Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Dysgwch bopeth allwch chi!

gan Alison Thurlow

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 2

Nodau / Amcanion

Annog agwedd gadarnhaol tuag at ddysgu.

Paratoad a Deunyddiau

  • Efallai yr hoffech hi drefnu bod geiriau’r adnod o Diarhebion 19 a/neu’r myfyrdod  ar ddiwedd y gwasanaeth ar gael gennych chi i’w dangos, mae’r ddau beth i’w cael yn yr adran ‘Amser i feddwl’, ond dewisol yw hyn.

Gwasanaeth

  1. Cyflwynwch y gwasanaeth trwy ddweud, ‘Heddiw, rydyn ni’n mynd i feddwl am ddysgu, a meddwl am wneud ein gorau o’n hamser yn yr ysgol.’

  2. Gofynnwch i’r plant ydyn nhw wedi sylwi fel mae rhai oedolion, pan fyddan nhw’n ceisio ein hannog i weithio’n galed, yn dechrau trwy ddweud gymaint y maen nhw’n difaru na fydden nhw wedi gwneud mwy o ymdrech pan oedden nhw yn eich oed chi. Maen nhw’n dweud rhywbeth fel, ‘Biti na fyddwn i wedi gweithio ychydig bach caletach pan oeddwn i yn yr ysgol!’

    Gofynnwch i’r plant ydyn nhw’n gallu meddwl am rywun fel eu rhieni, rhywun sy’n gofalu amdanyn nhw, neu aelod hyn o’u teulu, sydd wedi dweud rhywbeth felly wrthyn nhw ryw dro, ‘Fe fyddai’n dda gen i pe bawn i wedi  . . .’ neu, ‘Fe fyddai’n dda gen i pe bawn i ddim wedi . . . pan oeddwn i’n ifanc.’ (Byddwch yn barod i ychwanegu rhai enghreifftiau eich hunan i annog y sgwrs, os bydd angen.)

  3. Dywedwch wrth y plant, er bod rhai o’r enghreifftiau hyn yn swnio’n ddiflas iawn pan fyddwch chi’n gorfod gwrando arnyn nhw, mae’r bobl sy’n dweud hyn wrthych chi’n meddwl yr hyn maen nhw’n ei ddweud o ddifrif – a dim ond eisiau’r gorau i chi fel plant y byddan nhw wrth geisio eich annog i wneud yn fawr o’ch amser yn yr ysgol.

  4. Eglurwch eich bod yn awr yn mynd i adrodd stori o’r Beibl am fan arbennig lle’r aeth Iesu i ddysgu pethau pan oedd yn fachgen.

Iesu yn y deml

Pan oedd yn fachgen bach, roedd Iesu’n byw yn ei gartref gyda Mair ei fam a Joseff. Saer oedd Joseff, ac mae’n debygol iawn y byddai Iesu’n helpu Joseff yn aml yng ngweithdy’r saer. Felly, fe fyddai wedi dysgu sut i ddefnyddio gwahanol offer, a dysgu sut i wneud pethau allan o bren.

Roedd Iesu’n treulio amser mewn ysgol hefyd. Roedd y math o ysgol y byddai’n mynd iddi’n cael ei chynnal yn y deml leol, neu’r synagog, sef eglwys y bobl Iddewig. Yno, fe fyddai’r athrawon yn addysgu’r plant i ddarllen ac ysgrifennu, a’u dysgu am Dduw hefyd. Dyna’r math o ysgol y byddai Iesu wedi mynd iddi, fel plant eraill o’r un oed, ac fe fyddai wedi gwneud yn fawr o’i gyfle i ddysgu.

Unwaith y flwyddyn fe fyddai pobl o bentref Iesu, a phob pentref arall o gwmpas hefyd, yn mynd i ddinas Jerwsalem am ychydig o ddyddiau i ddathliad arbennig. Fe aeth Mair a Joseff a Iesu gyda nhw, i’r dathliad hwn a chael amser da yno. Ond pan oedden nhw ar y ffordd adref fe sylwodd Mair nad oedd Iesu gyda hi. Fe ofynnodd i Joseff oedd o wedi gweld y bachgen. Na. Doedd yr un o’r ddau’n gallu ei weld yn unman. Roedd Iesu ar goll, ac fe awgrymodd Joseff y byddai’n rhaid iddyn nhw fynd yn ôl i Jerwsalem i chwilio amdano.

Roedd Mair a Joseff yn pryderu am Iesu wrth iddyn nhw frysio’n ôl i’r ddinas. Ble gallai Iesu fod? Fe aethon nhw i chwilio yn y gwesty lle buon nhw’n aros, a chwilio ar hyd y strydoedd o gwmpas.

Wedi chwilio am amser hir, fe wnaethon nhw benderfynu mynd i’r deml i orffwys, sef y synagog fawr yng nghanol y ddinas. Wrth iddyn nhw gerdded i mewn trwy ddrysau’r deml, fe welson nhw Iesu’n eistedd yno yn siarad gyda’r offeiriadon!

Ac wrth iddyn nhw fynd yn nes ato, roedden nhw’n gallu ei glywed yn gofyn cwestiynau ac yn dysgu cymaint ag a allai, gan wrando a dysgu trwy’r amser. Roedd yr offeiriadon wedi synnu gymaint o wybodaeth oedd gan Iesu, a pha mor frwdfrydig yr oedd i ddysgu mwy.

Wrth i Mair a Joseff gychwyn adref eto, a Iesu gyda nhw y tro yma, fe wnaethon nhw ofyn iddo pam roedd wedi aros yn y deml. A dyma oedd yr ateb a roddodd Iesu iddyn nhw. ‘Oeddech chi ddim yn sylweddoli mai yno y byddwn i, yn nhy Dduw, yn dysgu mwy am Dduw?’

Amser i feddwl

Gofynnwch i’r plant beth maen nhw’n feddwl, neu awgrymwch fod o leiaf ddau beth pwysig y gallwn ni eu dysgu o’r stori:

– gweithiai Iesu’n galed ac roedd yn awyddus i ddysgu.
-meddyliai Iesu ei bod yn bwysig dysgu am Dduw yn ogystal â dysgu darllen, dysgu ysgrifennu a dysgu am bynciau eraill hefyd.

Eglurwch fod casgliad o ddywediadau i’w cael, mewn rhan arall o’r Beibl, casgliad o ddywediadau doeth sy’n cael eu galw’n ‘ddiarhebion’ ac mae un ohonyn nhw’n dweud rhywbeth fel hyn:

Gwnewch gymwynas â chi eich hunan a dysgwch bopeth allwch chi.

Y mae’r synhwyrol yn caru ei fywyd, a’r un sy’n diogelu gwybodaeth yn cael daioni (Diarhebion 19.8).

Dywedwch eich bod yn credu bod hwn yn gyngor da ac, os yw’n briodol, terfynwch y gwasanaeth trwy ddweud yr hoffech chi eu gadael gyda’r geiriau canlynol iddyn nhw feddwl amdanyn nhw:

Dysgwch bopeth allwch chi tra rydych chi yn yr ysgol hon. Dysgwch am ddarllen ac am ysgrifennu, am fathemateg ac am wyddoniaeth, am hanes a daearyddiaeth, am gelf ac am gerddoriaeth, am addysg gorfforol ac am lawer o bethau eraill. Ond peidiwch ag esgeuluso edrych ar y Beibl a dysgu rhywbeth am Dduw hefyd, oherwydd fe fydd hynny’n eich helpu i wybod sut i drin pobl, sut i ymddwyn, a sut i fyw bywyd llawn.

Gweddi
Annwyl Dduw,
Diolch am fy ysgol ac am yr holl bobl sy’n gweithio yma.
Diolch i ti hefyd am yr holl blant sy’n dysgu yma.
Helpa ni i feddwl mwy, i wrando mwy, ac i ddysgu mwy yn ystod y flwyddyn hon.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Hydref 2014    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon