Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Cerdded yn y glaw

gan Alan M. Barker

Addas ar gyfer

  • Dosbarth Derbyn / Cyfnod Allweddol 1

Nodau / Amcanion

Diolch am y glaw, a chydnabod bod dwr yn hanfodol ar gyfer bywyd.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen cot law, het ac esgidiau glaw.

Gwasanaeth

  1. Soniwch am y ffaith nad yw pobl fel arfer yn hoffi dyddiau glawog. Mae tywydd gwlyb yn sicr yn gallu amharu ar ddigwyddiadau sy’n cael eu cynnal yn yr awyr agored, ond mae glaw’n hanfodol ar gyfer bywyd ar y blaned Daear.

  2. Gwahoddwch y plant i ymuno â chi ar daith ddychmygol ar ddiwrnod glawog. Dychmygwch eich bod yn gwisgo eich dillad glaw a’ch esgidiau glaw ac ewch ymlaen â hyn gan annog y plant i ddefnyddio’u holl synhwyrau yn ystod y ‘daith’. Byddwch yn ddigon hamddenol, gan ganiatáu i’r plant gyfrannu at y chwarae rôl, a cheisiwch gynnwys yr agweddau canlynol sy’n ymwneud â’r synhwyrau mewn perthynas â’r glaw.

    - Gwrandewch, mae’n bwrw glaw! Ydych chi’n gallu clywed y dafnau glaw’n taro ar y ffenest ac yn disgyn ar y to? Gadewch i ni wisgo ein dillad glaw a mynd allan. Ydych chi’n gallu clywed synau eraill y mae’r glaw yn eu hachosi? Swn ‘sblish’ y dafnau ar y dail, a ‘sblash’ wrth iddyn nhw ddisgyn i’r pyllau dwr. Ac mae’n byrlymu yn y gwteri.
    - Anadlwch yn ddwfn. Beth allwch chi ei arogli? Ai persawr y blodau, arogl y dail gwlyb neu hyd yn oed y pridd mwdlyd? Mae glaw yn golchi ac yn adnewyddu popeth. Fe fyddai’r byd o’n cwmpas yn sych ac yn llychlyd iawn heb y glaw. Fe fydden ni ein hunain yn llychlyd ac yn fudr iawn hefyd heb y glaw. Mae’r glaw yn rhoi dwr i ni fel y gallwn ymolchi a golchi ein dillad ynddo.
    - Teimlwch y dafnau glaw ar eich wyneb. Mae’n disgyn o’r cymylau llwyd. Mae’n gynnes ac yn fwyn. A fydd y tywydd yn troi’n stormus? Sut olwg fydd ar y cymylau bryd hynny? Sut bydd y glaw trwm yn teimlo pan fydd yn disgyn arnoch chi wedyn? Gadewch i ni ddiolch am y dillad glaw a’r esgidiau glaw sy’n ein cadw ni’n sych ac yn gynnes. Meddyliwch am bobl sy’n gweithio allan yn yr awyr agored mewn pob math o dywydd.
    - Edrychwch ar y glaw yn ffurfio swigod yn y pyllau ac yn llifo i lawr y beipen i’r gwter neu i’r ffordd. Mae’n diflannu lawr y draeniau. I ble bydd y dwr yn mynd? Fe fydd y glaw yn canfod ei ffordd i nentydd ac afonydd, ac yn y pen draw i’r môr! Bydd rhywfaint o’r dwr yn cael ei sychu gan yr haul ac yn anweddu i ffurfio rhagor o gymylau. Ond mae llawer o’r glaw yn suddo i’r pridd ac yn cael ei sugno gan wreiddiau coed a phlanhigion. Edrychwch fel maen nhw’n tyfu! Heb y glaw fe fyddai pob coeden a phlanhigyn yn crino ac yn marw!
    - Gwthiwch eich tafod allan i weld a oes blas ar y dafnau glaw. Mae’n glir ac yn bur. Caiff y dwr ei gasglu a’i gronni mewn llynnoedd mawr. A dyna’r dwr sy’n dod trwy bibellau i’n cartrefi. Fel y planhigion, mae arnom ninnau angen dwr i’w yfed. Mae’n dda i ni. Heb ddwr fe fydden ninnau hefyd yn marw.

  3. I orffen eich taith ddychmygol, soniwch mor dda yw hi i gael mynd yn ôl i mewn o’r glaw. Tynnwch eich dillad glaw ac ewch dros yr hyn rydych chi wedi bod yn sôn amdano heddiw ynghylch pa mor bwysig yw glaw. Pwysleisiwch fod glaw yn dod â bywyd ac yn cadw pethau’n fyw!

Amser i feddwl

Gwahoddwch y plant i gymryd saib er mwyn gweddïo a myfyrio, gan ddal eu dwylo allan â’u cledrau i fyny, fel pe bydden nhw’n teimlo’r glaw yn disgyn arnyn nhw.

Gweddi
Arglwydd,
Gad i ni fod yn ddiolchgar am . . .
y synhwyrau sy’n ein helpu i fwynhau ac archwilio’r Ddaear.
Gadewch i ni fod yn ddiolchgar am . . .
y glaw adfywiol, dwr bywyd.
Amen.

Cân/cerddoriaeth

Fe welwch addasiad yma o eiriau’r emyn ‘Thank you, Lord, for this new day’, gallwch ei haddasu eich hunan fel y mynnoch chi.

Diolch heddiw wnawn nawr am y glaw,
Diolch heddiw wnawn nawr am y glaw,
Diolch heddiw wnawn nawr am y glaw,
Heddiw yma nawr.

Pitran, patran, sblish, sblash, sblosh,*
Pitran, patran, sblish, sblash, sblosh,
Pitran, patran, sblish, sblash, sblosh,
Diolch am y glaw!

Diolch heddiw wnawn am sgidiau glaw (x 3)
Cawn neidio yn y pyllau!

Diolch heddiw wnawn am flodau hardd (x 3)
yn tyfu’n dlws i ni!

Diolch heddiw wnawn am afon fawr (x 3)
Yn llifo tua’r môr!

Diolch heddiw wnawn am ddwr glân, clir (x 3)
I ymolchi ac i’w yfed!.

* Fe fyddai’n bosib i chi rannu geiriau’r llinell hon i’w canu gan wahanol grwpiau.

Dyddiad cyhoeddi: Hydref 2014    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon