl am y cwestiwn hwn, mae’n debyg y byddwn i’n dweud fy nheulu, fy ngwaith a’m gyrfa.

    Plentyn 2 Beth am eich iechyd, beth am eich cred?

    Plentyn 1 Mm. Cwestiwn 2: Pwy yn fy mywyd, sy’n golygu mwyaf i mi? Pa mor aml rydw i’n gadael iddyn nhw wybod hyn? Mae hwn yn ddigon hawdd ei ateb. Fy ngwraig, wrth gwrs, fy rhieni, a fy nheulu.

    Plentyn 2 Ond, beth am ail hanner y cwestiwn? Pa bryd oedd y tro diwethaf i chi ddangos eich gwerthfawrogiad. A thrwy hynny rydw i’n golygu nid dim ond trwy brynu anrheg pen-blwydd!

    Plentyn 1 Mae’n debyg y gallwn i fod ychydig yn fwy gwerthfawrogol. Wedi’r cyfan, mae fy ngwraig yn gwneud y lasagne mwyaf bendigedig! Nawr, am y cwestiwn nesaf. Cwestiwn 3: Beth yw’r pethau mwyaf arwyddocaol rydw i wedi eu cyflawni yn ystod y flwyddyn ddiwethaf? Y pethau sy’n dod i fy meddwl ar unwaith yw cael dyrchafiad yn fy swydd, wedi prynu car newydd, ac fe gawson ni fab bach (ond mae’n debyg mai fy ngwraig a wnaeth y rhan fwyaf o’r gwaith caled gyda hynny!) O, ac fe wnaeth fy nhîm i ennill yn yr ornest golff hefyd!

    Plentyn 2 Ond beth am eich perthynas â’ch cymdogion, a’ch diddordeb mewn pobl sy’n anghenus yn y byd a’ch gofal amdanyn nhw? A beth am eich gofal am y Ddaear rydych chi i fod i ofalu amdani?

    Plentyn 1 Cwestiwn 4: Beth rydw i’n gobeithio ei gyflawni yn y flwyddyn sydd i ddod, ac yn fy mywyd yn gyffredinol?
    Rwy’n meddwl y bydd yn rhaid i mi ystyried y cwestiwn hwn yn fwy dwys. Rwy’n siwr y byddai gennych chi lawer o syniadau da! Mae’n cymryd amser i feddwl am gwestiynau mawr bywyd, ond mae’n bwysig iawn ein bod yn gofyn y cwestiynau hyn.

Amser i feddwl

Mae dechrau blwyddyn ysgol newydd yn amser da i feddwl am bethau fel hyn.

Dewiswch un o’r cwestiynau a ofynnwyd gan y plant ar y dechrau er mwyn cael meddwl sut i ymateb iddo. Meddyliwch am hynny yn ystod y dyddiau nesaf.

Gweddi
Annwyl Dduw,
Rwyt ti’n gwybod fod bywyd yn gallu bod yn brysur iawn i ni i gyd, yn enwedig nawr bod tymor ysgol newydd wedi dechrau eto.
Fe fydd sawl sialens o’n blaen, sawl terfyn amser i weithio tuag ato, a sawl targed i’w gyrraedd.
Helpa ni i wneud amser i feddwl yn fwy dwys am y cwestiynau mawr hyn, fel y byddi di’n fodlon gyda’r math o fywyd y byddwn ni’n ei fyw.
Amen

Cân/cerddoriaeth

Chwaraewch y gerddoriaeth Iddewig rydych chi wedi ei dewis os hoffech chi.

Dyddiad cyhoeddi: Medi 2014    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon