Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Gosod seiliau cadarn

gan Alison Thurlow

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Meddwl am y math o bethau a fydd yn helpu’r plant i gael blwyddyn dda a llwyddiannus.

Paratoad a Deunyddiau

  • Dewisol yw’r eitem hon a’r deunyddiau dilynol. Paratowch ddelwedd addas i gyd-fynd â dameg y ddau dy – fel yr un sydd i’w chael ar y wefan:  http://kingdomnewtestament.files.wordpress.com/2012/04/wise-and-foolish-builders-by-danny-halbohm1.jpg– a threfnwch fodd o arddangos y ddelwedd pan fydd y stori’n cael ei hadrodd yng Ngham 3 y gwasanaeth.
  • Paratowch ddelwedd arall yn dangos y rhestr o awgrymiadau ynghylch beth fyddai’n sylfeini cadarn. Gwelwch adran ‘Amser i feddwl’ y gwasanaeth.
  • Paratowch drydedd delwedd gyda geiriau’r limrig Saesneg sydd i’w gweld yn adran 'Gweddi' y gwasanaeth hwn.
  • Trefnwch fod gennych chi siart troi a phin ffelt er mwyn gallu nodi rhai o awgrymiadau’r plant ar gyfer sylfeini cadarn yng Ngham 4 y gwasanaeth.
  • Os byddwch yn dymuno gwneud hynny, ymgyfarwyddwch â’r gân ‘Brick by brick’ gan Steve Morgan-Gurr,Spring Harvest: Kids Praise Party(ICC, 1999, llyfr a/ neu CD) neu’r gân ‘The wise man built his house upon the rock’, sydd ar gael ar y wefan: www.worshipworkshop.org.uk/songs-and-hymns/hymns/the-wise-man-built-his-house-upon-the-rock

Gwasanaeth

  1. Cyflwynwch y gwasanaeth trwy ddweud wrth y plant eich bod, oherwydd ei bod yn ddechrau blwyddyn ysgol newydd, yn mynd i dreulio ychydig o amser yn meddwl am rai o’r pethau a allai eu helpu i gael blwyddyn dda a llwyddiannus. Gofynnwch i bob plentyn droi at y plentyn agosaf ato a siarad gyda’i gilydd am rai o’r pethau y maen nhw’n edrych ymlaen ato. Gwrandewch ar rai o’u hatebion.

  2. Gofynnwch i’r plant droi eto at eu partneriaid a siarad am rai o’r pethau hyn y maen nhw’n gobeithio’u cyflawni, neu wneud yn well ynddyn nhw, eleni. Eto, gwrandewch ar rai o’r atebion.

  3. Amlygwch ei fod bob amser yn beth da cael uchelgais a nod i gyrraedd ato. Eglurwch i’r plant eich bod yn awr yn mynd i adrodd stori iddyn nhw o’r Beibl, sy’n cynnwys cyngor da, ac fe allai cyngor o’r fath eu helpu hwythau i gyrraedd eu nod.

    Dameg yr adeiladwr doeth a’r adeiladwr ffôl

    Dangoswch y ddelwedd gyntaf, os byddwch chi’n defnyddio’r delweddau a nodir yn yr adran ‘Paratoad a deunyddiau’.

    Adroddodd Iesu stori i’w ffrindiau am ddau ddyn. Roedd y ddau ddyn yn dymuno adeiladu ty iddyn nhw eu hunain.

    Roedd y dyn cyntaf yn ddyn doeth iawn. Fe ddewisodd ef adeiladu ei dy ar graig. Roedd hynny’n waith caled iawn – tyllu i mewn i’r graig i osod sylfaen i’r ty. Ond pan oedd wedi gorffen y gwaith adeiladu, roedd y ty yn edrych yn wych, ac roedd y dyn yn falch iawn o’i waith.

    Yn fuan wedyn fe ddaeth storm enfawr. Arllwysodd glaw mawr a chwythodd corwyntoedd cryf yn erbyn y ty. Ond doedd hynny ddim yn broblem. Fe safodd y ty hwn, a oedd wedi ei adeiladu ar y graig, yn gadarn iawn. Doedd dim difrod wedi digwydd iddo oherwydd y storm.

    Ond doedd yr ail ddyn, fodd bynnag, ddim mor ddoeth. Roedd ef wedi adeiladu ei dy ar y tywod. Gwaith hawdd iawn oedd tyllu’r tywod i osod sylfaen i’r ty – llawer haws na thyllu i’r graig. Oherwydd hyn roedd yr ail ddyn wedi gorffen adeiladu ei dy ef yn gyflym iawn. Roedd y ty hwn hefyd yn edrych yn wych, ac roedd yr ail ddyn hefyd yn falch iawn o’i waith.

    Ond, pan ddaeth y storm fawr, fe arllwysodd y glaw mawr ac fe chwythodd y corwyntoedd cryf yn erbyn y ty hwn hefyd. Fe siglodd y ty a simsanu, ac ymhen ychydig fe gwympodd i’r llawr yn llanast llwyr.

    Dywedodd Iesu wrth ei ffrindiau, pe bydden nhw’n gwrando arno ef, ac yn gwneud y pethau yr oedd ef yn dweud wrthyn nhw am eu gwneud, fe fydden nhw fel y dyn doeth ac yn adeiladu eu bywyd ar sylfaen gadarn.

  4. Gofynnwch i’r plant beth maen nhw’n feddwl sy’n bosib iddyn nhw ei ddysgu o’r ddameg hon.

    Awgrymwch ei bod yn bwysig i bawb gael sylfeini cryf a chadarn yn eu bywyd. Gofynnwch am awgrymiadau beth tybed allai’r sylfeini hynny fod. Fe allech chi nodi’r awgrymiadau ar y siart troi.

Amser i feddwl

Diolchwch i’r plant am eu hawgrymiadau da, a dywedwch wrthyn nhw eich bod wedi bod yn meddwl pa fath o sylfeini cadarn a fyddai’n dda iddyn nhw eu cael er mwyn eu helpu i gael blwyddyn dda a llwyddiannus. Dyma’r tri syniad rydych chi wedi meddwl amdanyn nhw:

Dangoswch yr ail ddelwedd, os byddwch chi’n ei defnyddio

– chwiliwch am ffrindiau da y gallwch chi eu trystio ac a fydd yn driw i chi
– peidiwch â chadw eich pryderon i chi eich hunan – cofiwch, bob amser, sgwrsio â rhywun am rywbeth sy’n eich gofidio
–(os bydd hynny’n briodol)ceisiwch ddarllen rhagor o storïau o’r Beibl oherwydd eu bod yn aml yn cynnwys cyngor da iawn.

Gweddi
Eglurwch, oherwydd ei bod yn stori mor dda, mae gennych chi limrig Saesneg sy’n crynhoi’r cyfan, ac fe hoffech chi ei darllen i’r plant/ neu fe allech chi ei darllen gyda’ch gilydd cyn i chi ddarllen y weddi.


Dangoswch y drydedd ddelwedd, os byddwch chi’n dymuno ei defnyddio, sef geiriau’r limrig Saesneg:

One house with foundations dug squarely
And one house built all willy-nilly.
When the storms came along
The first house stood strong
But the second collapsed like a jelly!

(Lucy Moore, The Gospels Unplugged, BRF, 2008)

Dduw, Dad,
Helpa ni i adeiladu ein bywydau ar sylfeini cadarn
a chael blwyddyn dda a llwyddiannus.
Rydyn ni’n gofyn hyn yn enw Iesu.
Amen.

Cân/cerddoriaeth

Fe allech chi chwarae’r gerddoriaeth ‘The wise man built his house upon the rock’ i’r plant, os hoffech chi. (Gweler yr adran ‘Paratoad a defnyddiau’.)

Dyddiad cyhoeddi: Medi 2014    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon