Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Enfys y cynhaeaf

gan Alan M. Barker

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Dathlu gwahanol liwiau, siapiau a blas ffrwythau’r cynhaeaf.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen amrywiaeth o ffrwythau sy’n adlewyrchu lliwiau’r enfys, er enghraifft:
    - ar gyfer coch - llond bowlen o fefus, ac afal coch
    - ar gyfer oren - satsumas neu clemenentines, ac oren fwy
    - ar gyfer melyn - melon melyn, a banana a lemon
    - ar gyfer gwyrdd - afal coginio mawr gwyrdd ac afalau Granny Smith, a ffrwythau ciwi, efallai
    - ar gyfer glas neu indigo - llus mawr (blueberries) ar ddysgl las
    - ar gyfer porffor - grawnwin porffor ac eirin tywyll.
  • Fe fydd arnoch chi angen bwrdd hefyd sydd o uchder addas ar gyfer arddangos, wedi ei orchuddio â lliain glas.
  • Crëwch ddelwedd gyda’r geiriau ‘Enfys y Cynhaeaf’ arni, a ffotograff neu ddarlun o enfys hefyd, yn ogystal â geiriau’r adnod o Genesis 8.22, os byddwch am eu defnyddio. Trefnwch fodd o arddangos y ddelwedd yn ystod y gwasanaeth.

Gwasanaeth

  1. Cyflwynwch y gwasanaeth trwy ddweud eich bod wedi dod ag enfys gyda chi i’w rhoi yn arddangosfa’r cynhaeaf. Nid y math o enfys y byddech chi’n ei gweld yn yr awyr yw hon, ond un sydd â’r un math o liwiau amrywiol ynddi. Mae’r enfys hon yn arbennig oherwydd yn wahanol i enfys go iawn, fe allwch chi gyffwrdd hon a’i blasu hyd yn oed! Dyma enfys y cynhaeaf.

  2. Gofynnwch i’r plant eich helpu i lunio’r enfys. Eglurwch mai lliw cyntaf yr enfys yw coch. Gwahoddwch y plant i feddwl am rai ffrwythau coch a dechreuwch greu’r arddangosfa ar y bwrdd o’ch blaen trwy ofyn i’r plant osod y mefus a’r afal coch ar y lliain glas yng nghornel chwith y bwrdd.

    Daliwch ati gyda’r orenau, y melon melyn, y bananas y lemon a’r afalau gwyrdd ac ati, gan eu gosod yn nhrefn y lliwiau fel byddwch chi’n ffurfio enfys y cynhaeaf. Cyfeiriwch at y ffaith nad oes llawer o ffrwythau lliw glas nac indigo, ond cyflwynwch y ddysglaid o lus mawr (blueberries) ac, yn olaf, y ddau liw porffor gwahanol gyda’r grawnwin a’r eirin tywyll.

  3. Wrth i chi wneud hyn, treuliwch amser yn cyflwyno’r ffrwythau fesul un yn eu tro. Nodwch eu gwahanol siâp a maint. Gyda phlant hyn, fe allech chi drafod ble mae’r rhain yn tyfu.

  4. Sylwch mor lliwgar yw enfys y cynhaeaf – a pha mor iachus, hefyd! Mae ffrwythau’n flasus i’w bwyta ac yn dda ar ein lles.

    Mae’r ffrwythau’n cynnwys y ffibr a’r fitaminau ffres rydyn ni eu hangen er mwyn cadw ein corff yn gryf ac yn iach.

  5. Mewn ysgol eglwys, fe allech chi fynd ymlaen i egluro bod Cristnogion, ar adeg y cynhaeaf, yn cofio am yr enfys y mae sôn amdani yn stori Noa.

    Dangoswch y ddelwedd gyda’r enfys sydd wedi ei llunio yn ôl y cyfarwyddiadau yn yr adran ‘Paratoad a deunyddiau’.

    Roedd yr enfys honno’n arwydd o ofal Duw am y byd. Roedd yn mynegi patrymau natur ac roedd pobl yn cofio’r addewid bythol a wnaeth Duw bryd hynny (Genesis 8.22):

    ‘Tra pery’r ddaear, ni pheidia pryd hau a medi, oerni a gwres, haf a gaeaf, dydd a nos.’

  6. Amlygwch fod enfys y cynhaeaf yn dathlu’r pethau da mewn bywyd, sydd yno ar ein cyfer i ni eu mwynhau. Mae ‘lliwiau’r enfys’ yn llenwi’r byd o’n cwmpas. Ydyn ni’n cymryd ein hamser i sylwi arnyn nhw a’u gwerthfawrogi?

  7. Yn olaf, meddyliwch am y ffaith bod pob enfys ymhen amser yn diflannu. Eglurwch y gallai hynny ddigwydd i’r enfys hon rydych chi wedi ei chreu heddiw hefyd – pe byddech chi’n gwneud salad ffrwythau, er mwyn cael blasu gwahanol liwiau enfys y cynhaeaf!

Amser i feddwl

Gweddi
Dduw’r Creawdwr,
Heddiw, rydyn ni’n ddiolchgar am . . .
yr holl wahanol liwiau sy’n perthyn i dy fyd di,
y ffrwythau hyfryd sydd mor flasus,
diolch am olau’r dydd a thywyllwch y nos
am harddwch y tymhorau sy’n newid
a diolch am batrwm natur ac adegau hau a medi.
Diolch i ti!
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Medi 2014    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon