Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

'Helo Sgryffi!' Mr Neb?

gan the Revd Sylvia Burgoyne

Addas ar gyfer

  • Dosbarth Derbyn / Cyfnod Allweddol 1

Nodau / Amcanion

Myfyrio ar y gred bod Duw’n gwybod am bopeth y byddwn ni’n ei wneud.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen pyped llaw (hosan neu faneg) yn cymeriadu’r mul bach, o’r enw Sgryffi.
  • Fe fydd arnoch chi angen rholyn hir o bapur llydan a nifer dda o sialciau lliw.
  • Efallai y byddwch chi’n dymuno ymgyfarwyddo â’r stori o’r Beibl sy’n cael ei hadrodd yng Ngham 5 y gwasanaeth hwn, o Lyfr Daniel 5.
  • Wrth i’r gwasanaeth ddechrau, gofalwch bod Sgryffi’r pyped wedi ei roi’n barod am eich llaw.

Gwasanaeth

  1. Mae Sgryffi’r pyped yn cyfarch y plant. Anogwch y plant i godi eu llaw a dweud, ‘Helo, Sgryffi!’

    Os mai dyma’r tro cyntaf i’r plant weld Sgryffi, fe fydd angen i chi ddefnyddio’r cyflwyniad canlynol.

    Mae Liwsi Jên yn byw ar fferm gyda’i mam, Mrs Bryn, a’i thad Mr Bryn y ffermwr, a’i brawd bach, Tomos. Mae Liwsi Jên wrth ei bodd efo Sgryffi. Mae hi’n gofalu amdano. Mae hi’n mwynhau ei gwmni, ac mae’n siarad gyda Sgryffi’n aml iawn – pan fydd hi’n hapus, a phan fydd hi’n teimlo’n drist hefyd. Sgryffi yw ei ffrind gorau.
  2. Roedd gan Liwsi Jên lawer o bethau i’w dweud wrth Sgryffi pan redodd i’r stabl ar ôl yr ysgol. ‘Wyddost ti be, Sgryffi? Mae Mr Neb wedi bod yn gwneud lluniau ac yn ysgrifennu pethau drwg â sialc ar waliau iard yr ysgol! Roedd gwasanaeth arbennig heddiw, ac fe ofynnodd Mr Thomas pwy oedd wedi gwneud y fath beth. Roedd Mr Thomas yn swnio’n ddig iawn. Pan welodd fod pawb ohonom yn eistedd yn hollol dawel a neb yn cynnig ateb iddo, fe ddywedodd fod yn rhaid iddo dybio felly mai Mr Neb a wnaeth. Rydw i newydd ofyn i Mam pwy yw Mr Neb. Roeddwn i’n meddwl efallai mai ysbryd neu rywbeth felly oedd o. Ond wyddost ti beth wnaeth hi? Chwerthin! Fe ddywedodd hi nad oes y fath berson yn bod â Mr Neb, ac mae pobl yn dweud hynny pan fydd neb yn ddigon dewr i gyfaddef eu bod wedi bod yn ddrwg. Beth bynnag, fe ddywedodd Mr Thomas, er nad yw’n iawn fel arfer i ysgrifennu ar waliau, y byddai’n iawn i ni, am y tro, cyn i’r wal gael ei glanhau, wneud lluniau â sialc ar wal yr iard o hyn tan ddiwedd yr wythnos. Mae Mr Thomas eisiau i ni wneud llun neu ysgrifennu brawddeg ynghylch yr hyn rydyn ni’n ei hoffi am yr ysgol. Rydw i’n hoffi . . . .’

    Gofynnwch i’r plant, ‘Beth ydych chi’n feddwl mae Liwsi yn ei hoffi? Beth ydych chi’n ei hoffi am eich ysgol chi?’

    ‘Felly wyt ti’n gweld, Sgryffi, rydyn ni i gyd yn mynd i gael bod yn Mr Neb!’ meddai Liwsi Jên, gan chwerthin yn braf. Ymunodd Sgryffi yn yr hwyl – ‘Hi-ho, hi-ho!’

    Ar y rholyn hir o bapur, a chan ddefnyddio sialciau lliw, rhowch gyfle i’r plant wneud palmant graffiti.
    Tynnwch y pyped oddi am eich llaw.
  3. Ydych chi’n gwybod bod stori ysbryd yn y Beibl, (Daniel 5)?

    Yr ysgrifen ar y mur

    Lawer iawn, iawn, o flynyddoedd yn ôl, roedd y Brenin Belsassar yn cynnal parti. Roedd yn dymuno dangos i’w westeion pa mor gyfoethog a pha mor bwysig yr oedd. Felly, fe orchmynnodd i’w weision arllwys y gwin i’r cwpanau aur ac arian a oedd wedi cael eu dwyn o’r deml yn Jerwsalem, a’u rhoi i’r gwesteion. Wrth iddyn nhw yfed a gwledda mwy a mwy roedd y bobl yn moli duwiau oedd wedi eu gwneud allan o aur, arian, metel, pren a charreg.

    Yn sydyn, fe ymddangosodd llaw o’r nenfwd, ac roedd bys y llaw fel petai’n ysgrifennu ar y mur yn y neuadd lle roedden nhw’n gwledda. Wrth i’r brenin wylio hyn, fe aeth ei wyneb yn welw, ac roedd wedi cael cymaint o fraw roedd ei bengliniau’n curo yn erbyn ei gilydd. Doedd neb o’r bobl ddoeth a oedd yn y palas yn gallu egluro i’r brenin beth oedd ystyr yr ysgrifen ar y mur. Yna, fe ddywedodd y frenhines wrtho am ddyn o’r enw Daniel. Roedd Daniel yn gallu datrys problemau anodd.

    Felly, fe alwodd y Brenin Belsassar am Daniel a gofyn iddo beth oedd ystyr y geiriau oedd wedi cael eu hysgrifennu ar y mur. Dywedodd Daniel wrth y brenin bod Duw’n ddig iawn wrtho am yfed o’r cwpanau oedd wedi cael eu dwyn. Ac roedd yn dweud eu bod yn gwneud peth twp iawn wrth gredu bod y duwiau roedden nhw wedi eu creu eu hunain, allan o aur ac arian a defnyddiau eraill, yn fwy ac yn well na Duw ei hun. Rhybudd i’r brenin oedd yr ysgrifen y byddai brenin arall yn dod yn ei le.

    Roedd Daniel yn hollol gywir. Y noson honno, fe laddwyd y Brenin Belsassar mewn brwydr.

Amser i feddwl

Ydych chi’n meddwl y gallwn ni guddio ein camgymeriadau oddi wrth Dduw?
Ydyn ni’n ddigon dewr i allu cyfaddef pan fyddwn ni wedi gwneud rhywbeth o’i le? Ydyn ni’n ddigon mawr i ddweud, ‘Sori’?

Gweddi
Annwyl Dduw,
Rwyt ti’n fawr ac yn dda; rydyn ni’n fach ac yn gwneud pethau anghywir yn aml.
Diolch ein bod ni’n gallu dweud ‘Sori’, a gwybod dy fod ti’n dal i’n caru ni.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Hydref 2014    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon